Rheoli adnoddau ar gyfer achosion proffil uchel neu eithriadol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd

URN: SFJMR1
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n rheoli adnoddau ac achosion proffil uchel neu eithriadol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd. Bydd yr adnoddau hyn yn cynnwys y rheiny a ddyrannwyd i agweddau amrywiol ar reoli rhaglen y llys a byddant yn cynnwys unigolion o bartïon allanol a rhanddeiliaid. Bydd yr achosion proffil uchel neu eithriadol yn cynnwys trefnu cyfarfodydd a deall beth i'w ddisgwyl a chyfleu hyn i'ch cydweithwyr a rhanddeiliaid. 

Mae'r term "achosion proffil uchel neu eithriadol" yn ymwneud â'r achosion hynny sy'n achosion proffil uchel yn y cyfryngau, a'r rheiny sy'n ymwneud â lles y cyhoedd. 

Bydd hyn yn berthnasol i lysoedd a thribiwnlysoedd o feintiau amrywiol, ac amrywiaeth eang o anghenion o ran adnoddau a busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid, a thrafod â nhw, i bennu gofynion i lwyddo yn unol ag amcanion sefydliadol  2. cynnal asesiad cynhwysfawr o’r adnoddau sydd eu hangen i fodloni amcanion sefydliadol 3. rheoli’r effaith ar adeiladau ac adnoddau ar gyfer cynnal rhaglenni llys o ddydd i ddydd, yn unol â gofynion sefydliadol  4. cynnal asesiad risg a chymryd camau priodol o ran achosion proffil uchel neu eithriadol 5. monitro adnoddau a chymryd camau priodol i ddelio ag unrhyw amrywiannau sylweddol rhwng adnoddau gwirioneddol a chynlluniedig, yn unol â gofynion sefydliadol  6. datrys materion annisgwyl mewn amgylchedd llys a thribiwnlys, yn unol â gofynion sefydliadol 7. cyfeirio materion y tu allan i’ch cyfrifoldeb at yr unigolion perthnasol, yn unol â gofynion sefydliadol 8. dilyn arweiniad ar gyfer delio ag ymholiadau’r cyfryngau, yn unol â gofynion sefydliadol 9. monitro cynnydd achosion proffil uchel neu eithriadol, yn unol â gofynion sefydliadol 10. sefydlu’r angen am drefniadau diogelwch neu adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer achosion proffil uchel neu eithriadol  11. dyrannu adnoddau ar gyfer achosion proffil uchel neu eithriadol, yn unol â gofynion sefydliadol 12. briffio cydweithwyr ar achosion proffil uchel neu eithriadol, yn unol â gofynion sefydliadol 13. cyfleu gwybodaeth am achosion proffil uchel neu eithriadol, yn unol â gofynion sefydliadol 14. cynnal cofnodion cywir a chyfoes, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich rôl, eich cyfrifoldebau a’ch cymhwysedd, ac i bwy i ofyn am gymorth a chyngor pan fydd angen  2. deddfwriaeth, arweiniad a gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i rôl y swydd  3. yr amrywiaeth o adnoddau barnwrol 4. argaeledd a safonau adeiladau ac offer 5. cymhlethdodau anghenion darpar dystion a sut gellir bodloni’r rhain 6. argaeledd rhanddeiliaid mewn achosion proffil uchel neu eithriadol 7. achosion wedi’u cyfyngu gan amser a gofynion busnes ad hoc  8. gofynion gwyliau o ran llys gwarchodaeth  9. y data a’r wybodaeth fydd yn cael eu casglu a’u dadansoddi i lywio rhaglennu llys  10. sut i drafod defnyddio adnoddau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid i sicrhau’r defnydd gorau ar gyfer pawb dan sylw  11. risgiau ac effeithiau sy’n gysylltiedig â’r mathau o adnoddau a ddefnyddir, a sut i reoli’r rhain 12. ble i gael gwybodaeth am ddefnydd blaenorol o adnoddau ar gyfer achosion proffil uchel neu eithriadol 13. pwy sy’n cyflenwi’r adnoddau y mae eu hangen arnoch? 14. sut i ddiwygio rhaglenni llys o ganlyniad i achos proffil uchel neu eithriadol 15. pwysigrwydd monitro ansawdd a defnydd o adnoddau ar gyfer achosion proffil uchel ac eithriadol  16. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer sicrhau bod gwybodaeth yn aros yn ddiogel 17. sut i gynnal asesiad risg 18. sut i adolygu trefniadau diogelwch 19. yr amrywiaeth o fesurau a threfniadau diogelwch sydd ar waith 20. sut i gysylltu â’r cyfryngau, yn unol â gofynion sefydliadol 21. sut i baratoi staff/cydweithwyr ar gyfer achosion proffil uchel neu eithriadol 22. pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd 23. rolau a chyfrifoldebau defnyddwyr llys a thribiwnlys o fewn eich maes cyfrifoldeb

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJMR1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Llysoedd

Cod SOC

4161

Geiriau Allweddol

Adnoddau rhaglennu llys, sefyllfaoedd anodd, amgylchedd llys, monitro ansawdd adnoddau, trafod gyda chydweithwyr ynglŷn â defnyddio adnoddau a rennir