Prosesu apeliadau mewn llysoedd a thribiwnlysoedd

URN: SFJDG2
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â derbyn apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir mewn llysoedd a thribiwnlysoedd, paratoi dogfennau perthnasol a hysbysu partïon ynghylch apêl arfaethedig. Mae'n cynnwys nodi p'un a ellir apelio yn erbyn yr achos. 

Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd, tribiwnlysoedd neu erlyniadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. adolygu dogfennau a dderbynnir ynghylch apeliadau, yn unol â gofynion sefydliadol
2. gwneud yn siŵr fod y ffioedd cywir yn cael eu tendro a’u prosesu, yn unol â gofynion sefydliadol    
3. mynd i’r afael â dogfennau anghyflawn, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol 
4. gwirio dilysrwydd y rhesymau a roddwyd dros apelio, yn unol â gofynion deddfwriaethol
5. hysbysu partïon am resymau annilys dros apelio, yn unol â gofynion sefydliadol 
6. hysbysu partïon mewnol ac allanol am apeliadau a gofnodwyd, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol 
7. diweddaru ffeiliau, gan amlygu bod apêl yn yr arfaeth, yn unol â gofynion sefydliadol 
8. prosesu achosion, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
9. cael papurau, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
9.1 trawsgrifiadau o’r achos cychwynnol 
10. paratoi gwybodaeth sy’n ofynnol gan swyddogion a fydd yn ystyried apeliadau, yn unol â gofynion sefydliadol 
11. monitro a chofnodi ymatebion gan bartïon mewnol ac allanol, yn unol â gofynion sefydliadol 
12. pennu p’un a yw dirwyon yn daladwy yn ôl dyfarniadau cychwynnol, yn unol â gofynion sefydliadol, a;
12.1 gwirio a yw dirwyon wedi cael eu talu’n rhannol neu’n llawn cyn apeliadau 
12.2 pennu’r effaith ar apeliadau 
13. hysbysu awdurdodau, yn unol â gofynion sefydliadol
14. cynnal cofnodion, yn unol â gofynion sefydliadol 
15. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. gweithdrefnau sefydliadol presennol ar gyfer prosesu apeliadau 2. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol i baratoi papurau ar gyfer achosion apelio 3. mathau o apêl y mae ffioedd yn daladwy ar eu cyfer  4. rhesymau dros apelio 5. graddfeydd amser ar gyfer cofnodi apeliadau 6. y partïon i’w hysbysu am achosion a fydd yn destun apêl, a sut i wneud hyn 7. lefelau awdurdod a chyfrifoldeb ac at bwy i gyfeirio os eir y tu hwnt i’r rhain  8. gweithdrefnau ar gyfer cael adroddiadau gan swyddogion llywyddu ynghylch penderfyniadau ar achosion sy’n destun apêl, gan gynnwys y sail resymegol ar gyfer penderfyniadau sy’n destun apeliadau  9. sut i bennu a yw dirwyon wedi cael eu talu, yn rhannol neu’n llawn, cyn apeliadau 10. effaith taliadau ar ganlyniadau apeliadau 11. pwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei dosbarthu’n gywir a sut i wneud hyn 12. pwysigrwydd sicrhau bod ffeiliau’n cael eu cynnal ac yn gyfoes, a sut i wneud hyn 13. pwysigrwydd cadw gwybodaeth yn gyfrinachol, a sut i wneud hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ DG2

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys

Cod SOC

4131

Geiriau Allweddol

llys; tribiwnlys; achos; apeliadau; proses; penderfyniadau; apêl; apeliadwy