Cynyddu ymwybyddiaeth o risgiau, effeithiau posibl a threfniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau

URN: SFJCCAF1
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynyddu ymwybyddiaeth mewn cymunedau o risgiau, effeithiau posibl a threfniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau. Y nod yw bod aelodau o gymunedau yn wybodus, ac felly mewn sefyllfa well i ymateb i argyfyngau a lleiafu'r effeithiau. 


Mae cynyddu ymwybyddiaeth yn cynnwys datblygu ac addasu deunyddiau gwybodaeth, a lledaenu gwybodaeth mewn cymunedau.  Gall hyn olygu bod angen gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i leiafu dyblygu, a sicrhau darpariaeth gyson o wybodaeth rhwng asiantaethau ymatebwyr.  Gall yr wybodaeth a'r cyngor gyfeirio at risgiau cyffredinol argyfyngau yn yr ardal leol, neu sy'n gysylltiedig â risgiau a chynlluniau penodol.


Grŵp Targed
Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n pennu’r angen am gynyddu ymwybyddiaeth, ac sy'n datblygu ac yn lledaenu rhaglenni a deunyddiau er mwyn addysgu cymunedau am argyfyngau. Gall cymunedau gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi'r amcanion cyffredinol ar gyfer cyfathrebu â chymunedau, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. nodi safbwyntiau, pryderon ac anghenion cymunedau, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. nodi amcanion penodol ar gyfer cyfathrebu â phob segment o'r cynulleidfaoedd targed, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. nodi'r deunyddiau gwybodaeth presennol a gwerthuso sut gellir eu defnyddio neu eu teilwra i wella ymwybyddiaeth mewn cymunedau lleol, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. datblygu rhaglenni neu ddeunyddiau ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys: 5.1 trefniadau ymateb mewn argyfwng 5.2 sut gall unigolion helpu i atal argyfyngau 5.3 sut gall unigolion helpu i wella gwytnwch cymunedol 5.4 y paratoadau y gallai aelodau o gymunedau eu gwneud rhag ofn y bydd argyfyngau'n digwydd 5.5 camau gweithredu y gallai aelodau o gymunedau eu cymryd os bydd argyfyngau'n digwydd
  6. golygu neu grynhoi deunyddiau gwybodaeth, gan roi sylw i unrhyw wybodaeth sensitif, ac yn unol â gofynion sefydliadol
  7. cadarnhau bod cyflwyniad a chynnwys gwybodaeth yn cyflawni'r amcanion a ddiffiniwyd ac anghenion, galluoedd a dewisiadau amrywiol cynulleidfaoedd targed
  8. ymgynghori â phobl berthnasol ynghylch dyluniad a chynnwys deunyddiau gwybodaeth a chyngor, yn unol â gofynion sefydliadol
  9. gweithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, yn unol â gofynion sefydliadol, er mwyn osgoi: 9.1 dyblygu ymdrech  9.2 negeseuon â allai wrthddweud ei gilydd
  10. darparu gwybodaeth mewn fformatau sy'n hybu dealltwriaeth ac sy'n hygyrch i gynulleidfaoedd targed, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. caffael arweiniad arbenigol ar gyflwyno a chynnwys gwybodaeth yn ôl y galw, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. rhoi cyhoeddusrwydd i argaeledd deunyddiau gwybodaeth a threfnu i'w lledaenu yn unol â gofynion sefydliadol
  13. gwerthuso effeithiolrwydd yr wybodaeth a ddarparwyd yn unol â gofynion sefydliadol
  14. adolygu ac adnewyddu'r wybodaeth a ddarparwyd i roi sylw i amgylchiadau newidiol, yn unol â gofynion sefydliadol
  15. gwirio bod cyflwyniadau a gwybodaeth yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i ryddid gwybodaeth a chynllunio ar gyfer argyfwng
  2. gwybodaeth y gellid ei gwneud yn gyhoeddus i wella amddiffyniad sifil
  3. sut mae nodi cynulleidfaoedd targed ar gyfer gwybodaeth benodol
  4. pwysigrwydd cyfathrebu gydag aelodau o gymunedau i roi sylw i'w safbwyntiau, eu pryderon a'u hanghenion
  5. sianeli sydd eisoes yn bodoli ar gyfer cyfathrebu gyda chymunedau
  6. pwysigrwydd seilio eich strategaeth gyfathrebu ar risgiau hysbys
  7. deunyddiau gwybodaeth sydd ar gael o gyrff cenedlaethol a rhanbarthol
  8. sut mae cyfrannu at ddatblygiad gwytnwch cymunedol
  9. sut mae cyfathrebu risgiau i'r cyhoedd er mwyn mwyafu'r posibiliadau hunan-gymorth
  10. peryglon a risgiau yn eich ardal ac effeithiau posibl argyfyngau ar gymuneda
  11. cynlluniau a gweithdrefnau ymateb a ddatblygwyd gyda phartneriaid amddiffyniad sifil
  12. rhagofalon call y dylai'r cyhoedd eu cyflawni cyn argyfyngau a chamau gweithredu y dylent eu cymryd os bydd argyfwng
  13. effaith bosibl argyfyngau ar grwpiau a sefydliadau penodol sy'n agored i niwed
  14. deddfwriaeth sy'n gofyn bod gwybodaeth yn cael ei darparu i gymunedau ynghylch: 14.1 peryglon a risgiau argyfwng 14.2 beth bydd ymatebwyr yn ei wneud os bydd argyfwng
  15. sut mae trefnu i ddarparu gwybodaeth mewn amrywiol fformatau
  16. sut mae sicrhau arweiniad ar ddylunio a chynhyrchu deunyddiau
  17. sut mae golygu neu grynhoi deunyddiau gwybodaeth o ran unrhyw wybodaeth sensitif
  18. sut mae cyrraedd aelodau o gymunedau sy'n agored i niwed a'r rhai a allai gael trafferth deall y neges
  19. pryd dylid adolygu ac adnewyddu gwybodaeth i roi sylw i amgylchiadau newidiol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 ystyriaeth gymunedol
2 bod yn benderfynol
3 meddu ar empathi
4 natur ymchwiliol
5 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 dadansoddi                                                                
2 cyfathrebu                                                       
3 ymgynghori
4 drafftio                                                                    
5 rheoli gwybodaeth
6 cysylltu
7 marchnata
8 trefnu
9 cyflwyno
10 rheoli prosiectau
11 ymchwil
12 pennu amcanion


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil


*Cymuned    *       
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.


*Gwybodaeth sensitif      *       
Gwybodaeth sy'n peryglu diogeledd cenedlaethol neu ddiogelwch y cyhoedd; sy'n fasnachol sensitif, neu sy'n ymwneud â data personol.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol


1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAB1 Rhagweld ac asesu risg argyfyngau
3 CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
4 CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAF1

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; rhagweld; datblygu; cynnal; rhybuddio; hysbysu; cynghori; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau