Rheoli rhaglenni llys

URN: SFJCP1
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer unigolion sy’n rheoli gweithrediadau rhaglen lys effeithiol.  Mae’r rôl hon yn cynnwys drafftio, amserlennu, adolygu ac addasu’r rhaglen lys.

Bydd hyn yn berthnasol i lysoedd a thribiwnlysoedd o feintiau amrywiol ac amrywiaeth eang o anghenion o ran adnoddau a busnes.

Weithiau, cyfeirir at y term “rhaglen” fel “rhestr llys” neu “amserlen”, ac fe’i defnyddir weithiau yng nghyd-destun (a) neilltuo sesiynau neu achosion o fewn mathau o lys mewn rhaglen strwythuredig neu (b) rheolaeth weithredol y rhaglen bob wythnos/bob dydd (h.y. dyrannu adnoddau barnwrol/ystafelloedd llys/staff, trefnu busnes ad hoc, trosglwyddo achosion rhwng llysoedd, ac ati).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cynnal eich gwybodaeth a’ch cymhwysedd o ran rheolaeth weithredol rhaglenni llys 
2. darparu a dadansoddi data i lywio amserlennu gweithgareddau rhaglennu llys, i gynnwys:
2.1 y capasiti y mae’n rhaid i’r rhaglen ddelio ag ef
2.2 amlder y mathau o lys sydd eu hangen
2.3 terfynau’r rhaglen o fewn y cyfyngiadau a osodwyd
2.4 yr adnoddau sydd ar gael
3. adolygu a datblygu ystadegau lleol i wella effeithiolrwydd rhaglennu ac at ddibenion adolygu rhaglenni, yn unol â gofynion sefydliadol 
4. pennu amlderau gofynnol y mathau o lys, yn unol â gofynion sefydliadol 
5. pennu p’un a yw’n ymarferol rhaglennu gwahanol fathau o lys ar wahanol amseroedd ac mewn lleoliadau gwahanol ar yr un diwrnod, yn unol â gofynion sefydliadol 
6. paratoi a datblygu rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
7. cysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid i nodi gofynion llys, yn unol â gofynion sefydliadol 
8. nodi adnoddau barnwrol a rhanddeiliaid sydd ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
9. dyrannu adnoddau barnwrol, yn unol â gofynion sefydliadol
10. diwygio rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol er mwyn: 
10.1 bodloni targedau busnes
10.2 pennu a ellir gwneud arbedion effeithlonrwydd i leihau oedi wrth brosesu busnes llys 
10.3 monitro perfformiad a nodi meysydd ar gyfer gwella busnes
10.4 cynnwys unrhyw fusnes ad hoc 
11. ceisio cymeradwyaeth rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
12. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
13. cyfleu rhaglenni llys i gydweithwyr a rhanddeiliaid a’u rhoi ar waith, yn unol â gofynion sefydliadol 
14. ymateb i unrhyw ymholiadau am raglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol 
15. mesur effeithiolrwydd rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
16. ceisio adborth ar effeithiolrwydd rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol 
17. darparu gwybodaeth am effeithiolrwydd rhaglenni llys i gydweithwyr a rhanddeiliaid, yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich rôl, eich cyfrifoldebau a’ch cymhwysedd, ac i bwy i ofyn am gymorth a chyngor pan fydd angen 2. deddfwriaeth, arweiniad a gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i rôl y swydd 3. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol sy’n ymwneud â rheoli rhaglenni llys 4. y data a’r wybodaeth fydd yn cael eu casglu a’u dadansoddi i lywio rhaglennu llys 5. pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd 6. y gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyo rhaglenni llys 7. pwy i hysbysu am newidiadau rhaglen lys 8. amrywiaeth y llysoedd/tribiwnlysoedd o fewn eich maes cyfrifoldeb a’r gweithdrefnau ynddynt 9. amrywiaeth yr adnoddau mewn llysoedd a thribiwnlysoedd o fewn eich maes cyfrifoldeb 10. rolau a chyfrifoldebau defnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd o fewn eich maes cyfrifoldeb 11. argaeledd a safonau adeiladau ac offer cysylltiedig 12. y protocol gweithredu y cytunwyd arno’n lleol neu’n genedlaethol ar lwythiadau ar gyfer mathau penodol o fusnes a’r modd y mae hyn yn effeithio ar raglenni llys  13. argaeledd rhanddeiliaid mewn achosion cymhleth neu hir 14. y targedau sy’n effeithio ar raglenni llys 15. effaith llys uwch yn chwilio am adeiladau o fewn eich cyfleusterau 16. yr angen am Lysoedd Arbenigol 17. achosion wedi’u cyfyngu gan amser a gofynion busnes ad hoc 18. gofynion gwyliau o ran llys gwarchodaeth  19. dulliau amgen mewn rhaglennu llys a sut i ad-drefnu llysoedd 20. yr arweiniad ar raglennu llysoedd a rhoi newid ar waith yn effeithiol 21. protocolau a’r cylchoedd gwaith ar gyfer grwpiau defnyddwyr llys

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ CP1

Galwedigaethau Perthnasol

Clerc Siryf, Rheolwr Llysoedd

Cod SOC

4161

Geiriau Allweddol

Rhaglennu llys, data ystadegol, ystafelloedd llys, achosion llys.