Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill

URN: SFJCCAA1
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda sefydliadau eraill, yn cynnwys cyrff cyhoeddus, preifat neu o'r sector gwirfoddol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer gwaith amlasiantaeth effeithiol wrth gynllunio ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt, a chynorthwyo adferiad wedi iddynt ddigwydd.


Grŵp Targed
Mae'r safon yn arbennig o addas ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phobl o sefydliadau eraill wrth gynllunio ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt, neu gynorthwyo adferiad wedi iddynt ddigwydd. Gellir ei defnyddio hefyd yn lleoliadau eraill y sector cyfiawnder.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi rolau, cyfrifoldebau ac awdurdod gwahanol bobl a sefydliadau yr ydych yn gweithio gyda nhw yn unol â gofynion sefydliadol
  2. cytuno ar drefniadau ar gyfer gweithio ar y cyd sy'n briodol ar gyfer natur a diben y gwaith, a'u cofnodi
  3. cynnal trefniadau ar gyfer gweithio ar y cyd sy'n briodol ar gyfer natur a diben y gwaith
  4. cadarnhau cyfrifoldebau a rennir ac awdurdod i weithredu, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. cytuno ar yr wybodaeth sydd i'w rhannu, y rhesymau am hynny, a sut mae cynnal diogeledd gwybodaeth yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
  6. ymgymryd â'ch rôl mewn gwaith amlasiantaeth mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â chytundebau a wnaed, rôl eich swydd eich hun, a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
  7. rhyngweithio â phobl mewn sefydliadau eraill yn unol â gofynion sefydliadol ac mewn ffyrdd sy'n 7.1 annog perthnasoedd effeithiol a chyfranogiad 7.2 parchu eu safbwyntiau, eu rolau a'u cyfrifoldebau 7.3 hyrwyddo cydraddoldeb a gosod gwerth ar amrywiaeth 7.4 cydnabod gwerth gwaith amlasiantaeth
  8. cynrychioli safbwyntiau a pholisïau eich sefydliad, yn unol â pholisïau a safonau sefydliadol
  9. canfod sut gall eich sefydliad gefnogi amcanion amlasiantaeth trwy gyfraniadau at weithio ar y cyd
  10. cytuno ar sut bydd gwaith amlasiantaeth yn cael ei fonitro, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. cytuno ar pryd bydd gwaith amlasiantaeth yn cael ei adolygu, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth berthnasol, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i'ch sefydliad eich hun
  2. deddfwriaeth berthnasol, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i waith amlasiantaeth
  3. deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau sy'n berthnasol i rannu gwybodaeth, diogelu data a diogeledd gwybodaeth
  4. natur a diben Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
  5. egwyddorion a manteision gweithio ar y cyd rhwng gwahanol sefydliadau
  6. rolau a swyddogaethau sefydliadau sy'n ymwneud ag amddiffyniad sifil ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  7. trefniadau llywodraethu sy'n berthnasol i waith amlasiantaeth
  8. sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu
  9. galluoedd sefydliadau partner
  10. sut gall strwythur a diwylliant sefydliadau effeithio ar waith amlasiantaeth
  11. ffactorau sy'n debygol o helpu neu lesteirio gwaith amlasiantaeth
  12. dulliau effeithiol o ganfod a datrys tensiynau a materion
  13. dulliau o adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith amlasiantaeth
  14. eich galluoedd eich hun mewn gwaith amlasiantaeth a phryd dylid ceisio cefnogaeth bellach

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

1 cydweithredol
2 ystyriaeth gymunedol
3 adeiladol
4 â meddwl agored
5 realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

1 cyfathrebu
2 dylanwadu
3 cysylltu
4 cyd-drafod
5 rhwydweithio
6 trefnu
7 cyflwyno
8 canfod problemau
9 datrys problemau
10 pennu blaenoriaethau


Geirfa

Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)   
Dull o atal a rheoli argyfyngau sy'n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol - rhagweld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac ymadfer. Mae IEM yn troi o gwmpas y syniad o adeiladu gwytnwch cyffredinol uwch yn wyneb ystod eang o heriau sy'n amharu. Mae'n galw am ymdrech amlasiantaeth gydlynus.

Sefydliadau**
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.


Dolenni I NOS Eraill

Lluniwyd y safon hon i gysylltu â phob safon arall lle gall gwaith amlasiantaeth fod yn elfen hanfodol o'r gwaith.


Dylai uwch-reolwyr sy'n ymwneud â datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaeth gyfeirio hefyd at safon Sgiliau er Cyfiawnder SfJHG4 Datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaeth.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAA1

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

yn datblygu; yn cynnal; datblygu; cynnal; gweithio effeithiol; perthnasoedd; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau