Datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaeth

URN: SFJHG4
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwasanaethau'r Sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn yn ymwneud â chefnogi rheolwyr sy'n gweithredu ar lefel strategol ac sydd â'r awdurdod i wneud penderfyniadau a'u rhoi ar waith ar ran eu sefydliadau. Nhw fydd yn gyfrifol am reoli'r broses bartneriaeth yn gyffredinol, ond ni fyddant o reidrwydd yn rheoli staff y bartneriaeth o ddydd i ddydd.

Mae `Partneriaeth' yn cynnwys partneriaethau statudol yng Nghymru a Lloegr a phartneriaethau anstatudol. Mae'r safon yn fwy strategol na gwaith amlasiantaeth, sy'n gallu bod ar lefel weithredol.

Fe'i hargymhellir ar gyfer uwch-reolwyr sy'n ymwneud â datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithredu gyda phartneriaid i sefydlu fframweithiau strategol i oruchwylio gwaith y bartneriaeth
  2. sefydlu a chytuno gydag aelodau'r bartneriaeth ar y nodau strategol a'r cynllun gweithredu ar gyfer y bartneriaeth
  3. sefydlu a chytuno ar y cyfraniad y bydd pob partner yn ei wneud i waith partneriaethau
  4. canfod ac ymgysylltu â phartneriaid priodol er mwyn datblygu agendâu partneriaeth cyffredinol                                     
  5. sefydlu a chytuno ar brosesau a gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso llywodraethu, aelodaeth a rheolaeth partneriaethau
  6. datblygu, cytuno a gweithredu protocolau ar gyfer cyflawni nodau ac amcanion partneriaeth
  7. sefydlu, cytuno a gweithredu prosesau ar gyfer lledaenu gwybodaeth am waith y bartneriaeth oddi mewn i asiantaethau unigol ac i'r gymuned ehangach
  8. sefydlu a chytuno ar brosesau ar gyfer casglu a rhannu gwybodaeth ac arfer da am waith partneriaeth, i wella cyflawniad nodau ac amcanion
  9. sefydlu, cytuno a gweithredu prosesau i werthuso effeithiolrwydd partneriaethau
  10. adolygu canlyniadau prosesau gwerthuso gyda phartneriaid
  11. cytuno ar argymhellion o werthusiadau a'u gweithredu er mwyn gwella effeithiolrwydd partneriaethau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae datblygu protocolau llywodraethu
  2. nodau ac amcanion strategol gwahanol bartneriaid a sut gall hynny effeithio ar lywodraethu partneriaethau
  3. pam mae'n bwysig adnabod gwrthdaro a allai godi rhwng nodau partneriaethau ac amcanion sefydliadau unigol sy'n aelodau
  4. y cyfraniadau y gall gwahanol bartneriaid eu gwneud i waith partneriaethau, gan gynnwys adnoddau a rennir
  5. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a pham gall hynny wella'r gwasanaeth a gyflwynir a chynyddu hyder y cyhoedd
  6. ffactorau a blaenoriaethau newidiol yn genedlaethol ac yn lleol sy'n gallu cael effaith ar bartneriaethau, yr aelodau a'r nodau strategol
  7. y fframwaith deddfwriaethol mae gwaith partneriaeth yn gweithredu oddi mewn iddo
  8. sut mae tystio i waith partneriaeth effeithiol a'i werthuso

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn datblygu ac yn cyfathrebu nodau strategol yn glir, ochr yn ochr â gwrando ar farn pobl eraill ac ymateb iddynt
  2. Rydych yn dangos sensitifrwydd i ddiwylliant a gwerthoedd asiantaethau partner
  3. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
  4. Rydych yn arddangos ymddygiad sy'n dangos parch at eraill a pharodrwydd i gydweithio ag eraill
  5. Rydych yn deall agendâu a blaenoriaethau pobl eraill ac yn cyd-drafod yn unol â hynny
  6. Rydych yn creu cyfleoedd ar gyfer perthnasoedd gwerth ychwanegol
  7. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno ac mewn fformat sy'n hybu dealltwriaeth ac yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau
  8. Rydych yn cyfathrebu'n effeithiol â phartneriaid gan ddefnyddio dull ac arddull priodol
  9. Rydych yn creu ymdeimlad o ddiben ac agenda cyffredin
  10. Rydych yn cael hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
  11. Rydych yn cydnabod anghenion eraill i adolygu penderfyniadau gyda phobl eraill yn eu sefydliadau eu hunain
  12. Rydych yn adnabod y cyfleoedd a gyflwynir gan amrywiaeth pobl
  13. Rydych yn gosod gwerth ar gyfraniad pobl eraill i'r bartneriaeth

Sgiliau

​Meddwl yn strategol
Cyfathrebu
Cyd-drafod
Ymgynghori
Pennu amcanion
Cynllunio
Adolygu
Datrys problemau
Dadansoddi
Monitro
Gwneud penderfyniadau
Rheoli risgiau a manteision
Dylanwadu a darbwyllo
Cynnwys eraill


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn sefyll ar ei phen ei hun, ond gellid ei chysylltu â safon HG1: Sefydlu a rheoli cysylltiadau â chymunedau ehangach
MCI HD11: Cadeirio cyfarfodydd a chyfranogi ynddynt


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ HG4

Galwedigaethau Perthnasol

uwch-reolwyr a rheolwyr canol yng ngwasanaethau'r sector Cyfiawnder

Cod SOC


Geiriau Allweddol

datblygu partneriaethau amlasiantaeth; rheoli partneriaethau amlasiantaeth