Cyfrannu at yr adolygiad anghlinigol o feddyginiaeth

URN: SFHPHARM35
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Fferyllfa
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n cyfrannu at yr adolygiad anghlinigol o feddyginiaeth. Mae'r safon yn cynnwys adnabod problemau â phresgripsiynau a chymryd camau priodol o fewn cyfyngiadau'r rôl alwedigaethol fel rhan o'r adolygiad anghlinigol o feddyginiaeth.

Bydd eich ymarfer yn gyson â chyfyngiadau eich rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd eich ymarfer hefyd yn cyd-fynd â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol a chyfredol sy'n berthnasol i'r ymarfer yn y gwaith.

Bydd eich ymarfer yn gyson â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd angen i chi weithio'n fyfyriol. Byddwch yn gweithio bob amser yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n gysylltiedig â'r ffordd y darperir gwasanaeth fferyllfa yn eich gweithle. Dylech fod yn ofalgar ac yn dosturiol, yn unol â chanllawiau gofal iechyd presennol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. adnabod a chymryd camau priodol ynghylch presgripsiynau amlroddadwy: 
      • y mae cyfarwyddiadau eu dos ar goll neu'n amwys
      • sydd â chyfarwyddiadau dos talfyredig
      • sy'n eitemau presgripsiwn amlroddadwy dyblyg neu debyg
      • sy'n eitemau presgripsiwn amlroddadwy darfodedig sydd heb gael eu harchebu o fewn cyfnod penodedig
      • sy'n cael eu tanarchebu/eu gorarchebu
  5. alinio symiau eitem bresgripsiwn amlroddadwy â chyflenwad nifer penodol o ddiwrnodau
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn unol â gofynion y sefydliad
  8. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
  9. gwaredu pob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. yr amrywiaeth o broblemau sy'n gysylltiedig ag adolygu presgripsiwn a sut i'w datrys
  7. sut i dynnu presgripsiynau ymaith a chofnodi hynny
  8. yr angen i gofnodi meddyginiaeth sy'n cael ei chyflenwi trwy bresgripsiwn allanol i sicrhau bod y rhain yn cael eu henwi'n gywir mewn cofnodion unigol
  9. sut a phryd i adolygu rhestr meddyginiaethau amlroddadwy unigolyn i nodi a oes eitemau sydd heb eu harchebu, sy'n cael eu harchebu'n anaml neu sydd wedi'u gorarchebu
  10. sut a phryd i gysoni eitemau presgripsiwn amlroddadwy o ran symiau a dyddiadau
  11. sut i nodi/rhoi gwybod am ddosbarthiadau cyffuriau therapiwtig yn glinigol (fel y'u nodwyd gan SOP) sydd heb gael eu harchebu o fewn cyfnod penodol
  12. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  13. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  14. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  15. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
  17. sut i sicrhau gofynion y sefydliad ar gyfer cadw cofnodion manylion unigol a chyfrinachedd
  18. sut i gael gwared ar bob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPHARM34

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Fferyllfa

Cod SOC

7114

Geiriau Allweddol

Fferyllfa; anghlinigol; meddyginiaeth; archwiliad; adolygiad