Hwyluso cyfathrebu i unigolion sy’n agored i niwed roi tystiolaeth yn y llys

URN: SFJGM2
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â hwyluso cyfathrebu i unigolion sy'n agored i niwed roi tystiolaeth yn y llys.  

Rydych chi wedi cael eich penodi i hwyluso cyfathrebu a dealltwriaeth well rhwng unigolion sydd ag anawsterau cyfathrebu a'r rheiny sy'n gofyn cwestiynau iddynt yn y llys. 

Byddwch yn helpu gwneud y broses gyfiawnder yn hygyrch i rai o'r unigolion sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac mewn rhai achosion, bydd hyn yn gwneud y gwahaniaeth i unigolion allu cymryd rhan yn effeithiol mewn achos llys teg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. mynd i’r llys gydag unigolion sy’n agored i niwed ar gyfer ymweliad i ymgyfarwyddo â’r llys cyn yr achos llys, pan fydd angen, i hwyluso cyfathrebu yn unol â threfniadau asiantaethau eraill 
2. cyfleu anghenion unigolion i bobl eraill berthnasol, yn unol â gofynion sefydliadol 
3. mynychu gwrandawiad rheolau sylfaenol i drafod a chytuno ar argymhellion sydd wedi eu cynnwys yn eich adroddiad llys  
4. mynychu ceisiadau herio mesurau arbennig yn ôl yr angen, yn unol â gofynion sefydliadol
5. hwyluso cyfathrebu yn y llys, yn unol â gwrandawiad rheolau sylfaenol, gan gynnwys:
5.1 cyfleu atebion gan unigolion yn union fel y byddwch yn eu clywed, heb newid geiriad na chyd-destun 
5.2 ailadrodd neu aralleirio cwestiynau i unigolion, yn unol â chyfarwyddyd y llys, heb newid yr ystyr na’r cyd-destun
5.3 ymyrryd, os bydd angen, i ofyn am eglurhad gan y llys am gwestiwn a ofynnwyd  
5.4 ymyrryd, os bydd angen, i dynnu sylw at anawsterau y gallai unigolion eu cael yn deall yr hyn sy’n cael ei ofyn   
5.5 gofyn am egwyl i unigolion, os bydd angen 
6. cyflawni dyletswyddau eich rôl tra byddwch yn y llys, yn unol â gofynion sefydliadol
7. dwyn unrhyw bryderon i sylw’r llys ar yr adeg y byddant yn digwydd 
8. darparu cymorth ar gyfer unigolion yn dilyn achos llys neu ddarparu tystiolaeth 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n ymwneud â chynorthwyo unigolion sy’n agored i niwed yn ystod prosesau barnwrol a chyfreithiol, a’u:
1.1 heffaith ar gyfer eich maes gweithrediadau
2. deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â’ch maes awdurdodaeth, ynglŷn â:
2.1 diogelu data
2.2 iechyd a diogelwch
2.3 amrywiaeth 
2.4 braint gyfreithiol broffesiynol
3. terfynau eich awdurdod a’ch cyfrifoldebau, gan gynnwys:
3.1 y camau y dylid eu cymryd os eir y tu hwnt i’r rhain
4. sut i ddelio ag unigolion mewn modd moesegol  
5. gwybodaeth gyfoes am weithdrefnau llys 
6. cyfraith achos berthnasol a chyfoes 
7. cyfrinachedd gwybodaeth, gan gynnwys:
7.1 peidio â datgelu  
8. eich rôl a’ch cyfrifoldebau i unigolion sy’n agored i niwed a’r llysoedd, a:
8.1 rolau a chyfrifoldebau unigolion sy’n agored i niwed a phersonel mewn llysoedd
9. ffiniau perthnasoedd ag unigolion sy’n agored i niwed, gan gynnwys:
9.1 y rhesymau pam mae’n rhaid i chi bob amser gael trydydd parti addas gyda chi pan fyddwch yn cyfarfod ag unigolion sy’n agored i niwed
10. yr ymddygiad sy’n ofynnol gennych chi ac unigolion sy’n agored i niwed yn y llys
11. yr hyn a gytunwyd mewn gwrandawiadau rheolau sylfaenol, gan gynnwys:
11.1 pryd mae’n dderbyniol ymyrryd yn ystod cyfnod holi
11.2 pryd y caniateir i bobl eraill gyfathrebu ag unigolion sy’n agored i niwed yn ystod profion
11.3 y lle gorau i unigolion roi tystiolaeth sy’n bodloni eu hanghenion
11.4 unrhyw ofynion arbennig sydd eu hangen gan unigolion
12. gwahanol arddulliau iaith y dylid eu defnyddio wrth gyfathrebu ag unigolion sy’n agored i niwed yn y llys 
13. sut i gyfleu cwestiynau i unigolion sy’n agored i niwed gan y llys, a:
13.1 sut i gyfleu atebion gan unigolion sy’n agored i niwed i’r llys   
14. sut i fod yn hyblyg yn eich ymagwedd gan ddefnyddio technegau cyfathrebu amrywiol sy’n briodol i ymddygiad ac agwedd unigolion sy’n agored i niwed 
15. arwyddion o unigolion sy’n agored i niwed yn dechrau cynhyrfu, gan gynnwys:
15.1 sut gallai anghenion unigolion am gymorth fod yn wahanol
16. ble i adrodd am unrhyw bryderon sydd gan unigolion sy’n agored i niwed, na allwch chi fynd i’r afael â nhw
17. gwahanol ffyrdd y gallai unigolion sy’n agored i niwed deimlo ac ymddwyn cyn, yn ystod ac ar ôl rhoi tystiolaeth
18. trin unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei derbyn yn ystod eich gwaith yn wybodaeth gyfrinachol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJGM2

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngwyr

Cod SOC

3239

Geiriau Allweddol

cyfryngwyr; unigolion sy’n agored i niwed; paratoi; cyfathrebu; hwyluso