Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau ar gyfer parhad busnes

URN: SFJCCAD1W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Tach 2008

Trosolwg

​Mae’r uned hon yn ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau parhad busnes er mwyn sicrhau bod sefydliadau’n parhau i ymarfer swyddogaethau craidd os bydd argyfwng yn codi neu rywbeth yn amharu ar fusnes. 


Mae hon yn berthnasol i unrhyw sefydliad yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol a all ddioddef yn sgil argyfwng neu rywbeth yn amharu ar fusnes, gan gynnwys y rheini sy’n ymateb i argyfwng ac mae angen iddynt ddefnyddio eu gallu eu hunain os bydd argyfwng yn codi.

Grŵp Targed
*
*
Mae’r uned hon yn cael ei hargymell ar gyfer y rheini sy’n gysylltiedig â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau parhad busnes.  Mae hyn yn cynnwys rheolwyr mewn sefydliadau a’r rheini sydd â chyfrifoldeb penodol dros gydlynu trefniadau parhad busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. ymgynghori â’r sefydliad a phartneriaid perthnasol eraill ynghylch datblygu’r cynlluniau a’r trefniadau

2. cadarnhau nod, cwmpas ac amcanion gofynnol y cynlluniau a’r trefniadau
3. nodi’r prif gynnyrch neu wasanaethau a’r gweithgareddau a’r adnoddau hanfodol sy’n eu cefnogi
4. ystyried gallu strwythurau a phrosesau mewnol ynghyd â sefydliadau allanol perthnasol i wrthsefyll pwysau
5. nodi ac asesu strategaethau eraill i liniaru effeithiau achosion o argyfwng neu rywbeth yn amharu ar fusnes
6. datblygu cynlluniau a threfniadau yn unol â chylch bywyd rheoli parhad busnes
7. darparu fframwaith ar gyfer llywio, cydlynu a rheoli gan gynnwys:
a) gweithdrefnau er mwyn pennu pryd ddylai’r cynllun gael ei ddefnyddio
b) rolau a chyfrifoldebau pobl allweddol yn y sefydliad
c) blaenoriaethu prosesau neu wasanaethau’r sefydliad
d) gweithdrefnau er mwyn rhoi trefniadau ymateb ar waith
e) darparu adnoddau (e.e. pobl, adeiladau, technoleg, cyfarpar)
f) darparu systemau gwybodaeth a chyfathrebu cadarn
8. cydbwyso adnoddau sydd wedi’u clustnodi ar gyfer rheoli parhad busnes gydag asesiad o effaith bosibl achosion o argyfwng 
9. cyflwyno cynlluniau a threfniadau yn glir, yn gryno ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
10. annog perchnogi cynlluniau a threfniadau ar y lefel adrannol briodol
11. codi ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau (e.e. ymhlith uwch reolwyr a swyddogion gwneud penderfyniadau, staff perthnasol eraill, rhanddeiliaid a’r gymuned yn gyffredinol)
12. sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i staff perthnasol neu bobl eraill
13. sicrhau bod ymarferion yn cael eu darparu er mwyn dilysu ac ymarfer cynlluniau a threfniadau
14. trefnu i ddosbarthu’r holl gynlluniau parhad busnes neu rai ohonynt, lle y bo’n briodol
15. sicrhau bod cynlluniau’n cael eu hadolygu’n systematig a’u diweddaru, yn unol ag effaith bosibl achosion o argyfwng neu rywbeth yn amharu, newidiadau yn y sefydliad a’r gwersi a ddysgwyd yn sgil digwyddiadau ac ymarferion


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth, canllawiau a safonau cyfredol sy’n berthnasol i reoli parhad busnes

  2. deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â rhannu gwybodaeth

  3. sut mae cadarnhau nod, cwmpas ac amcanion y cynlluniau a’r trefniadau parhad busnes

  4. pwysigrwydd cynnwys rhanddeiliaid perthnasol yn y broses gynllunio a chydnabod eu gofynion a’u disgwyliadau

  5. cylch bywyd rheoli parhad busnes

  6. effaith bosibl achosion o argyfwng ar y sefydliad

  7. sut mae dadansoddi effaith busnes

  8. rolau a strwythur fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer Rheolaeth Integredig mewn Argyfwng (IEM)

  9. sut mae pennu’r elfennau o gynllunio parhad busnes y gellir rhoi sylw iddynt drwy hyfforddiant neu ymarfer

  10. sut mae cynllunio ar gyfer darparu adnoddau perthnasol os bydd argyfwng yn codi neu os bydd rhywbeth yn amharu ar fusnes

  11. yr anghenion gwybodaeth ar ôl argyfwng neu ar ôl i rywbeth amharu ar fusnes

  12. sut mae nodi swyddogaethau’r sefydliad sy’n hanfodol a heb fod yn hanfodol

  13. strwythur, prosesau busnes a llywodraethu’r sefydliad

  14. blaenoriaethau’r sefydliad o ran darparu gwasanaethau neu brosesau

  15. dulliau o godi ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau parhad busnes

  16. pwysigrwydd perchnogi cynlluniau a threfniadau ar y lefel adrannol briodol

  17. pwysigrwydd datblygu diwylliant rheoli parhad busnes mewn sefydliad

  18. sut a pham mae’n rhaid adolygu cynlluniau parhad busnes yn systematig​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​Isod rhestrir y prif sgiliau ac agweddau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso.  Mae’r rhain yn benodol/ymhlyg yng nghynnwys manwl yr uned ac maent yn cael eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 


1. sylw ar y gymuned
2. penderfynol
3. meddwl agored
4. realistig


Sgiliau

  • dadansoddi                                                                 

  • cyfathrebu                                                        

  • ymgynghori                                                                

  • dadansoddi effaith                                                        

  • dylanwadu

  • rhyngbersonol                                                           

  • cyfweld

  • negodi

  • rhwydweithio

  • trefnu

  • arwain

  • blaenoriaethu

  • datrys problemau

  • rheoli prosiectau

  • ysgrifennu adroddiadau/cynlluniau

  • cynllunio strategaeth​


Geirfa

​Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun NOS Paratoadau Sifil


Cynllun parhad busnes
Cyfres o weithdrefnau a gwybodaeth wedi’u dogfennu gyda’r bwriad o sicrhau bod swyddogaethau hanfodol yn parhau os bydd rhywbeth yn tarfu ar y drefn

Dadansoddi effaith busnes  
Dull o asesu’r effeithiau a allai godi yn sgil digwyddiad a lefelau’r adnoddau a’r amser sydd eu hangen er mwyn adfer y sefyllfa

Sefydliad
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r uned hon yn gysylltiedig â


1. CC AB1  Rhag-weld ac asesu’r risg o achosion o argyfwng
2. CC AD2  Hyrwyddo gwaith rheoli parhad busnes
3. CC AE1  Creu ymarferion i ymarfer neu ddilysu trefniadau mewn argyfwng neu barhad busnes
4. CC AE2  Cyfarwyddo a hwyluso ymarferion i ymarfer neu ddilysu trefniadau mewn argyfwng neu barhad busnes
5. CC AF1  Codi ymwybyddiaeth o’r risg, yr effaith bosibl a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer achosion o argyfwng.​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2013

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAD1

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rhag-weld, hyrwyddo, creu, hwyluso