Cynllun ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid

URN: SFJEFSS005
Sectorau Busnes (Suites): Tân ac Achub
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Gorff 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynllunio ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Mae'n cwmpasu eich gallu i adnabod a chasglu gwybodaeth a'i defnyddio i gyfrannu at strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, a chynlluniau gweithredol ar gyfer delio gyda digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Mae'n cynnwys asesu risgiau anifeiliaid ar gyfer yr ardal rydych chi'n ei chwmpasu, gan nodi adnoddau a datblygu cynlluniau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Fel rhan o'r safon hon bydd disgwyl i chi weithio gydag asiantaethau eraill a pherchnogion/personau cyfrifol. 

Rydym yn argymell y safon hon ar gyfer y rhai sydd â rôl strategol, dactegol neu weithredol wrth ddelio gyda digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid gyda phobl eraill perthnasol yn eich sefydliad
  2. casglu gwybodaeth am nodweddion risg anifeiliaid sy'n ffactorau yn eich lleoliad a'ch maes cyfrifoldeb
  3. dehongli ffynonellau o wybodaeth a ganfuwyd ynghylch digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gofynion eich rôl, oddi mewn i'ch rôl
  4. casglu gwybodaeth sydd wedi'i diweddaru, sy'n berthnasol, ac sy'n bodloni gofynion gwybodaeth eich sefydliad ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
  5. nodi risgiau digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid i bobl, eiddo a'r amgylchedd yn unol â gweithdrefnau asesu risg sefydliadol
  6. nodi mesurau rheoli er mwyn lleihau'r risg i bobl, eiddo a'r amgylchedd, yn unol â gweithdrefnau asesu risg sefydliadol
  7. monitro data i ganfod sbardunau risg gynyddol digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau asesu risg sefydliadol
  8. cyfrannu at gynlluniau rheoli risg, yn unol â gofynion sefydliadol
  9. datblygu cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid o wybodaeth a gasglwyd yn unol â gofynion sefydliadol  
  10. canfod yr ystod o adnoddau sydd ar gael i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  11. dyrannu adnoddau i gynlluniau digwyddiadau anifeiliaid er mwyn bodloni gofynion eich sefydliad ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a strategaeth ymateb i achub anifeiliaid
  12. rhannu gwybodaeth am gynlluniau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid gyda phobl eraill perthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Iechyd a Diogelwch

  1. ​arferion gwaith diogel eich sefydliad wrth ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
  2. peryglon a risgiau digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid sy'n effeithio ar bobl, eiddo a'r amgylchedd
  3. sut mae defnyddio gwybodaeth asesu risg i wneud penderfyniadau
  4. sut mae cymhwyso penderfyniadau ar sail yr asesiad risg
  5. mesurau rheoli eich sefydliad i liniaru risg

​​Sefydliadol

  1. polisïau a gweithdrefnau sy'n berthnasol i'ch rôl wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
  2. y protocol sydd i'w ddilyn sy'n berthnasol i'ch rôl wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
  3. systemau, offer, dulliau a thempledi sy'n addas i'w defnyddio wrth gynllunio gwybodaeth ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
  4. gofynion eich sefydliad ar gyfer cynnal cynlluniau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid

     Personol a rhyngbersonol

  5. eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran cynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid sy'n cynnwys eich maes cyfrifoldeb

  6. pobl eraill berthnasol y bydd angen i chi weithio gyda nhw wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a'u rôl yn y fath ddigwyddiadau
  7. llinellau a dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle
  8. sut mae cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol gydag eraill
  9. sut mae trin eraill â pharch ac ystyriaeth, gan roi sylw i amrywiaeth a'i dderbyn

Technegol

  1. gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael ac sy'n gallu llywio eich dealltwriaeth o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a sut mae eu cyrchu
  2. y mathau o nodweddion sydd gan ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yn eich ardal a'u heffaith
  3. pwysigrwydd technegau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a sut mae eu defnyddio yn y broses gynllunio
  4. dulliau a thechnegau o atal digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
  5. y gwahanol adnoddau sydd ar gael i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
  6. sut gellir defnyddio adnoddau i reoli digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid

Cwmpas/ystod

1. Ffynonellau a mathau o wybodaeth

1.1 gwybodaeth arbenigol am achub anifeiliaid
1.2 data lleoliad, defnydd a chludiant
1.3 cofrestrau gallu lleol a chenedlaethol
1.4 cynlluniau a strategaethau tân ac achub lleol, strategol ac ar gyfer digwyddiadau mawr
1.5 gwybodaeth am ddigwyddiadau hanesyddol
1.6 strategaethau achub anifeiliaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
1.7 polisïau, canllawiau, gweithdrefnau gweithredu safonol ac asesiadau risg sy'n berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid
1.8 meddalwedd ac offer perthnasol

2 Nodweddion digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid

2.1 ymddygiad anifeiliaid
2.2 ymddygiad dynol
2.3 rheoli’r anifeiliaid (gan gynnwys rheolaeth gorfforol a chemegol)
2.4 sbardunau
2.5 Mae risgiau cyffredinol yn troi'n ddeinamig eu natur pan fo anifeiliaid dan sylw

3 Risgiau

3.1 risgiau iechyd a diogelwch i bobl
3.2 risg eiddo, economaidd a masnachol
3.3 risg amgylcheddol
3.4 cynlluniau rheoli risg, megis cynlluniau Rheoli Risg Integredig a Chofrestrau Risg Cymunedol

4 Eraill *

4.1 BARTA (Cymdeithas Achub Anifeiliaid a Gofal Trawma Prydain)
4.2 CFOA ARPF (Fforwm Ymarferwyr Achub Anifeiliaid)
4.3 cydweithwyr
4.4 perchnogion/personau cyfrifol
4.5 milfeddygon
4.6 RSPCA
4.7 SSPCA
4.8 USPCA
4.9 Safonau Masnach
4.10 DEFRA
4.11 y gwasanaethau brys 
4.12 cwmnïau cyfleustodau
4.13 y cyfryngau
4.14 aelodau o'r cyhoedd 
4.15 gwasanaethau trafnidiaeth
4.16 Timau Chwilio ac Achub
4.17 Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol
4.18 Asiantaethau ymchwil
4.19 Asiantaethau gwirfoddol
4.20 Asiantaethau eraill

5 Adnoddau*

5.1 adnoddau mewnol
5.2 adnoddau allanol 
5.3 personél a'u galluoedd
5.4 cymorth milfeddygol/arbenigol
5.5 cyfarpar


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​​Disgwylir i'r SGC hon gael ei defnyddio a'i chymhwyso ar y cyd â SGC eraill sy'n berthnasol i'ch rôl ym maes tân ac achub.​


Cysylltiadau Allanol

​Mae ‘Canllawiau Gweithredol Tân ac Achub - GRA 2.5 - Achub anifeiliaid mawr' ar gael, ac fe'u datblygwyd i ddarparu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ychwanegol o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid i bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub y Deyrnas Unedig. ​


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Gorff 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJEFSS005

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus, Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes

Cod SOC


Geiriau Allweddol

tân, achub, anifail, digwyddiad, arbenigol, gwybodaeth, strategaeth