Sylweddu gwerth asedau

URN: SFJOD7
Sectorau Busnes (Suites): Darparu Gweithredol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

​​Mae'r safon hon yn ymwneud â chanfod gwerth asedau trosglwyddadwy a rhai symudol, gan benderfynu ar amserlen ar gyfer eu sylweddu a sicrhau bod hynny'n digwydd mewn modd mor gost-effeithiol â phosibl.

Bydd angen hefyd i chi nodi unrhyw asedau symudol sydd mewn perygl o gael eu symud, a chymryd camau priodol. Bydd angen i chi dynnu'r enillion oddi ar yr hyn sy'n ddyledus ar gyfrif y cwsmer, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i ddyledwyr yn rheolaidd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​​1 cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill bob amser, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
2 cymhwyso'r mesurau diogeledd gofynnol, diogelu data, rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ar draws eich dyletswyddau gwaith eich hun
3 canfod gwerth yr asedau sydd i'w sylweddu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
4 sylweddu asedau symudol yn unol ag amserlen sy'n fwyaf addas ar gyfer mwyafu gwerthoedd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol
5 penderfynu ar sylweddu asedau trosglwyddadwy, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
6 nodi asedau symudol y mae perygl i'r dyledwr eu symud, gydag effaith niweidiol ar yr ystâd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
7 cymryd camau i leiafu'r perygl y bydd y dyledwr yn symud asedau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
8 gwirio lefel optimwm cost-effeithiolrwydd y broses o sylweddu asedau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol
9 gwrthbwyso'r enillion yn erbyn yr hyn sy'n ddyledus ar gyfrif y cwsmer, oddi mewn i derfynau amser sefydliadol
10 cofnodi camau gweithredu a gymerwyd yn unol â rheoliadau diogelu data a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
11 hysbysu dyledwyr ynghylch y cynnydd wrth sylweddu gwerth asedau, yn unol â rheoliadau diogelu data a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer sylweddu asedau
2 deddfwriaeth a rheoliadau ar gyfer sylweddu asedau, gan gynnwys:
2.1 rheoliadau iechyd a diogelwch
2.2 rheoliadau diogeledd
2.3 rheoliadau diogelu data
3 yr awdurdodau cyfreithiol sy'n ymwneud â gorfodi
4 ble mae mynd i gael gwybodaeth
5 y terfynau amser sy'n ymwneud â sylweddu asedau
6 pa asedau y gallai fod perygl iddynt gael eu symud, a pha gamau gweithredu i'w cymryd
7 sut mae optimeiddio gwerth asedau
8 y dogfennau sy'n ofynnol wrth sylweddu asedau
9 pwysigrwydd addysgu'r cwsmer
10 hawliau dyledwyr
11 technegau ar gyfer delio gyda chwsmeriaid sy'n gwrthod cydweithredu
12 gweithdrefnau unrhyw drydydd partïon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Llywodraeth

URN gwreiddiol

O22N6.5.16

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion gweithredol y Gwasanaeth Sifil, Swyddogion a chynorthwywyr gweinyddol y Gwasanaeth Sifil

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Trosglwyddadwy; symudol; asedau; cost-effeithiolrwydd; gwerth; optimwm; gwerthiant; prynu nôl; cwsmer; dyledwr; y gellir ei dynnu; gwrthbwyso; gweithredol; darparu;