Monitro cynnydd achosion llys a thribiwnlys ac adolygu amserlenni achosion

URN: SFJDC7
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â monitro cynnydd rhestriadau dyddiol achosion sy'n cael eu clywed mewn llysoedd a thribiwnlysoedd yn eich maes cyfrifoldeb, gan weithredu lle bydd gwyriadau sylweddol oddi wrth yr amserlen a drefnwyd. Bwriedir iddo fod yn gymwys mewn adeiladau llysoedd a thribiwnlysoedd ble cynhelir achosion trwy gydol y dydd.

Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd, tribiwnlysoedd neu erlyniadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. adolygu amserlenni dyddiol o achosion, yn unol â gofynion sefydliadol, a phennu:
1.1 hyd disgwyliedig achosion 
1.2 achosion lle mae’r hyd yn ansicr
1.3 rhesymau am yr ansicrwydd 
2. monitro cynnydd achosion, yn unol â gofynion sefydliadol a graddfeydd amser, gan gynnwys: 
2.1 y rheiny lle na ellir rhagweld eu hyd 
2.2 y rheiny sy’n cael eu clywed yn gyflymach na’r disgwyl
2.3 y rheiny sy’n mynd y tu hwnt i’r hyd a drefnwyd ar eu cyfer
3. nodi achosion nad ydynt yn dechrau’n brydlon, yn unol â gofynion sefydliadol, a graddfeydd amser, a phennu: 
3.1 y rhesymau am yr oedi 
3.2 pryd y gellir galw achosion
4. hysbysu partïon am newidiadau i amserlenni achosion, yn unol â gofynion sefydliadol 
5. asesu’r effaith ar achosion dilynol pan na fydd achosion yn dilyn eu hamserlen, yn unol â gofynion sefydliadol 
6. nodi manylion am achosion a fydd yn cael eu haildrefnu, yn unol â gofynion sefydliadol 
7. nodi opsiynau er mwyn i achosion allu dechrau mor agos at amseroedd a drefnwyd ag y bo modd, yn unol â gofynion sefydliadol  
8. aildrefnu achosion cyn gynted ag y bo modd, yn unol â gofynion sefydliadol 
9. hysbysu partïon am drefniadau newydd ar gyfer achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
10. delio ag unigolion mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo ymddygiad ac agweddau cadarnhaol, yn unol â gofynion sefydliadol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol sy’n ymwneud â dyrannu a rhestru achosion wedi’u haildrefnu  2. pwysigrwydd ceisio cynnal amserlenni cynlluniedig, a goblygiadau aildrefnu 3. ffactorau i’w hystyried wrth asesu hyd tebygol achosion 4. y personél sydd eu hangen i glywed achosion yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt 5. dylai unigolion hysbysu am newidiadau i’r amserlen achosion, a sut i wneud hyn 6. ffactorau i’w hystyried wrth aildrefnu achosion a phwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng yr effaith ar gostau a’r adnoddau sydd ar gael  7. lefelau cyfrifoldeb wrth aildrefnu achosion ac at bwy y dylid cyfeirio os eir y tu hwnt i’r rhain

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ DC7

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys

Cod SOC

4131

Geiriau Allweddol

llys; tribiwnlys; achos; amserlen; monitro; dilyniant; cynnydd; aildrefnu