Datblygu protocolau clinigol ar gyfer darparu therapi gwrth-ganser

URN: SFHPHARM53
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 31 Mai 2011

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu protocolau clinigol er darparu therapi gwrth-ganser. Mae protocol clinigol yn ganllaw ar gyfer 'safon gofal' sefydledig ac mae'n cynnwys manylion y moddion gwrth-ganser a ddefnyddir ar gyfer diagnosis a bwriad triniaeth penodol, y dognau, y dull gweinyddu, hyd ac amlder y driniaeth, profion labordy, monitro therapi, sgîl-effeithiau a'u rheolaeth a manylion sut mae addasu'r dognau. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol.  Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle.

Bydd angen i ddefnyddwyr
y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau
diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau yn eich gweithle, gan gynnwys Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  2. nodi'r unigolion sy'n ofynnol i ddatblygu'r protocol, gan gynnwys y staff, yr unigolion a'r gofalwyr perthnasol
  3. datblygu protocolau manwl sy'n cynnwys rolau a chyfrifoldebau'r rhai dan sylw, amserlenni a'r adnoddau clinigol a thechnegol sy'n ofynnol
  4. cadw mewn cysylltiad â gweithwyr proffesiynol eraill ac arbenigwyr yn ôl y galw i bennu'r gofynion a sicrhau eu cytundeb
  5. adolygu a gwerthuso protocolau sydd eisoes yn bodoli, deddfwriaeth, arfer gorau cyfredol, safonau cenedlaethol, codau ymarfer
  6. cynhyrchu dogfennau mewn arddull a iaith briodol
  7. cynhyrchu protocolau sydd wedi'u hysgrifennu mewn iaith glir, ddiamwys, gyda chyn lleied â phosibl o fyrfoddau ac acronymau
  8. pennu'r anghenion hyfforddi i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac addysgu'r staff yn unol â hynny
  9. sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer protocol y therapi gwrth-ganser
  10. dosbarthu'r protocol gan sicrhau bod y fersiwn flaenorol yn cael ei chlirio a'i dinistrio
  11. monitro, adolygu ac archwilio gweithrediad y protocol a'r defnydd ymarferol ohono

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1.    cynllunio triniaeth, prosesau a gweithdrefnau
2.    canllawiau triniaeth lleol a chenedlaethol cyfredol
3.    cylch y gell a damcaniaeth lladd celloedd
4.    amserlennu ac egwyddorion sylfaenol therapi gwrth-ganser gyfunol
5.    egwyddorion therapi gwrth-ganser, gan gynnwys:
5.1 dosbarthiad a mecanwaith gweithrediad cyffuriau ar gyfer trin canser
5.2 dehongli data o dreialon clinigol
5.3 gwahaniaethu rhwng cyffuriau o'r un dosbarth
5.4 addasu cyffuriau therapi gwrth-ganser gan asiantau nad ydynt yn rhai therapi gwrth-ganser
5.5 ffarmacocineteg a ffarmacoddeinameg therapi gwrth-ganser a therapïau cefnogi
5.6 mesur ymateb, goroesiad a chanlyniadau eraill tiwmor yn achos canserau sydd oddi mewn i gwmpas eich ymarfer
5.7 ffyrdd o fonitro ymatebion tiwmorau a chynnydd yr afiechyd
5.8 ymatebion niweidiol
6.    sut mae dehongli paramedrau gwaed
7.    symptomau a rheolaeth argyfyngau oncoleg
8.    rheoli symptomau, gan gynnwys niwtropenia
9.    gweinyddu therapi gwrth-ganser
10.    problemau posibl sy'n gysylltiedig â gweinyddu therapi gwrth-ganser a rheoli a lleiafu risgiau
11.    yr angen am waith tîm amlddisgyblaeth
12.    llywodraethu clinigol sy'n berthnasol i ddatblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser, gan gynnwys systemau rhagnodi electronig
13.    y lefel bersonol o gyfrifoldeb, awdurdod a chymhwysedd ar gyfer datblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser
14.    gofynion addysg a hyfforddiant staff sy'n gweithio gyda phrotocolau therapi gwrth-ganser
15.    sut mae chwilio am wybodaeth a'i chyrchu'n effeithiol
16.    sut mae arfarnu'r wybodaeth yn feirniadol a'i hintegreiddio i'ch sylfaen o wybodaeth er mwyn datblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser
17.    anatomeg, ffisioleg, patholeg a fferylleg sy'n briodol ac yn berthnasol ar gyfer datblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser
18.    y gofynion deddfwriaethol, y safonau, a'r canllawiau proffesiynol cyfredol
19.    dealltwriaeth ariannol o ariannu cyffuriau canser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn
cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y
GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 5
Ansawdd


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM53

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Fferylliaeth; cemotherapi; therapi gwrth-ganser; clinigol; protocolau; darparu; Gweithdrefnau Gweithredu Safonol