Rheoli adferiad cymunedol wedi argyfyngau

URN: SFJCCAH2
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi adferiad cymunedau wedi argyfyngau.  Mae'n cynnwys cymryd camau i atal effeithiau argyfyngau rhag esgaladu a sicrhau bod adferiad parhaus yn derbyn sylw yn ystod ymatebion. Mae hefyd yn cynnwys nodi cyngor, cyllido a chymorth arall perthnasol, a chefnogi unigolion a sefydliadau i reoli eu hadferiad parhaus eu hunain. 


Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n rheoli gwaith gyda chymunedau i gefnogi eu hadferiad wedi argyfyngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi'r rhai y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion, sefydliadau a grwpiau agored i niwed, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. nodi effeithiau argyfyngau ar gymunedau a'r amgylchedd, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. hyrwyddo ystyriaethau adferiad tymor hwy mewn ymateb i argyfyngau yn unol â gofynion sefydliadol
  4. cymryd camau, lle bo hynny'n ymarferol bosibl, i atal effeithiau argyfyngau rhag esgaladu, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. ymgysylltu â sefydliadau o'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a allai gyfrannu at ymdrechion ymadfer, neu at adfer gwasanaethau yn unol â gofynion sefydliadol
  6. cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gydag unigolion a sefydliadau eraill sy'n ymwneud ag ymateb ac adferiad, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. ymgynghori â chymunedau yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. cefnogi unigolion a sefydliadau i reoli eu hadferiad yn unol â gofynion sefydliadol
  9. cadarnhau y darperir gwybodaeth a chyngor ar y camau sy'n cael eu cymryd i unioni effeithiau argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. cytuno ar y camau gweithredu sy'n ofynnol a'u blaenoriaethu yn ystod prosesau ymadfer, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. ystyried goblygiadau cyllidebol ac ariannol prosesau ymadfer, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. ceisio'r cyngor, yr ariannu a'r cymorth sy'n angenrheidiol i gefnogi gwaith ymadfer yn unol â gofynion sefydliadol
  13. gwirio bod y pontio rhwng arweinyddiaeth a chyflwyno gwasanaeth yn ystod gwahanol gyfnodau ymateb ac adferiad yn cael ei gyfathrebu a'i ddeall, yn unol â gofynion sefydliadol
  14. darparu gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer apeliadau neu gofebau, yn unol â gofynion sefydliadol
  15. nodi ble gellid gwella systemau, gwasanaethau neu seilwaith i ddiwallu anghenion y dyfodol, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy'n ymwneud ag ymateb ac adferiad ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  2. sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu; eu strwythurau cyffredinol, eu dulliau cyfathrebu a'u prosesau gwneud penderfyniadau
  3. cynlluniau a threfniadau argyfwng
  4. nodweddion ardaloedd a all ddylanwadu ar effeithiau argyfyngau, gan gynnwys: 4.1 nodweddion cymdeithasol, yn cynnwys grwpiau arbennig o agored i niwed 4.2 statws iechyd y gymuned a'r cyfleusterau iechyd sydd ar gael 4.3 nodweddion amgylcheddol ardaloedd 4.4 statws economaidd ardaloedd 4.5 seilwaith ardaloedd, gan gynnwys safleoedd, gwasanaethau neu rwydweithiau cyflenwi hollbwysig 4.6 safleoedd a allai fod yn beryglus mewn ardaloedd a'u perthynas â chymunedau neu safleoedd sy'n amgylcheddol sensitif
  5. y mathau o effeithiau y gall fod angen i unigolion a chymunedau sicrhau adferiad yn eu sgîl, gan gynnwys: 5.1 cymdeithasol 5.2 iechyd 5.3 economaidd 5.4 effeithiau amgylcheddol 5.5 y rhai y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt
  6. anghenion unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a sut gall y rhain newid dros amser
  7. effeithiau posibl argyfyngau ar bobl a grwpiau agored i niwed, yn cynnwys: 7.1 diffiniadau o fod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau 7.2 materion sy'n benodol i grwpiau agored i niwed
  8. sut mae cyfathrebu ag unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  9. sut mae sicrhau bod ystyriaethau adferiad tymor hwy yn cael eu hymgorffori i'r ymatebion i argyfyngau
  10. sut mae atal effeithiau argyfyngau rhag esgaladu
  11. sut mae grymuso unigolion, sefydliadau a chymunedau i reoli eu hadferiad eu hunain
  12. sefydliadau, grantiau a chynlluniau ariannu sy'n gallu cynorthwyo gydag adferiad wedi argyfyngau
  13. trefniadau ar gyfer rheoli arian a gyfrannwyd gan y cyhoedd mewn ymateb i argyfyngau
  14. deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i adferiad wedi argyfyngau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 natur gydweithredol
2 ystyriaeth gymunedol
3 bod yn adeiladol
4 bod yn benderfynol
5 meddu ar empathi
6 bod yn hyblyg
7 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 cyfathrebu                                                       
2 ymgynghori                                                                  
3 dylanwadu                                                              
4 cysylltu                                                                       
5 ysgogi                                                               
6 cyd-drafod                                                             
7 rhwydweithio                                                              
8 trefnu
9 blaenoriaethu
10 rheoli prosiectau
11 arweinyddiaeth


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


*Cymuned     *    
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:


1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
3 CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau
4 CCAH1 Darparu cefnogaeth barhaus i ddiwallu anghenion unigolion y mae argyfyngau'n effeithio arnynt
5 MLF1 Rheoli prosiect
6 MLF2 Rheoli rhaglen o brosiectau sy'n cydweddu


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAH2

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithio; rhannu; rhybuddio; hysbysu; rheoli; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau; cynllunio