Ymchwilio ac adrodd ar ddigwyddiadau i hysbysu arfer yn y dyfodol

URN: SFJFRSWM6
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwyliadwriaeth
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

​Gan fod y safon hon yn berthnasol ar draws ystod o gyd-destunau gwaith yn y gwasanaeth tân ac achub, mae'r canllawiau canlynol yn berthnasol ar lefel yr elfennau:

Casglu gwybodaeth i gefnogi ymchwilio i ddigwyddiad 
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i gasglu gwybodaeth o ystod o ffynonellau sy'n berthnasol i ymchwilio i ddigwyddiad, ac yn ei gefnogi. Gall hyn gynnwys gwybodaeth ysgrifenedig, lafar neu ystadegol o ffynonellau mewnol ac allanol. 

Adrodd am ganfyddiadau a chasgliadau ymchwiliad 
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i baratoi a chyflwyno eich canfyddiadau a'ch casgliadau, ar sail casglu a dadansoddi'r wybodaeth a grynhowyd gennych. Mae'n cynnwys eich gallu i gyflwyno gwybodaeth gyda dadleuon, rhesymeg a data ffeithiol i'w chefnogi. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Casglu gwybodaeth i gefnogi ymchwilio i ddigwyddiad 


1. cadarnhau gydag eraill ddiben yr ymchwiliadau, eich dulliau, eich amcanion a'ch terfynau amser
2. gwirio cywirdeb a digonolrwydd gwybodaeth 
3. sicrhau bod eich cyswllt ag eraill yn sensitif i natur ymchwiliadau 
4. sicrhau bod eich dulliau yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol, gan leiafu'r risg i chi eich hunan, i eraill ac i eiddo
5. gweithredu oddi mewn i lefelau cytunedig eich awdurdod a'ch cyfrifoldeb
6. cadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Adrodd am ganfyddiadau a chasgliadau ymchwiliad 

7. paratoi adroddiadau a sicrhau eu bod yn cynnwys casgliadau, argymhellion, a blaenoriaethau clir, a dadansoddiad o'r materion critigol o ran risg
8. cyflwyno eich adroddiadau mewn fformat ac arddull sy'n berthnasol i natur ymchwiliadau
9. egluro mynediad at ddeunyddiau atodol perthnasol sy'n cefnogi eich adroddiadau, a'u hargaeledd
10. gwirio bod eich dull o gyflwyno casgliadau yn gwahaniaethu'n glir rhwng ffeithiau a barn
11. cadarnhau bod yr wybodaeth y seiliwyd eich dadansoddiad arni yn ddilys ac yn ddigonol i gynnal eich casgliadau
12. sicrhau bod eich cofnodion yn y fformat cytunedig, ac yn cael eu darparu i bobl eraill awdurdodedig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Iechyd a Diogelwch  

1. peryglon a risgiau'r gweithle sy'n effeithio ar eraill a'r amgylchedd 
2. sut mae cymhwyso arferion sy'n mwyafu eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles eich hun ac eraill yn y gweithle 
3. sut mae gwneud a chymhwyso penderfyniadau ar sail yr asesiad o risg

Sefydliadol  

4. deddfwriaeth Tân ac Achub gymwys a deddfwriaeth arall 
5. sut mae cyrchu, dehongli a darparu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys adborth 
6. systemau cofnodi a'r defnydd ohonynt 
7. ffynonellau ac argaeledd gwybodaeth 
8. gwahanol fathau o ymchwiliad sy'n ofynnol o fewn y sefydliad

Personol a rhyngbersonol

9. sut mae cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol gydag eraill 
10. sut mae trin eraill â pharch ac ystyriaeth, gan roi sylw i gydraddoldeb a'i dderbyn  
11. dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle 
12. rolau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau awdurdod o'ch rhan eich hun ac eraill 

Technegol 

13. sut mae dehongli gwybodaeth o wahanol fathau ac o ystod o ffynonellau    
14. sut mae cynnal ymchwiliad 
15. sut mae casglu a chyflwyno tystiolaeth 
16. sut mae nodi a chadw tystiolaeth 
17. mathau o dystiolaeth a'i phwysigrwydd
18. sut mae cefnogi ymchwilio i ddigwyddiad 
19. dulliau ac egwyddorion paratoi adroddiadau
20. y gwahanol fathau o dechnoleg sydd ar gael i'w defnyddio ar gyfer ymchwiliadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Darperir y diffiniadau hyn i esbonio sut defnyddir geiriau a chysyniadau allweddol yn yr uned hon.

Gweithgareddau                       
Camau gweithredu, prosesau, gweithrediadau neu wasanaethau yn y gweithle y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn cyflawni amcanion

Dyrannu gwaith
Rhoi cyfrifoldeb i dimau ac unigolion am dasgau a ddylai gyflawni amcanion gwaith cytunedig

Cyfrinachedd                       
Darparu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn

Adborth ar berfformiad
Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i aelodau'r tîm ynghylch lefel eu perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt

Gwybodaeth                      
Mewn perthynas â digwyddiad ac â digwyddiadau tebyg, testunol, graffigol, ysgrifenedig a geiriol 

Amcanion               
Canlyniadau wedi'u diffinio'n glir y mae angen i chi eu cyflawni, ac sy'n benodol, yn fesuradwy, wedi'u cytuno gydag eraill, yn realistig ac yn amser-gyfyngedig

Cyfyngiadau Sefydliadol
Polisïau, amcanion a lefel adnoddau eich sefydliad, sy'n cyfyngu ar eich rhyddid i wneud penderfyniadau a gweithredu 

Eraill 
Aelodau o'r tîm, cydweithwyr sy'n gweithio ar yr un lefel â chi, rheolwyr lefel uwch, arbenigwyr, pobl, sefydliadau, adrannau, naill ai'r tu mewn neu'r tu allan i'ch sefydliad yr ydych yn darparu tîm gwasanaethau neu gynnyrch ar eu cyfer, pobl eraill berthnasol, noddwyr a phobl y tu allan i'ch sefydliad 

Cynlluniau 
Dogfennau neu gytundebau llafar, sy'n disgrifio'r gwaith sydd i'w wneud, pryd, gan bwy, at ba safon, a chyda pha adnoddau, er mwyn medru cyflawni gofynion ac amcanion 

Cofnodion
Mecanwaith adrodd sefydliadol

Atodlenni 
Dogfennau sy'n dangos y gwaith sydd i'w wneud, pryd a, weithiau, gan bwy 

Deunyddiau atodol
Cefnogi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau

Aelodau'r Tîm
Pobl sy'n gweithio gyda chi fel rhan o dîm swyddogaethol neu brosiect; gall aelodau'r tîm adrodd i chi naill ai fel eu rheolwr llinell neu fel y rheolwr sy'n gyfrifol am brosiect neu weithgaredd penodol y maent yn gweithio arno


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ FRS WM6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Gwyliadwriaeth Tân ac Achub

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwerthuso; casglu; coladu; crynhoi data; storio; gwybodaeth; cyflwyno; adrodd