Cyfeirio a hwyluso ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes

URN: SFJCCAE2
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymweud â chyfeirio a hwyluso ymarferiadau i brofi neu ddilysu cynlluniau, prosesau a threfniadau.


Grŵp Targed
Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â chynnal ymarferiadau amddiffyniad sifil.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau bod y staff sy'n cyfarwyddo yn ymwybodol o'u rolau mewn ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. gwirio eich bod yn gallu cyfathrebu â'r holl staff sy'n cyfarwyddo ar hyd yr ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. rhoi cyfarwyddyd clir i'r cyfranogwyr ar hyd yr ymarferiadau, yn unol â chanllawiau sefydliadol
  4. cyflwyno gwybodaeth ragarweiniol/briffiad ar ddechrau'r ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. rheoli amseriadau ymarferion yn unol â gofynion sefydliadol
  6. derbyn cyfrifoldeb am ddechrau, cynnydd, oedi, gadawiad neu ddiwedd ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. rhagweld problemau a allai godi yn ystod ymarferiadau, a gweithredu mewn modd priodol os digwyddant, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. ymateb i ddigwyddiadau wrth iddynt godi, gan ddefnyddio dulliau priodol i gadw'r ymarferiad yn gweithredu yn unol â'r bwriad neu i roi pwysau ychwanegol yn ôl y gofyn
  9. cynnal elfennau adborth ymarferiadau yn eglur ac yn gryno, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. cynnal trosolwg o gynnydd ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. logio digwyddiadau i ganiatáu cynhyrchu adroddiadau ôl-ymarferiad yn unol â gofynion sefydliadol
  12. cynnal dadfriffio a gwerthuso gyda'r cyfranogwyr wedi ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  13. gwahaniaethu rhwng adborth ar fecaneg ymarferiadau, a'r gwersi a ddysgwyd sy'n berthnasol i'r amcanion, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gwahaniaethau rhwng ymarferiadau sy'n: 1.1 darparu hyfforddiant ar y cyd 1.2 rhoi cynnig ar drefniadau newydd 1.3 gwerthuso'r trefniadau presennol
  2. sut a phryd gellir defnyddio ymarferiadau gwahanol
  3. diben ymarferiadau wrth gynnal cyfrededd a dilysrwydd cynlluniau a datblygu cymhwysedd y rhai dan sylw
  4. meysydd a allai fod yn wendid yn y perfformiad neu'r gweithdrefnau presennol, y gellir ymdrin â hwy trwy ymarferiadau
  5. rolau'r staff cyfarwyddo oddi mewn i ymarferiadau
  6. nodau, amcanion, cwmpas, amseru, strwythur, mecaneg a phob gwybodaeth sy'n berthnasol i'r ymarferiad yr ydych yn ei gyfarwyddo
  7. rolau a chyfrifoldebau cyffredinol y sefydliadau sy'n cymryd rhan yn yr ymarferiadau
  8. sut mae canfod pryd dylid ymyrryd yn y dull o gynnal yr ymarferiad, os bydd y cyfranogwyr yn crwydro'n rhy bell o'r amcanion
  9. sut mae canfod pryd cyflawnwyd holl amcanion yr ymarferiad, neu'r mwyafrif ohonynt
  10. manteision sesiynau dadfriffio 'poeth' ac 'oer' ar ôl digwyddiadau
  11. deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i gynllunio ar gyfer argyfwng

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 bod yn benderfynol
2 natur ymchwiliol
3 bod yn realistig
4 bod yn hyderus
5 natur gydweithredol


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 dadansoddi                                                                
2 asesu
3 briffio a dadfriffio
4 cyfathrebu
5 ymgynghori
6 rheoli gwybodaeth
7 trefnu
8 datrys problemau
9 rheoli prosiectau
10 hwyluso
11 gwneud penderfyniadau
12 arweinyddiaeth


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


Prawf
Gweithdrefn i ganfod ansawdd neu ddibynadwyedd elfen o gynllun.


Ymarferiad
Efelychiad i ddilysu cynllun argyfwng neu ddilyniant busnes, rhoi cyfle i staff allweddol ymarfer, neu brofi systemau neu weithdrefnau.


Ymarferiad ar sail trafodaeth
'Siarad trwy' y trefniadau ymateb.


Ymarferiad pen bwrdd
Efelychiad, a gynhelir fel arfer mewn un ystafell neu gyfres o ystafelloedd.


Ymarferiad byw
Ymarfer mewn modd realistig, neu 'ddril ymarfer'.


Dadfriffio 'poeth'
Dadfriffio yn union wedi digwyddiad.


Dadfriffio 'oer'
Dadfriffio beth amser wedi digwyddiad (e.e. asesiad ysgrifenedig).


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:


1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
3 CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
4 CCAE1 Creu ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
5 CCAE3 Cynnal dadfriffiad yn dilyn argyfwng, ymarferiad neu weithgaredd arall


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAE2

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithio; datblygu; cynnal; ymarfer; dilysu; cynnal; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau