Mynd i’r afael â gofynion ar gyfer trefniadau arbennig mewn llysoedd a thribiwnlysoedd

URN: SFJDB6
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon ynglŷn â mynd i’r afael ag achosion lle mae angen gwneud trefniadau arbennig mewn llysoedd a thribiwnlysoedd, a threfnu bod y rhain ar gael. 

Mae’r safon hon ar gyfer unigolion, y mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys trefnu bod mesurau arbennig yn cael eu darparu mewn llysoedd a thribiwnlysoedd, gan gynnwys darparu sgriniau ar gyfer tystion, cyfathrebu a defnyddio offer.

Gall achosion fod naill ai’n droseddol neu’n sifil mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwirio pan fydd angen trefniadau arbennig, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol 2. cadarnhau gyda phobl briodol y trefniadau arbennig sydd eu hangen, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol  3. gwneud trefniadau arbennig cyn gwrandawiadau, yn unol â gofynion sefydliadol 4. mynd i’r afael â phroblemau ag argaeledd neu ddefnydd o offer, yn unol â gofynion sefydliadol  5. paratoi ystafelloedd gwrandawiad, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol  6. cadarnhau bod cynlluniau ystafelloedd yn addas ar gyfer trefniadau arbennig, yn unol â gofynion sefydliadol   7. gosod offer, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion sefydliadol 8. profi bod offer yn gweithio’n gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion sefydliadol  9. gadael cyfarwyddiadau clir i bobl eraill eu dilyn wrth weithio offer 10. tynnu offer o ystafelloedd llys a thribiwnlys ar ôl eu defnyddio, yn unol â gofynion sefydliadol  11. storio offer, yn unol â gofynion sefydliadol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y mathau o drefniadau arbennig sydd ar gael   2. manteision ac anfanteision trefniadau arbennig ar gyfer defnyddwyr a phroses gysylltiedig y llys a’r tribiwnlys  3. bod gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol ar gyfer nodi trefniadau arbennig yn cael eu defnyddio mewn llysoedd a thribiwnlysoedd  4. lleoliad offer trefniadau arbennig  5. gweithdrefnau adrodd, gan gynnwys pwy y dylid ei hysbysu pan fydd offer trefniadau arbennig yn ddiffygiol 6. y gweithdrefnau ar gyfer gwneud trefniadau arbennig ar ddiwrnod gwrandawiadau 7. sut i baratoi ystafelloedd gwrandawiad trwy osod offer arbennig ynddynt 8. sut i osod, profi a gweithio offer a ddefnyddir ar gyfer trefniadau arbennig 9. pwysigrwydd gadael cyfarwyddiadau clir ynglŷn â defnyddio offer ar gyfer y rheiny sy’n eu gweithio tra byddant mewn llysoedd a thribiwnlysoedd  10. gofynion sefydliadol ar gyfer storio offer 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ DB6

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys

Cod SOC

4131

Geiriau Allweddol

Llys; tribiwnlys; achos; trefniadau arbennig; gofynion; adnoddau