Cynllunio, gweithredu a rheoli'r gwaith o rannu gwybodaeth ac arfer da i lywio arloesedd a gwella'r gwasanaeth a ddarperir

URN: SFJHI1
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwasanaethau'r Sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rhannu gwybodaeth ac arfer da oddi mewn i sefydliadau a rhyngddynt er mwyn llywio a gwella ymarfer a chyflwyno gwasanaeth. Bydd hefyd yn cynorthwyo rheolwyr i oresgyn rhwystrau a phethau sy'n llesteirio rhannu gwybodaeth ac arfer da er lles y sector. Y nod yw helpu rheolwyr i ganfod meysydd arfer da oddi mewn i'w meysydd cyfrifoldeb eu hunain a rhannu hynny gydag eraill. Nod arall yw helpu rheolwyr i ddysgu o brofiad pobl eraill a bod yn agored i syniadau a gynhyrchir y tu allan i'w sefydliad eu hunain y gellid eu defnyddio, eu diwygio neu eu haddasu yn eu cyd-destun gwaith eu hunain i wella ymarfer a chyflwyno gwasanaeth. Mae'r safon yn annog rheolwyr i adolygu rhannu arfer da yn eu sefydliad eu hunain, h.y. annog datblygu 'sefydliad sy'n dysgu'. Mae hefyd yn cynnal gwaith partneriaeth ac yn darparu sylfaen ar ei gyfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi rhesymau dros rannu gwybodaeth ac arfer da i wella cyflwyno gwasanaeth a rhannu gydag eraill yn y sefydliad
  2. adolygu prosesau ac ymarfer yn rheolaidd yn eich maes cyfrifoldeb eich hun a gwerthuso eu gwerth a'u potensial o ran gallu eu trosglwyddo i leoliadau eraill yn fewnol ac yn allanol
  3. ymchwilio i feincnodau arfer da perthnasol ac asesu eich arfer da eich hun yn eu herbyn
  4. canfod a defnyddio trefniadau rhannu gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn eich sefydliad eich hun
  5. cyfathrebu'r trefniadau ar gyfer rhannu arfer da gyda llunwyr penderfyniadau perthnasol mewn sefydliadau a sicrhau eu cytundeb a'u hymrwymiad i'r broses
  6. creu cyfleoedd i ddatblygu trefniadau i rannu gwybodaeth ac arfer da gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  7. nodi cyfleoedd i gyrchu gwybodaeth am arfer da o ffynonellau y tu allan i'r sefydliad a allai lywio eich ymarfer eich hun
  8. gwerthuso gwybodaeth a dderbyniwyd yng nghyd-destun eich maes rheoli a gweithredu eich hun, a gwirio'i dilysrwydd a'r gallu i'w throsglwyddo
  9. defnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd i lywio a gwella eich ymarfer eich hun ac ymarfer eich sefydliad a chyflwyno gwasanaeth
  10. cynnal archwiliad o'ch sefydliad eich hun i adolygu asedau gwybodaeth a phrosesau rhannu yn unol â phroses a gweithdrefnau eich sefydliad
  11. dadansoddi canlyniadau'r archwiliad i ganfod arfer da y gellid ei rannu gydag eraill o fewn eich maes cyfrifoldeb eich hun
  12. nodi elfennau annigonol o ran asedau gwybodaeth a ffyrdd o'u cywiro
  13. creu cyfleoedd i wella asedau gwybodaeth a phrosesau rhannu gwybodaeth o fewn eich sefydliad eich hun
  14. hybu gwerth rhannu gwybodaeth ac arfer da i wella ymarfer y sefydliad a'r gwasanaeth mae'n ei gyflwyno i randdeiliaid
  15. gwirio bod prosesau cyfnewid a rhannu gwybodaeth yn cydymffurfio â phrotocolau a gweithdrefnau'r sefydliad a'r holl ofynion cyfreithiol a moesegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y rhesymau dros rannu gwybodaeth ynghylch arfer da gydag eraill
  2. ffyrdd o feincnodi arfer da a pham mae hynny'n bwysig
  3. pam mae'n bwysig ystyried a yw'r wybodaeth sy'n cael ei rhannu yn gallu cael ei throsglwyddo
  4. beth yw asedau gwybodaeth a pham maen nhw'n bwysig i'r busnes
  5. gwerth rhannu gwybodaeth ac arfer da gydag eraill i wella ased gwybodaeth y busnes a dod â gwerth ychwanegol
  6. pam mae'n bwysig hybu manteision rhannu gwybodaeth ac arfer da ymhlith eraill
  7. sut mae cynnal archwiliad gwybodaeth
  8. y cyfraniad mae rhannu gwybodaeth ac arfer da yn ei wneud i wella ansawdd y gwasanaeth a gyflwynir yn barhaus
  9. gofynion cyfreithiol a Chodau Ymarfer sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth ar draws y sector

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn barhaus yn ceisio adolygu eich perfformiad eich hun a pherfformiad eich sefydliad i ganfod arfer da y gellir ei rannu ag eraill
  2. Rydych yn cyfathrebu ac yn hyrwyddo'r rhesymau dros rannu arfer da gydag eraill y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad i hwyluso'r broses gyfnewid
  3. Rydych yn cael hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau mewnol ac allanol i brosesau cyfnewid
  4. Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, polisïau sefydliadol  a chodau ymarfer proffesiynol, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud ag eiddo deallusol, ac yn gwirio bod eraill yn cydymffurfio â hwy
  5. Rydych yn defnyddio arfer da gan eraill, o fewn a'r tu allan i'r sefydliad, i wella'r gwasanaeth rydych chi'n ei gyflwyno
  6. Rydych yn ceisio ac yn creu cyfleoedd i ddefnyddio arfer da gan eraill i wella'r gwasanaeth mae'r sefydliad yn ei gyflwyno
  7. Rydych yn ceisio ac yn creu cyfleoedd i rannu eich arfer da eich hun gydag eraill
  8. Rydych yn gweithredu oddi mewn i ffiniau eich rôl a'ch cyfrifoldeb eich hun
  9. Rydych yn creu cyfleoedd ar gyfer perthnasoedd gwerth ychwanegol

Sgiliau

​Cyfathrebu
Cyd-drafod
Cynnwys eraill
Ymgynghori
Cynllunio
Adolygu
Rhwydweithio
Datrys problemau
Dadansoddi
Monitro
Gwneud penderfyniadau
Blaenoriaethu
Rheoli gwybodaeth
Adfyfyrio


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn gysylltiedig â safon HF14, ond ar wahân iddi: Cynllunio, gweithredu a rheoli systemau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, data a chudd-wybodaeth sensitif


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ HI1

Galwedigaethau Perthnasol

uwch-reolwyr a rheolwyr canol yng ngwasanaethau'r sector Cyfiawnder

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynllunio; gweithredu, rheoli; rhannu gwybodaeth; arfer da; arloesedd; gwella; cyflwyno gwasanaeth