Ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol (arian)

URN: SFJCCAG2
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol, gan sicrhau bod camau gweithredu yn cydsymud, wedi'u cydlynu a'u hintegreiddio er mwyn cyflawni'r effeithiolrwydd a'r effeithlonrwydd gorau.  Yn y cyd-destun hwn, arian yw'r lefel (o dan y lefel aur ac uwchlaw’r lefel efydd) y rheolir yr ymateb i Argyfwng arni'n gyffredinol (Cyf: Rhestr Termau Rheolaeth Amlasiantaeth ar Argyfyngau). Mae'n cynnwys llunio, gweithredu ac adolygu tactegau sy'n hysbysu'r ymateb gweithredol, a nodi ble gall sefyllfaoedd gyfiawnhau lefel strategol o reolaeth.


Grŵp Targed
Mae'r safon hon wedi'i bwriadu ar gyfer y rhai sy'n darparu arweinyddiaeth mewn ymateb i argyfwng ar y lefel dactegol (arian). Gall hyn fod oddi mewn i senario amddiffyniad sifil / golau glas neu oddi mewn i senarios eraill megis y rhai a geir oddi mewn i'r ystâd rheoli troseddwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​casglu gwybodaeth ddigonol i bennu statws cyfredol ymatebion, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. llunio cynlluniau tactegol sy'n rhoi sylw i'r wybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw gynlluniau argyfwng a ragbenderfynwyd, a'r risgiau a ragwelir, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. gweithredu tactegau, cadarnhau rolau, cyfrifoldebau, tasgau a sianeli cyfathrebu, yn unol ag amserlenni a gofynion sefydliadol
  4. cynnal asesu a rheoli risg parhaus mewn ymateb i natur ddeinamig argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. adolygu tactegau gyda'r personél allweddol sy'n ymwneud â gorchymyn, rheoli a chydsymud, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. cadarnhau bod camau gweithredu i roi tactegau ar waith yn cael eu cyflawni, gan roi sylw i effeithiau ar unigolion, cymunedau a'r amgylchedd, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. pennu blaenoriaethau ar gyfer dyrannu'r adnoddau sydd ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. rhagweld anghenion adnoddau yn y dyfodol, gan roi sylw i achosion posibl o argyfyngau'n esgaladu, yn unol â gofynion sefydliadol
  9. gweithio mewn cydweithrediad a chyfathrebu ag ymatebwyr eraill, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. cysylltu â sefydliadau perthnasol i ymdrin â blaenoriaethau tymor hir adfer gwasanaethau hanfodol a helpu i hwyluso adferiad cymunedau yr effeithiwyd arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. casglu a darparu cyngor technegol a phroffesiynol o ffynonellau addas i hysbysu gwneud penderfyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. darparu gwybodaeth gywir i hysbysu ac amddiffyn cymunedau, gan weithio gyda'r cyfryngau lle bo hynny'n berthnasol, yn unol ag amserlenni a gofynion sefydliadol
  13. monitro a chynnal iechyd, diogelwch a lles unigolion yn ystod ymatebion, yn unol â gofynion sefydliadol
  14. adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd ar lefel weithredol (efydd) yn unol â gofynion sefydliadol
  15. nodi ble mae'r amgylchiadau'n cyfiawnhau lefel strategol (aur) o reolaeth ac ymgysylltu â'r lefel strategol fel sy'n ofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol
  16. briffio a dadfriffio unigolion sy'n rhan o faes eich awdurdod yn llawn, ac yn unol â gofynion sefydliadol
  17. gwerthuso effeithiolrwydd tactegau a defnyddio'r wybodaeth hon i hysbysu arfer yn y dyfodol, yn unol â chanllawiau sefydliadol
  18. cofnodi penderfyniadau, camau gweithredu, opsiynau a rhesymeg, yn unol â gwybodaeth, polisi a deddfwriaeth cyfredol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth gyfredol, polisïau, gweithdrefnau, codau ymarfer a chanllawiau, yng nghyswllt ymateb i argyfwng
  2. gofynion cyfredol sefydliadol a deddfwriaeth yng nghyswllt iechyd, diogelwch a lles
  3. cynlluniau a threfniadau argyfwng
  4. egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
  5. egwyddorion gorchymyn, rheoli a chydsymud
  6. sut mae canfod nod strategol ymatebion
  7. yr ystod o opsiynau tactegol a sut dylid eu cyfathrebu
  8. sut mae llunio cynlluniau gweithredu sy'n rhoi sylw i'r wybodaeth sydd ar gael
  9. sut mae monitro ac adolygu gweithrediad opsiynau tactegol
  10. eraill a ddylai fod yn ymwneud ag adolygu opsiynau tactegol
  11. amgylchiadau lle mae angen arbenigedd neu gydsymud y tu hwnt i'r lefel dactegol (arian)
  12. mathau o adnoddau y gall fod angen amdanynt, a sut mae cael hyd iddynt
  13. rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy'n ymwneud ag ymateb ac adferiad ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol
  14. diwylliant, blaenoriaethau a chyfyngiadau sefydliadau partner
  15. sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu; eu strwythurau cyffredinol, eu dulliau cyfathrebu a'u prosesau gwneud penderfyniadau
  16. sut mae cyfathrebu ag unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  17. effaith bosibl argyfyngau ar yr amgylchedd
  18. sut mae asesu effeithiau dynol tymor byr a thymor hir argyfyngau, a chanfod y grwpiau mwyaf agored i niwed
  19. anghenion gwybodaeth sefydliadau sy'n ymwneud ag ymatebion
  20. sut mae cynnal sesiynau briffio a dadfriffio
  21. sut mae gwerthuso effeithiolrwydd tactegau
  22. diben cofnodi gwybodaeth a'r cofnodion y mae'n rhaid eu cadw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 natur gydweithredol
2 ystyriaeth gymunedol
3 bod yn adeiladol
4 bod yn benderfynol
5 bod yn hyblyg
6 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 cyfathrebu                                                         
2 gwneud penderfyniadau                                                       
3 arweinyddiaeth                                                                 
4 cysylltu                                                                       
5 cyd-drafod                                                             
6 trefnu                                                             
7 cynllunio
8 blaenoriaethu
9 datrys problemau


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


*Cymunedau    *   
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.


*Amgylchedd   *     
Amgylchiadau, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid.


*Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)    *                              
Agwedd at atal a rheoli argyfyngau sy'n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol - rhagweld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac adferiad. Mae IEM yn troi o gwmpas y syniad o adeiladu gwytnwch cyffredinol uwch yn wyneb ystod eang o heriau sy'n amharu.  Mae'n galw am ymdrech amlasiantaeth gydlynus.


*Sefydliadau    * 
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.


*Adnoddau   *         
Pobl, cyfarpar, deunyddiau, cyllid ac ati.


*Risg       *                 
Mesur arwyddocâd digwyddiad neu sefyllfa a allai ddigwydd o ran tebygolrwydd ac effaith.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r canlynol:


1 CCAG1 Ymateb i argyfyngau fel rhan o ymateb amlasiantaeth ar y lefel strategol (aur)
2 CCAG3 Ymateb i argyfyngau ar y lefel weithredol (efydd)
3 CC AA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
4 CC AA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
5 CC AF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau
6 CC2 Llunio, monitro ac adolygu tactegau i gyflawni amcanion strategol ar gyfer gweithrediadau plismona (yr Heddlu)
7 EFSM2 Arwain, Monitro a Chefnogi pobl i ddatrys digwyddiadau gweithredol (y Gwasanaeth Tân)


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAG2

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; rhannu; rhybuddio; hysbysu; gweithrediadau; cefnogaeth; arwain; monitro; datrys; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau; cynllunio