Gweinyddu dognau therapi gwrth-ganser claf-benodol

URN: SFHPHARM54
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 31 Mai 2011

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweinyddu a chyflwyno dognau therapi gwrth-ganser claf-benodol. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau a'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol yn eich gweithle
  2. sicrhau bod y cais am bresgripsiwn yn gyflawn, yn briodol a bod modd ei gyflawni
  3. sicrhau bod y presgripsiwn wedi cael ei ddilysu'n glinigol fel un diogel a phriodol ar gyfer y claf dan sylw, a hynny gan berson ag awdurdod priodol
  4. dewis y cynnyrch sy'n bodloni meini prawf y presgripsiwn
  5. sicrhau addasrwydd cynnyrch therapi gwrth-ganser i'w cyflwyno
  6. sicrhau bod y cynnyrch wedi cael eu dethol, eu prosesu a'u labelu'n gywir
  7. sicrhau bod unrhyw gynnyrch sydd wedi dod i ben neu nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu rhoi o'r neilltu
  8. sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei becynnu'n iawn, gyda dogfennaeth briodol, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  9. sicrhau bod y cynnyrch wedi cael ei storio'n briodol
  10. sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo'n ddiogel ac yn briodol i'r cyrchfan y cytunwyd arno
  11. ceisio eglurhad neu gyngor gan berson priodol os bydd angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y canllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol cyfredol a'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  2. ystod, diben, proses a gofynion cynnyrch therapi gwrth-ganser
  3. y meini prawf ar gyfer storio cynnyrch therapi gwrth-ganser
  4. gwaredu'n ddiogel gynnyrch therapi gwrth-ganser nad ydynt bellach yn ddilys i'w cyflwyno
  5. rheoli'r risg sy'n gysylltiedig â thrafod cynnyrch therapi gwrth-ganser
  6. y personél sydd wedi'u hawdurdodi i ryddhau cynnyrch
  7. y gwahanol gyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â rhyddhau proffesiynol a thechnegol
  8. eich lefel eich hun o gyfrifoldeb ac atebolrwydd am weinyddu a chyflwyno dognau therapi gwrth-ganser

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae SGC eraill yn y gyfres Fferylliaeth sy'n ymwneud â Dilysu presgripsiwn ar gyfer therapi gwrth-ganser a gwirio cywirdeb terfynol moddion a chynnyrch a weinyddwyd. Mae'r rhain ar gael ar wefan Sgiliau er Iechyd.


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM54

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Fferylliaeth; cemotherapi; therapi gwrth-ganser; dogn; gweinyddu; cyflwyno; presgripsiwn; Gweithdrefnau Gweithredu Safonol