Cynnal gwerthusiadau effeithiol o brosiectau a phrosesau

URN: SFJHF23
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwasanaethau'r Sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu rheolwyr i ddeall bod gwerthuso'n agwedd hanfodol ar eu swydd ac i gynnal gwerthusiadau'n effeithiol ac yn effeithlon. Bydd yn rhoi i reolwyr yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i gynnal gwerthusiad effeithiol. Mae'r safon yn un gyffredinol, a dylai rheolwyr ar bob lefel ymwneud â gwerthuso prosesau, gweithdrefnau a pherfformiad, boed y rheiny'n rhai newydd neu gyfredol, er mwyn canfod meysydd y gellid eu haddasu i wella'r gwasanaethau a ddarperir. Mae'n bwysig sicrhau bod y broses werthuso'n cael ei chynllunio cyn ei rhoi ar waith yn hytrach na'i rhoi ar waith yn ôl-weithredol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. nodi diben prosesau gwerthuso o ran canlyniadau a pherfformiad, yn unol â phrosesau eich sefydliad
2. cynllunio prosesau gwerthuso i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu hamseru'n effeithiol
3. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau ar gyfer rheoli a gweithredu prosesau gwerthuso
4. hysbysu a chynnwys eraill mewn prosesau gwerthuso, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
5. cytuno gyda rhanddeiliaid ar y meini prawf tystiolaeth a'r fethodoleg ar gyfer gwerthuso prosesau, gan gynnwys;
5.1. y dystiolaeth sydd i'w chasglu
5.2. dangosyddion ar gyfer y tymor byr, canolig a hir
5.3. y gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwerthusiadau
6. cyfathrebu prosesau gwerthuso i eraill, rhai y gallent effeithio'n uniongyrchol arnynt ac eraill lle na fyddai effaith uniongyrchol o reidrwydd, gan sicrhau eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
7. cytuno ar brosesau casglu gwybodaeth a data, eu gweithredu a'u rheoli er mwyn llywio gwerthusiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
8. adolygu swm, ansawdd a dilysrwydd data a gwybodaeth a gasglwyd gydag eraill a chymryd camau i lenwi'r bylchau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
9. nodi ac argymell gwelliannau i weithrediad prosesau newid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
10. adolygu argymhellion prosesau gwerthuso gydag eraill
11. asesu effeithiau posibl argymhellion ar gynlluniau strategol a gweithredol ac ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid
12. cytuno ar weithredu addasiadau arfaethedig yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
13. hysbysu a chynnwys eraill yn y canlyniadau arfaethedig ac argymell a gweithredu newidiadau lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
14. cydymffurfio â gofynion moesegol a chyfreithiol ynghylch casglu a storio gwybodaeth a data


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd deall a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli prosiectau
  2. pwysigrwydd gwerthuso canlyniadau ac allbynnau prosesau a gweithdrefnau
  3. pwysigrwydd cynnwys eraill mewn prosesau gwerthuso a ffyrdd o wneud hynny
  4. pwysigrwydd cytuno ar gyllideb ar gyfer prosesau gwerthuso a sicrhau cost-effeithiolrwydd
  5. pwysigrwydd cyfathrebu prosesau gwerthuso i eraill, gan sicrhau eu hymrwymiad a'u cydweithrediad, a dulliau ac arddulliau cyfathrebu priodol ar gyfer gwneud hynny
  6. pwysigrwydd cytuno ar feini prawf clir ar gyfer y gwerthusiad, beth yw eu ffurf bosibl, a sut gellir eu gweithredu
  7. y mathau o adnoddau sy'n angenrheidiol i gyflawni'r broses werthuso a sut mae eu cyrchu
  8. pwysigrwydd cadarnhau swm, ansawdd a dilysrwydd gwybodaeth a data a ffyrdd o wneud hynny
  9. pwysigrwydd dylanwadu ar y sefydliad fel ei fod yn gweithredu ar sail canlyniadau ac argymhellion y broses werthuso
  10. gofynion moesegol a chyfreithiol ar gyfer casglu a storio data a pham mae'n bwysig cydymffurfio â hwy

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn mynd ati i gynnwys eraill yn y gwaith o ddylunio a gweithredu'r  broses werthuso
  2. Rydych yn cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol ag eraill, gan ddefnyddio arddulliau a dulliau cyfathrebu priodol, beth yw nodau ac amcanion y gwerthusiad, gan sicrhau eu dealltwriaeth a'u bod wedi ymrwymo i'r broses                           
  3. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
  4. Rydych yn datblygu meini prawf gwerthuso sy'n ddilys, yn wrthrychol, yn glir ac yn dryloyw, ac yn eu cymhwyso mewn modd cyson
  5. Rydych yn darparu adborth clir, amserol ac adeiladol ar y broses werthuso ac yn ei ddefnyddio i lywio a gwella'r gwasanaeth a gyflwynir
  6. Rydych yn defnyddio eich sgiliau i ddylanwadu ar eraill i roi argymhellion sy'n deillio o'r gwerthusiad ar waith
  7. Rydych yn gweithredu oddi mewn i ffiniau eich rôl a'ch cyfrifoldeb eich hun
  8. Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol, ac yn sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â hwy hefyd

Sgiliau

​Cyfathrebu
Cyd-drafod
Ymgynghori
Dylanwadu
Cynllunio
Adolygu
Datrys problemau
Dadansoddi
Monitro
Gwneud penderfyniadau
Blaenoriaethu
Pennu amcanion
Rheoli gwybodaeth
Casglu adborth
Darparu adborth


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJHF23

Galwedigaethau Perthnasol

uwch-reolwyr a rheolwyr canol yng ngwasanaethau'r sector Cyfiawnder

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dull gweithredu effeithiol; gwerthuso prosiectau; gwerthuso prosesau