Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng

URN: SFJCCAC1W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Tach 2008

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng er mwyn lleihau, rheoli neu liniaru effeithiau achosion o argyfwng yn ogystal â darparu fframwaith ar gyfer adfer cymunedau yr effeithir arnynt gan argyfwng dros y tymor hir. 


Grŵp Targed

Mae’r uned hon yn cael ei hargymell ar gyfer y rheini sy’n gysylltiedig â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. datblygu cynlluniau a threfniadau drwy ymgynghori â’r rheini yn eich sefydliad a phartneriaid eraill sy’n debygol o fod yn rhan o’r dasg o ymateb mewn argyfwng

2. cadarnhau nod, cwmpas ac amcanion gofynnol y cynlluniau a’r trefniadau
3. datblygu cynlluniau a threfniadau gan roi sylw i:
a. asesiadau risg perthnasol a nodweddion ardaloedd
b. lles grwpiau agored i niwed a’r gymuned yn gyffredinol
4. darparu fframwaith ar gyfer llywio, cydlynu a rheoli gan gynnwys:
a. gweithdrefnau sy’n rhoi cyfle i liniaru risg
b. gweithdrefnau i bennu a oes argyfwng wedi codi
c. rolau a chyfrifoldebau’r rheini sy’n ymateb
d. gweithdrefnau i roi gwybod i staff a rhoi trefniadau ymateb ar waith
e. darparu adnoddau (e.e. cyfarpar, cyfleusterau, cyllid)
f. darparu systemau gwybodaeth a chyfathrebu cadarn
g. trefniadau i rybuddio, rhoi gwybod a chynghori’r gymuned
5. codi ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng (e.e. ymhlith y rheini sy’n ymateb, staff perthnasol a’r gymuned yn gyffredinol)
6. sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i staff perthnasol neu bobl eraill
7. sicrhau bod cyfeiriad at ddarparu ymarferion er mwyn dilysu ac ymarfer cynlluniau a threfniadau
8. cadw cofnodion o benderfyniadau allweddol y cytunwyd arnynt yn y broses gynllunio gyda’r prif bartïon a rhyngddynt
9. cyflwyno cynlluniau a threfniadau yn glir, yn gryno ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
10. sicrhau bod uwch reolwyr a swyddogion gwneud penderfyniadau yn perchnogi cynlluniau a threfniadau 
11. trefnu i ddosbarthu’r holl gynlluniau argyfwng neu rai ohonynt, lle y bo’n briodol
12. sicrhau bod systemau ar waith i ddiweddaru’r cynlluniau mewn ymateb i newidiadau yn y sefydliad
13. sicrhau bod cynlluniau’n cael eu hadolygu’n systematig yn unol ag asesiadau risg cyfredol, gwersi a ddysgwyd yn sgil digwyddiadau ac ymarferion, ac unrhyw newidiadau i ganllawiau a deddfwriaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cynnwys pawb yn y broses gynllunio sy’n debygol o ddefnyddio, neu o gael eu tywys gan, y cynlluniau a’r trefniadau a’r holl randdeiliaid perthnasol eraill

  2. pa bryd y bydd angen cynlluniau a threfniadau ar gyfer cydweithio ag asiantaethau eraill (gan gynnwys asiantaethau gwirfoddol)

  3. rolau a strwythur fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer cydweithio ar gynllunio ar gyfer argyfwng

  4. sut mae cadarnhau nod, cwmpas ac amcanion y cynlluniau a’r trefniadau ar gyfer argyfwng

  5. pwrpas cynlluniau cyffredinol a phenodol ar gyfer argyfwng

  6. egwyddorion Rheolaeth Integredig mewn Argyfwng (IEM)

  7. y cylch cynllunio ar gyfer argyfwng

  8. yr asesiadau risg lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd ar gael, a’u rôl wrth gynllunio ar gyfer argyfwng

  9. tebygolrwydd y risg a chanlyniadau’r risg y mae’r cynllun yn cael ei greu ar ei chyfer

  10. effaith bosibl yr achosion o argyfwng ar bobl yn eich maes cyfrifoldeb

  11. effaith bosibl yr achosion o argyfwng ar yr amgylchedd

  12. sut mae pennu’r elfennau o gynllunio ar gyfer argyfwng y gellir rhoi sylw iddynt drwy hyfforddiant neu ymarfer

  13. adnoddau, seilwaith a chymunedau’r ardal leol

  14. yr anghenion gwybodaeth ar ôl argyfwng

  15. blaenoriaethau’ch sefydliad o ran darparu gwasanaethau

  16. dulliau o godi ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng

  17. deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer argyfwng​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​Isod rhestrir y prif sgiliau ac agweddau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso.  Mae’r rhain yn glir/wedi’u hawgrymu yng nghynnwys manwl yr uned ac maent yn cael eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol.


1. sylw ar y gymuned
2. penderfynol
3. empathig
4. hyblyg
5. ymchwiliadol
6. meddwl agored
7. realistig


Sgiliau

  • dadansoddi

  • cyfathrebu

  • ymgynghori

  • dadansoddi effaith 

  • rheoli gwybodaeth

  • dylanwadu

  • negodi

  • trefnu

  • ysgrifennu adroddiadau/cynlluniau

  • blaenoriaethu

  • datrys problemau

  • rheoli prosiectau

  • ymchwilio

  • gosod amcanion ​


Geirfa

​Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun NOS Paratoadau Sifil


Cymuned
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ayb

Cynllun ar gyfer argyfwng
Cytundeb i gymryd cyfres o gamau sy’n ddealladwy i’r rheini sy’n cymryd y camau ac yn eu tywys wrth iddynt weithredu

Cynllun cyffredinol ar gyfer argyfwng
Un cynllun sydd â’r bwriad o ddelio ag ystod eang o achosion o argyfwng

Cynllun penodol ar gyfer argyfwng
Cynllun sydd â’r bwriad o ddelio â math penodol o argyfwng, lle na fydd y cynllun cyffredinol yn debygol o fod yn ddigonol

Rheolaeth Integredig mewn Argyfwng (IEM)       
Ffordd o atal a rheoli achosion o argyfwng sy’n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol – rhag-weld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac adfer.  Nod IEM yw meithrin mwy o allu i wrthsefyll yn gyffredinol a hynny yn wyneb ystod eang o heriau sy’n tarfu ar bethau.  Mae’n gofyn am ymdrech gydlynol rhwng sawl asiantaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r uned hon yn gysylltiedig â:


1. CC AA1  Cydweithio â sefydliadau eraill
2. CC AB1  Rhag-weld ac asesu’r risg o achosion o argyfwng
3. CC AE1  Creu ymarferion i ymarfer neu ddilysu trefniadau mewn argyfwng neu barhad busnes
4. CC AE2  Cyfarwyddo a hwyluso ymarferion i ymarfer neu ddilysu trefniadau mewn argyfwng neu barhad busnes
5. CC AF1  Codi ymwybyddiaeth o’r risg, yr effaith bosibl a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer achosion o argyfwng.​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2013

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAC1

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithio, rhag-weld, asesu, ymarfer, dilysu