Bwrw ymlaen â cheisiadau ar gyfer aildrefnu achosion llys a thribiwnlys

URN: SFJDB3
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â bwrw ymlaen â cheisiadau ar gyfer aildrefnu achosion. Mae'n cynnwys hysbysu personél perthnasol, dyrannu, rhestru a threfnu adnoddau fel y gellir ail-alw achosion cyn gynted ag y bo'n briodol i allu gwneud hynny.

Mae'r term aildrefnu yn cynnwys achosion sydd wedi cael eu gohirio neu'u hoedi.

Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. nodi ceisiadau i aildrefnu achosion, yn unol â gofynion sefydliadol 
2. gwneud yn siŵr fod yr holl wybodaeth ar gael er mwyn gallu aildrefnu achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
3. hysbysu pawb am yr aildrefnu, yn unol â gofynion sefydliadol
4. nodi dyddiadau ar gyfer aildrefnu achosion, yn unol â phenderfyniadau i ohirio 
5. cadarnhau bod dyddiadau ar gyfer achosion yn bodloni’r graddfeydd amser gofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol 
6. amcangyfrif hyd achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
7. nodi personél perthnasol i glywed achosion wedi’u haildrefnu, yn unol â gofynion sefydliadol 
8. cadarnhau bod adnoddau ar gael ar gyfer achosion wedi’u haildrefnu, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
8.1 cyfleusterau
8.2 personél
9. aildrefnu achosion, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
9.1 trefnu cyfleusterau
9.2 trefnu personél
10. hysbysu partïon mewnol ac allanol am anawsterau posibl o ran bodloni’r graddfeydd amser gofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol 
11. hysbysu awdurdodau am dystion a phobl eraill berthnasol sydd ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
12. cynnal cofnodion cywir a chyfoes, yn unol â gofynion sefydliadol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. gofynion sefydliadol a deddfwriaethol presennol sy’n ymwneud ag aildrefnu achosion yn eich maes cyfrifoldeb  2. awdurdodaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn eich maes cyfrifoldeb a mathau o achosion y gallant eu clywed  3. rhesymau pam y caiff achosion eu haildrefnu 4. pwysigrwydd dyrannu a rhestru achosion wedi’u haildrefnu yn gywir a chyn gynted ag y bo modd  5. ffactorau i’w hystyried wrth asesu hyd tebygol achosion 6. y gwahanol bersonél sydd eu hangen i glywed achosion yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt 7. graddfeydd amser y mae’n rhaid clywed achosion ynddynt  8. y partïon i’w hysbysu am ddyddiadau gwrandawiadau wedi’u haildrefnu a sut i wneud hyn 9. terfynau eich cyfrifoldeb ac at bwy i gyfeirio os eir y tu hwnt i’r rhain  10. gofynion sefydliadol ar gyfer creu a chynnal cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ DB3

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys

Cod SOC

4131

Geiriau Allweddol

llys; tribiwnlys; achos; cynnydd; dilyniant; gohirio; aildrefnu; oedi; dyraniad; dyrannu; rhestru; adnoddau