Cyfathrebu â phobl o grwpiau agored i niwed

URN: SFJAB8
Sectorau Busnes (Suites): Darparu cyngor ac eiriolaeth annibynnol ynghylch trais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 31 Ion 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu effeithiol â phobl o grwpiau agored i niwed. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys:

1 Plant a phobl ifanc
2 Unigolion eraill agored i niwed

Mae'n cynnwys sgiliau a gwybodaeth ynghylch asesu anghenion cyfathrebu, yn ogystal â chyfleu negeseuon anodd. 

Mae tair elfen
1 Asesu capasiti, dewisiadau ac anghenion pobl agored i niwed o ran iaith a chyfathrebu
2 Cyfathrebu â phobl agored i niwed
3 Cyfleu negeseuon anodd neu sensitif i bobl agored i niwed

Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio gyda phobl o grwpiau agored i niwed. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Asesu capasiti, dewisiadau ac anghenion pobl agored i niwed o ran iaith a chyfathrebu

1. casglu gwybodaeth am gapasiti, dewisiadau ac anghenion cyfathrebu pobl agored i niwed ac eraill sy'n ymwneud â gofalu amdanynt
2. asesu'r capasiti, y dewisiadau a'r anghenion o ran cyfathrebu
3. datblygu cynllun cyfathrebu mewn ymgynghoriad ag eraill
4. trefnu bod cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer cyswllt ffurfiol ac anffurfiol â phobl agored i niwed
5. hybu a gweithredu dull unigolyddol o ymdrin ag anghenion cyfathrebu pobl agored i niwed, gan roi sylw i'w capasiti, eu dewisiadau a'u hanghenion
6. cefnogi pobl agored i niwed i ddatblygu sgiliau cymdeithasol cadarnhaol

Cyfathrebu â phobl agored i niwed

7. defnyddio technegau a dulliau cyfathrebu sy'n addas ar gyfer capasiti, dewisiadau ac anghenion y person agored i niwed
8. gwirio dealltwriaeth y person agored i niwed ac addasu eich dull gweithredu yn ôl y galw
9. gwirio, gan ddefnyddio dulliau addas, bod y person agored i niwed yn deall y prosesau a'r gweithdrefnau y maen nhw'n ymwneud â hwy
10. esbonio wrth y person agored i niwed eich dyletswydd i drosglwyddo unrhyw wybodaeth am niwed neu gamdriniaeth
11. gwirio bod yr amseru, y lle a'r amgylchedd yn cefnogi cyfathrebu effeithiol
12. asesu llesiant a chyflwr emosiynol y person agored i niwed, a'i (g)allu i gyfathrebu
13. rhoi sylw i rywedd, tueddfryd rhywiol, a gwahaniaethau diwylliannol a chrefyddol
14. ymateb yn briodol i ymddygiad a gyflwynwyd
15. cadw cofnodion am y drafodaeth a'i chanlyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
Cyfleu negeseuon anodd neu sensitif i bobl agored i niwed

16. canfod hyd a lled dealltwriaeth person agored i niwed o'i sefyllfa, yn ôl oedran, anghenion a galluoedd
17. nodi ac egluro, os bydd angen, pan fydd gan y person agored i niwed wybodaeth anghywir neu gamarweiniol o bosibl
18. cadarnhau drwy holi bod negeseuon anodd wedi'u deall
19. esbonio sefyllfaoedd a bod yn ymwybodol o'r angen am:
   19.1 esbonio geiriau a chysyniadau anodd
   19.2 nodi beth sydd eisoes wedi digwydd neu beth fydd yn digwydd nesaf
   19.3 darparu rhesymau am y camau gweithredu sydd i'w cymryd
20. sicrhau, lle bo gofyn, caniatâd gwybodus y person agored i niwed 
21. a, lle bo hynny'n briodol, eu teuluoedd ar gyfer camau gweithredu cytunedig
22. esbonio wrth y person agored i niwed pa wybodaeth y gallai fod angen i chi ei rhannu gydag eraill a pham mae hynny'n angenrheidiol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Deddfwriaeth, safonau, polisïau a gweithdrefnau

*
1. deddfwriaeth sy'n ymwneud â gweithio gyda phobl agored i niwed, gan gynnwys: 
   1.1 yr amrywiol ddiffiniadau, gan gynnwys rhai cyfreithiol, o
blant, pobl ifanc ac unigolion eraill agored i niwed
  1.2 rhannu gwybodaeth, cyfrinachedd a chaniatâd
  1.3 darpariaeth gwasanaethau
  1.4 hawliau plant ac oedolion
  1.5 arfer gwrth-wahaniaethol
  1.6 amddiffyn a diogelu plant
  1.7 gofynion o ran goruchwyliaeth statudol
  1.8 diffiniadau a ffyrdd o fod yn agored i niwed
  1.9 caniatâd yng nghyswllt gweithgaredd rhywiol
2. safonau a chodau ymarfer statudol a phroffesiynol ar gyfer eich maes gwaith, a sut mae eu dehongli a'u cymhwyso
3. polisïau a gofynion gweithdrefnol eich sefydliad yng nghyswllt eich maes cyfrifoldeb

Eich ymarfer

4. sut mae rheoli eich cyfrifoldebau fel gweithiwr proffesiynol sydd â gofynion sefydliadol a chontractiol
5. natur, cwmpas a ffiniau eich rôl chi wrth eich gwaith, a pherthynas hynny ag eraill yn eich sefydliad chi a sefydliadau eraill
6. rolau ymarferwyr perthnasol a beth yw'r berthynas rhwng asiantaethau a sectorau ac ar eu traws
7. pwysigrwydd gweithio o fewn eich cylch cymhwysedd, a phryd dylech chi gyfeirio at eraill
8. ffynonellau help a chymorth i chi eich hun wrth ymdrin â'r canlyniadau emosiynol i chi yn sgîl achosion sy'n ymwneud â cham-drin unigolion o grwpiau agored i niwed
9. pwysigrwydd peidio â gweithio yn ynysig, gan ymgynghori â phobl eraill priodol yn ôl y galw, a sut mae gwneud hynny

Trafod gwybodaeth a chaniatâd

10. moeseg sy'n ymwneud â chaniatâd a chyfrinachedd, a'r tensiynau a all fodoli rhwng hawliau person a chyfrifoldeb y sefydliad
11. deddfwriaeth a phrosesau cyfreithiol sy'n ymwneud â chaniatâd, gan gynnwys materion capasiti a chaniatâd yn ystod plentyndod a phobl agored i niwed 
12. pwysigrwydd cynnwys y person agored i niwed mewn penderfyniadau a wneir ar eu rhan pan na fydd ganddynt y capasiti i roi caniatâd
13. hawliau pobl i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ac i gymryd risgiau
14. sut mae delio gyda materion cyfrinachedd
15. yr wybodaeth y gallai fod angen ei rhannu gydag eraill, a sut mae sicrhau bod y person agored i niwed ac eraill sy'n ymwneud â gofalu amdanynt yn glir ynghylch hynny

Plant, pobl ifanc ac unigolion eraill sy'n agored i niwed

16. datblygiad sgiliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
17. prif gyfnodau datblygiad plant a sut mae'r rhain yn effeithio ar gyfathrebu â phlant a phobl ifanc
18. anghenion a gofynion gwahanol anghenion corfforol, deallusol a synhwyraidd

Cyfathrebu*

19. sut mae cyfathrebu'n effeithiol â phobl agored i niwed a'r rhai sy'n ymwneud â gofalu amdanynt
20. pwysigrwydd a dulliau o sicrhau perthynas dda, barchus, llawn ymddiriedaeth gyda phobl agored i niwed a'r rhai sy'n ymwneud â gofalu amdanynt
21. effaith gwahaniaethau mewn perthnasoedd pŵer ar gyfathrebu a pherthnasoedd
22. manteision cyswllt o ddydd i ddydd wrth sefydlu perthnasoedd gwaith effeithiol
23. pwysigrwydd gweithio mewn ffordd hwylusol, alluogol, a sut mae gwneud hynny
24. pwysigrwydd canolbwyntio ar y person agored i niwed fel unigolyn unigryw
25. sut a pham dylid cynnwys y rhai sy'n ymwneud â gofalu am y person agored i niwed mewn cyfathrebu i gyflawni'r canlyniad mwyaf effeithiol, ac eithrio lle'r achosir y risg gan y gofalwr
26. ffyrdd o addasu a newid cyfathrebu ar gyfer anghenion, cyd-destunau, diwylliannau a chredoau gwahanol
27. sut mae asesu'r angen am wasanaeth dehongli a'i drefnu os bydd angen
28. sut mae defnyddio cymhorthion cyfathrebu i gynnal cyfathrebu
29. dulliau pobl agored i niwed o gyfathrebu yn ôl eu hymddygiad, yn ogystal â thrwy iaith, a sut gellir dehongli gwahanol fathau o ymddygiad
30. effeithiau amgylcheddau, cyd-destunau a phresenoldeb pobl eraill ar gyfathrebu
31. sut gall statws iechyd y person agored i niwed, ac unrhyw driniaeth y mae ef/hi yn ei derbyn, effeithio ar gyfathrebu
32. sut mae cyfathrebu â phobl agored i niwed sydd ag anghenion ychwanegol
33. pwysigrwydd cydnabod eich teimladau, eich credoau a'ch gwerthoedd, a rhai pobl eraill, fel rhan o'r broses gyfathrebu
34. sut gall teimladau, credoau a gwerthoedd person effeithio ar y broses gyfathrebu
35. pwysigrwydd ymateb yn briodol i gyflwr emosiynol person agored i niwed
36. sut mae osgoi effaith eich teimladau, eich credoau a'ch gwerthoedd personol ar gyfathrebu â'r person agored i niwed, ac eraill sy'n ymwneud â gofalu amdanynt
37. pwysigrwydd rhoi sylw i wahaniaethau diwylliannol fel rhan o'r broses gyfathrebu
38. sut mae gweithio gydag arbenigwyr cyfathrebu mewn ffordd effeithiol
39. sut gellir camddeall cyfathrebu, a phwysigrwydd gwirio dealltwriaeth
40. pwysigrwydd osgoi defnyddio jargon
41. ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth lleol ar gyfer pobl agored i niwed, ac eraill sy'n ymwneud â gofalu amdanynt
42. sut mae galluogi pobl agored i niwed i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a meddu ar eu llais eu hunain
43. sut mae hysbysu, cynnwys a helpu'r bobl agored i niwed i asesu ffyrdd gwahanol o weithredu, deall canlyniadau pob un ohonynt, a, lle bo hynny'n briodol, cytuno ar y camau nesaf. 
44. pwysigrwydd peidio â gwneud rhagdybiaethau ynghylch galluoedd cyfathrebu a dealltwriaeth pobl agored i niwed a phobl eraill sy'n ymwneud â gofalu amdanynt
45. yr ystod o deimladau y gallwch eu profi wrth gyfathrebu â phobl agored i niwed
46. pam a sut gall fod angen cyfleu negeseuon anodd i bobl agored i niwed
47. ymatebion priodol i elyniaeth neu wrthdaro, a'r ffordd orau o'u defnyddio
48. egwyddorion arsylwi a gwrando gweithredol, a'u cymhwyso
49. yr angen am ddangos eich bod wedi deall yr hyn sydd wedi'i gyfathrebu
50. mathau o giwiau di-eiriau y mae pobl yn eu rhoi wrth gyfathrebu 
51. bod diwylliannau eraill yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffordd wahanol
52. rhesymau pam gall cyfathrebu fethu â datblygu neu dorri i lawr


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Diogelu / amddiffyniad**

Mae amddiffyniad yn rhan o ddiogelu a hybu lles. Mae'n cyfeirio at y gweithgaredd a wneir i amddiffyn pobl benodol sy'n dioddef, neu sy'n debygol o ddioddef, niwed sylweddol. 

Mae cylch gorchwyl ehangach i ddiogelu, ac mae'n cynnwys amddiffyniad rhag triniaeth wael, atal amharu ar iechyd neu ddatblygiad, cynnal darpariaeth gofal diogel ac effeithiol, a galluogi pobl i gael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon wedi'i seilio ar safon 'SFJCYPW1 Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc mewn cysylltiad â'r sector cyfiawnder a diogelwch cymunedol' Sgiliau er Cyfiawnder’ a safon Sgiliau er Iechyd 'SFHCS1 Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc a'r rhai sy'n ymwneud â gofalu amdanynt'. 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ AB8

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorydd Annibynnol ynghylch Trais Rhywiol (ISVA), Eiriolydd Annibynnol ynghylch Trais Rhywiol, Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfathrebu; plant; pobl ifanc; unigolion agored i niwed; person agored i niwed; pobl agored i niwed; dewisiadau cyfathrebu; gwahaniaethau cyfathrebu; arbenigwyr cyfathrebu; rhannu gwybodaeth