Caffael, storio a chyflwyno adnoddau i ddarparu gwasanaeth

URN: SFJFRSWM10
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwyliadwriaeth
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Gan fod y safon hon yn berthnasol ar draws ystod o gyd-destunau gwaith yn y gwasanaeth tân ac achub, mae'r canllawiau canlynol yn berthnasol ar lefel yr elfennau:

Monitro a chaffael adnoddau i fodloni gofynion y gwasanaeth 
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i fynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael o'r nwyddau traul a ddefnyddir o ddydd i ddydd, er mwyn osgoi unrhyw amharu ar gyflwyno gwasanaeth. Yn sylfaen ar gyfer yr uned hon mae eich gwybodaeth am y cyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio, sy'n galw am stoc o nwyddau traul a phwysigrwydd cynnal cyflenwad digonol o'r eitemau cywir, yn ogystal â'r gallu i roi gweithdrefnau gorchymyn ar waith. 

Monitro sut mae adnoddau ffisegol yn cael eu storio 
Mae'r elfen hon yn ymwneud yn benodol â'ch gwaith chi yn monitro sut mae nwyddau traul yn cael eu storio, gan sicrhau'n arbennig eich bod yn gwirio cydymffurfiaeth â rheoliadau a gofynion sy'n cael effaith ar iechyd a diogelwch yn y gweithle. Bydd gofyn i chi ddangos hefyd eich bod yn gweithredu gweithdrefnau effeithiol o ran cadw cofnodion a diogeledd. 

Rheoli cyflwyniad adnoddau i gynnal darparu gwasanaeth 
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'r ffaith eich bod yn rhyddhau adnoddau i ymateb i'r galw neu ar gais. Eich gallu i weithredu'n rhagweithiol i sicrhau bod cyflenwad digonol yn cael ei gynnal ar gyfer galwadau hysbys a rhai a ragwelir, a'r camau i'w cymryd. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Monitro a chaffael adnoddau i fodloni gofynion y gwasanaeth 

1. llunio asesiad cywir o'r anghenion adnoddau sy'n hysbys ac a ragwelir 
2. monitro argaeledd a nifer yr adnoddau o dan eich rheolaeth i sicrhau y cyflwynir gwasanaeth effeithiol ac effeithlon 
3. nodi unrhyw ddiffygion yn argaeledd adnoddau 
4. rhoi gwybod i eraill am unrhyw ddiffygion yn argaeledd adnoddau 
5. caffael adnoddau i gynnal lefelau penodedig o fewn eich lefel awdurdod eich hun 
6. cadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
7. gwirio bod eich cyswllt gyda phobl yn adeiladol, yn gefnogol ac yn hybu cydweithredu a delwedd gadarnhaol o'r sefydliad 
8. mynd ati i chwilio am gyfleoedd i wella darpariaeth gwasanaeth a rhoi gwybod i eraill amdanynt 

Monitro sut mae adnoddau ffisegol yn cael eu storio 

9. gwirio bod eich adnoddau wedi'u diogelu rhag mynediad heb awdurdod, a'u bod;
9.1 wedi’u storio yn y lleoliad penodedig 
10. cyflwyno argymhellion ar gyfer storio adnoddau'n well i'r person perthnasol cyn gynted â phosibl 
11. cadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
12. gwirio bod eich dulliau storio yn osgoi perygl a risg i bobl, eiddo a'r amgylchedd 

Rheoli cyflwyniad adnoddau i gynnal darparu gwasanaeth 

13. rheoli cyflwyniad adnoddau i sicrhau bod cyflenwadau digonol ar gael i ddiwallu'r gofyn gwirioneddol a'r gofyn a ragwelir 
14. archwilio ffynonellau cyflenwi eraill lle bo'r galw'n fwy na'r stoc sydd ar gael o fewn eich lefel eich hun o awdurdod
15. osgoi gwastraff a rheoli costau trwy ddefnyddio adnoddau mewn modd effeithlon 
16. gwneud pobl yn ymwybodol o ganllawiau iechyd a diogelwch perthnasol wrth ryddhau adnoddau 
17. cadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
18. rhyddhau adnoddau i gynnal lefelau penodedig o fewn eich lefel awdurdod eich hun 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Iechyd a Diogelwch 

1. peryglon a risgiau'r gweithle sy'n effeithio ar bobl a'r amgylchedd 
2. sut mae gwneud penderfyniadau ar sail yr asesiad o risg 
3. sut mae cymhwyso arferion sy'n mwyafu eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles eich hun ac eraill yn y gweithle 

Sefydliadol 

4. polisïau, nodau ac amcanion y sefydliad 
5. systemau cofnodi a'r defnydd ohonynt 
6. sut mae darparu gwybodaeth i ddylanwadu ar newid neu wella darpariaeth gwasanaethau

Personol a Rhyngbersonol 

7. sut mae cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol gyda'r ystod o bobl dan sylw 
8. sut mae trin eraill â pharch ac ystyriaeth, gan roi sylw i gydraddoldeb a'i dderbyn  
9. rolau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau awdurdod o'ch rhan eich hun ac eraill yn y gweithle 
10. dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle 
11. sut mae datrys problemau, gwneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau 

Technegol 

12. sut mae dehongli gwybodaeth o wahanol fathau ac o ystod o ffynonellau 
13. galluoedd a chyfyngiadau cyfarpar personol a gweithredol 
14. argaeledd a mynediad i adnoddau mewnol ac allanol a chefnogaeth 
15. y gofynion o ran argaeledd, parodrwydd gweithredol ac adnoddau ffisegol 
16. sut mae trafod a chyflwyno adnoddau mewn modd diogel 
17. sut mae sicrhau bod adnoddau'n cael eu storio'n ddiogel 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Darperir y diffiniadau hyn i esbonio sut defnyddir geiriau a chysyniadau allweddol yn yr uned hon.

Defnyddwyr awdurdodedig        
Pobl sydd wedi'u hawdurdodi gan eich sefydliad i gyrchu gwybodaeth 

Gweithgareddau                       
Camau gweithredu, prosesau, gweithrediadau neu wasanaethau yn y gweithle y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn cyflawni amcanion

Dyrannu gwaith
Rhoi cyfrifoldeb i dimau ac unigolion am dasgau a ddylai gyflawni amcanion gwaith cytunedig

Cyfrinachedd                       
Darparu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn

Adborth ar berfformiad
Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i aelodau'r tîm ynghylch lefel eu perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt 

Amcanion               
Canlyniadau wedi'u diffinio'n glir y mae angen i chi eu cyflawni, ac sy'n benodol, yn fesuradwy, wedi'u cytuno gydag eraill, yn realistig ac yn amser-gyfyngedig

Cyfyngiadau Sefydliadol
Polisïau, amcanion a lefel adnoddau eich sefydliad, sy'n cyfyngu ar eich rhyddid i wneud penderfyniadau a gweithredu 

Eraill 
Aelodau o'r tîm, cydweithwyr sy'n gweithio ar yr un lefel â chi, rheolwyr lefel uwch, arbenigwyr, pobl, sefydliadau, adrannau, naill ai'r tu mewn neu'r tu allan i'ch sefydliad yr ydych yn darparu tîm gwasanaethau neu gynnyrch ar eu cyfer, pobl eraill berthnasol, noddwyr a phobl y tu allan i'ch sefydliad 

Cynlluniau 
Dogfennau neu gytundebau llafar, sy'n disgrifio'r gwaith sydd i'w wneud, pryd, gan bwy, at ba safon, a chyda pha adnoddau, er mwyn medru cyflawni gofynion ac amcanion 

Cofnodion
Mecanwaith adrodd sefydliadol

Canllawiau iechyd a diogelwch perthnasol
COSHH, HaSaWA

Adnoddau                     
Nwyddau traul stoc ac nad ydynt yn rhan o'r stoc, gan gynnwys eitemau COSHH 

Dulliau storio   
Lleol, o dan eich rheolaeth a diogel 

Ffynonellau cyflenwi      
Mewnol ac allanol 

Atodlenni 
Dogfennau sy'n dangos y gwaith sydd i'w wneud, pryd a, weithiau, gan bwy 

Aelodau'r Tîm
Pobl sy'n gweithio gyda chi fel rhan o dîm swyddogaethol neu brosiect; gall aelodau'r tîm adrodd i chi naill ai fel eu rheolwr llinell neu fel y rheolwr sy'n gyfrifol am brosiect neu weithgaredd penodol y maent yn gweithio arno


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ FRS WM10

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Gwyliadwriaeth Tân ac Achub

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Casglu; prynu; stoc; monitro; cyflenwi; archebu;