Darparu cyngor ynghylch therapi gwrth-ganser i unigolyn

URN: SFHPHARM50
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 31 Mai 2011

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cyngor arbenigol gan ddefnyddio'r canllawiau cyfredol, a gall olygu cyfathrebu â chydweithwyr, unigolion a gofalwyr. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau yn eich gweithle, gan gynnwys Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  2. nodi ffactorau yn awr ac yn y gorffennol sy'n effeithio ar y dewis o driniaeth a'r dogn
  3. dehongli ymchwiliadau clinigol priodol i helpu i benderfynu ar driniaeth
  4. darparu cyngor fferyllol cywir ynghylch cymhwysedd a defnydd y protocol triniaeth
  5. cymhwyso paramedrau addasu dognau lle bo angen, yn unol â'r protocol triniaeth a'r canllawiau lleol
  6. nodi a chywiro unrhyw wallau sy'n deillio o hepgor gwybodaeth
  7. rhoi cyngor ynghylch gweinyddu cyffuriau a thriniaethau ar lefel o gymhlethdod oddi mewn i'ch arbenigedd personol yn unig
  8. ceisio cyngor a chefnogaeth lle bod lefel y cymhlethdod sy'n ofynnol yn uwch na'ch lefel cymhwysedd personol
  9. cyfleu gwybodaeth allweddol ar lefel a chyflymdra sy'n hwyluso dealltwriaeth y gwrandawyr
  10. gwirio dealltwriaeth gwrandawyr o effeithiau a allai fod yn niweidiol a rheolaeth effeithiol arnynt
  11. sicrhau dealltwriaeth gwrandawyr o'r dull cywir, diogel o ddefnyddio moddion gwrth-ganser, a sut mae eu gwaredu'n ddiogel yn unol â phrotocolau lleol a chenedlaethol
  12. sicrhau dealltwriaeth gwrandawyr o'r dull cywir a diogel o ddefnyddio'r cyfarpar
  13. cyfrannu at adolygiadau amlddisgyblaeth ar ôl triniaeth a chyn y driniaeth nesaf.
  14. dehongli data a darparu cyngor ynghylch canlyniadau tebygol triniaeth ar y tiwmor
  15. deall polisi lleol a chenedlaethol a chynghori arnynt, gan gynnwys y goblygiadau ariannu, yng nghyd-destun defnyddio asiant therapiwtig gwrth-ganser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1.    cynllunio ac amserlennu triniaeth, a'r prosesau a'r gweithdrefnau
2.    egwyddorion therapi gwrth-ganser, gan gynnwys:
2.1 dosbarthiad a mecanwaith gweithredu cyffuriau ar gyfer trin canserau
2.2 gwahaniaethu rhwng cyffuriau o'r un dosbarth
2.3 addasu cyffuriau therapi gwrth-ganser gan asiantau nad ydynt yn rhai therapi gwrth-ganser
2.4 ffarmacocineteg a ffarmacoddeinameg therapi gwrth-ganser a therapïau cefnogi
2.5 mesur ymateb, goroesiad a chanlyniadau eraill tiwmorau yn achos canserau sydd oddi mewn i gwmpas eich ymarfer
2.6 ffyrdd o fonitro ymatebion tiwmorau a chynnydd yr afiechyd
2.7 ymatebion niweidiol
2.8 gwenwyndra therapi gwrth-ganser
3.    cylch y gell a damcaniaeth lladd celloedd
4.    amserlennu ac egwyddorion sylfaenol therapi gwrth-ganser gyfunol
5.    rhyngweithio cyffuriau a'i gilydd, rhyngweithio cyffuriau a bwyd, rhyngweithio cyffuriau a pherlysiau ac alergeddau cleifion i gyffuriau
6.    sut mae dehongli paramedrau gwaed
7.    yr angen am waith tîm amlddisgyblaeth
8.    defnydd cywir a diogel o gyfarpar i ddarparu triniaeth
9.    math a lefel y risgiau a'u goblygiadau o ran triniaeth yr unigolyn
10.    eich lefel eich hun o gymhwysedd ac awdurdod wrth ddarparu cyngor i gydweithwyr, unigolion a gofalwyr
11.    datblygiad yr afiechyd a'r effaith bosibl ar systemau ffisiolegol
12.    perthnasedd unrhyw gyflyrau clinigol sydd eisoes yn bodoli yn yr unigolyn a'u triniaethau, gan gynnwys statws perfformiad yr unigolyn fel sy'n briodol
13.    manteision ac anfanteision y driniaeth arfaethedig a'r dewisiadau amgen
14.    dangosyddion, gwrth-ddangosyddion a sgîl-effeithiau'r driniaeth arfaethedig
15.    protocolau a chyffuriau cyfredol nad ydynt eto wedi'u derbyn trwy'r broses llyfr fformwlâu leol
16.    protocolau treialon clinigol a materion penodol a all ymwneud â chleifion treialon clinigol
17.    sut mae rheoli gwastraff cysylltiedig â therapi gwrth-ganser yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM50

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Fferylliaeth; cemotherapi; therapi gwrth-ganser; cyngor; Gweithdrefnau Gweithredu Safonol; cyffuriau; meddyginiaeth; therapïau cefnogi