Rheoli gwybodaeth i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau amddiffyniad sifil
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwybodaeth a'i defnyddio'n effeithiol i gynnal gwneud penderfyniadau yn ystod argyfwng, ymarferiad neu weithgareddau amddiffyniad sifil o ddydd i ddydd. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a gynhyrchir gan systemau cyfrifiadurol.
Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n nodi, yn dehongli ac yn cyfathrebu gwybodaeth i gynnal gwneud penderfyniadau mewn amgylchedd amddiffyniad sifil.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i gynnal gwneud penderfyniadau yn ystod argyfyngau, ymarferiadau neu weithgareddau amddiffyniad sifil eraill, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi ffynonellau gwybodaeth berthnasol, ddibynadwy, yn unol â gofynion sefydliadol
- sefydlu dulliau o fonitro a gwerthuso dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
- cymryd camau oddi mewn i derfynau amser sefydliadol i amlygu gwybodaeth: 4.1 annigonol 4.2 annibynadwy 4.3 anghyson 4.4 amwys
- dadansoddi gwybodaeth er mwyn canfod ffeithiau, patrymau a thueddiadau a allai gefnogi gwneud penderfyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
- darparu gwybodaeth i'r rhai y mae ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus, yn unol â therfynau amser sefydliadol
- cyflwyno gwybodaeth mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
- ydweithio â phartneriaid amddiffyniad sifil i drefnu gwybodaeth yn unol â gofynion sefydliadol
- heoli diogeledd gwybodaeth yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- cofnodi a storio gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
- rheoli cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gyfredol a pholisïau sy'n berthnasol i reoli gwybodaeth ym maes amddiffyniad sifil
- rheoli cydymffurfiaeth â gweithdrefnau a chanllawiau sy'n berthnasol i reoli gwybodaeth ym maes amddiffyniad sifil
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth gyfredol a pholisïau sy'n berthnasol i reoli gwybodaeth ym maes amddiffyniad sifil
- gweithdrefnau a chanllawiau sy'n berthnasol i reoli gwybodaeth ym maes amddiffyniad sifil
- anghenion gwybodaeth defnyddwyr ym maes amddiffyniad sifil
- sut gall defnydd priodol o systemau gwybodaeth gyfrannu at wneud penderfyniadau gwell yn ystod argyfwng, ymarferiad neu weithgaredd amddiffyniad sifil arall
- y mathau o systemau gwybodaeth sydd ar gael a'r problemau posibl y gellir eu hwynebu gyda'r cyfryw systemau
- sut mae cipio gwybodaeth o systemau gwybodaeth i gynnal gwneud penderfyniadau effeithiol
- sut gellir defnyddio dadansoddi gwybodaeth i ganfod ffeithiau, patrymau a thueddiadau sy'n cynnal gwneud penderfyniadau
- sut mae gwerthuso a monitro dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth
- sut mae cynnal perthnasedd gwasanaethau gwybodaeth yn unol ag anghenion gwybodaeth newidiol defnyddwyr
- cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth sensitif, gan gynnwys 10.1 gwybodaeth sy'n peryglu diogeledd cenedlaethol 10.2 gwybodaeth sy'n peryglu diogelwch y cyhoedd 10.3 gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif 10.4 gwybodaeth bersonol
- rolau a swyddogaethau sefydliadau partner ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 cydweithredol
2 ymchwilio
3 realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 dadansoddi
2 cyfathrebu
3 ymchwiliol
4 gwneud penderfyniadau
5 realistig
6 rheoli gwybodaeth
7 monitro
8 cyd-drafod
9 rhifedd
10 cyflwyno
11 datrys problemau
12 paratoi adroddiadau
13 ymchwil
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:
*Gwybodaeth *
Ffeithiau, data neu wybodaeth y gellir eu darparu neu eu dysgu.
*Sefydliadau *
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:
1 CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
2 CCAB1 Rhagweld ac asesu risg argyfyngau
3 CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
4 CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
5 CCAG1 Ymateb i argyfyngau fel rhan o ymateb amlasiantaeth ar y lefel strategol (aur)
6 CCAG2 Ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol (arian)