Darparu cymorth i’r rheiny sy’n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd

URN: SFJDC2
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â darparu cymorth i bartïon sy'n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd, ac eithrio swyddogion. Mae'n cynnwys esbonio achosion a sicrhau bod partïon yn cael eu cyfeirio at yr ystafell berthnasol.

Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd, tribiwnlysoedd  neu erlyniadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. nodi partïon sy’n cyrraedd gwrandawiadau, yn unol â gofynion sefydliadol 
2. cadarnhau gyda phartïon fanylion y gwrandawiadau y byddant yn eu mynychu, yn unol â gofynion sefydliadol 
3. gwirio gyda phartïon bod ganddynt y wybodaeth y mae angen trefnu ei bod ar gael i swyddogion, yn unol â gofynion sefydliadol 
4. sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd swyddogion, yn unol â gofynion sefydliadol
5. cadarnhau bod partïon wedi cyrraedd, yn unol â gofynion sefydliadol 
6. gweithredu pan fydd partïon ar goll, yn unol â gofynion sefydliadol 
7. hysbysu partïon sy’n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd am leoliad y cyfleusterau yn yr adeilad, yn unol â gofynion sefydliadol 
8. cyfeirio’r rheiny sy’n mynychu at feysydd sy’n briodol i’w gwrandawiad, yn unol â gofynion sefydliadol
9. esbonio achosion llysoedd a thribiwnlysoedd i bartïon, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
9.1 codau ymddygiad
9.2 ble byddant yn eistedd 
9.3 gweithdrefnau a phrotocolau y bydd disgwyl iddynt eu dilyn 
10. cadarnhau gyda phartïon y math o gymorth sydd ei angen, yn unol â gofynion sefydliadol 
11. cymryd camau cytûn i fynd i’r afael ag anghenion y rheiny sy’n mynychu, yn unol â gofynion sefydliadol 
12. cyflwyno gwybodaeth i’r rheiny sy’n mynychu, yn unol â gofynion sefydliadol, a:
12.1 hyrwyddo dealltwriaeth
12.2 annog cwestiynau 
12.3 gwirio ar gyfer dealltwriaeth
12.4 rhoi eglurhad 
14. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
15. delio ag unigolion mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo ymddygiad ac agweddau cadarnhaol, yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol sy’n berthnasol i gyfarch, paratoi a chynorthwyo partïon sy’n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd  2. y mathau o wybodaeth a gyflwynir gan bartïon sy’n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd 3. i bwy y mae angen trosglwyddo’r wybodaeth 4. hawliau, rolau a chyfrifoldebau partïon sy’n mynychu gwrandawiadau yn eich maes cyfrifoldeb 5. amrywiaeth y cyfleusterau sydd ar gael i’r rheiny sy’n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd 6. gweithdrefnau brys ar gyfer gwacáu adeiladau, a’ch rôl a’u cyfrifoldebau mewn achosion brys 7. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol ar gyfer cyfeirio pobl sy’n mynychu gwrandawiadau at ardaloedd aros a’u gwrandawiad  8. rolau a chyfrifoldebau allweddol swyddogion mewn llysoedd a thribiwnlysoedd yn eich maes cyfrifoldeb  9. codau ymddygiad sy’n berthnasol i’r rheiny sy’n mynychu’r llys 10. gofynion ar gyfer cymorth a allai godi, a sut i ddelio â hyn 11. pobl briodol sy’n gyfrifol am reoli trefniadau diogelu tystion, sy’n berthnasol i’ch maes gweithrediadau  12. sut i asesu p’un a oes angen cymorth ar bobl sy’n mynychu gwrandawiadau  13. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut i addasu’ch arddull i fynd i’r afael ag anghenion unigolion 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ DC2

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys

Cod SOC

4131

Geiriau Allweddol

llysoedd; tribiwnlysoedd; achos; cymorth; presenoldeb; achosion