Cyfrannu at reoli archwiliad ac adolygiad meddyginiaeth

URN: SFHPHARM34
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Fferyllfa
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n cyfrannu at reoli gwaith archwilio ac adolygu meddyginiaeth. Mae'r safon yn cynnwys cael at systemau cofnodion electronig cleifion a'u chwilio i nodi (o fewn cyfyngiadau'r rôl alwedigaethol) unigolion penodol, grwpiau cleifion a data yn unol â cheisiadau pobl eraill berthnasol a gwneud newidiadau, eto yn unol â chyfarwyddyd pobl eraill berthnasol, i gofnodion presgripsiynau amlroddadwy unigolion er mwyn rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel.

Bydd eich ymarfer yn gyson â chyfyngiadau eich rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd eich ymarfer hefyd yn cyd-fynd â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol a chyfredol sy'n berthnasol i'r ymarfer yn y gwaith.

Bydd eich ymarfer yn gyson â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd angen i chi weithio'n fyfyriol. Byddwch yn gweithio bob amser yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n gysylltiedig â'r ffordd y darperir gwasanaeth fferyllfa yn eich gweithle. Dylech fod yn ofalgar ac yn dosturiol, yn unol â chanllawiau gofal iechyd presennol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cael at a chwilio systemau cofnodion electronig cleifion i nodi unigolion, grwpiau cleifion a data penodol, yn unol â chais pobl eraill berthnasol
  5. gwneud newidiadau penodol, yn unol â chyfarwyddyd pobl eraill berthnasol, i gofnodion presgripsiwn unigolion er mwyn rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel
  6. cynhyrchu, coladu a chyflwyno gwybodaeth benodol am glaf, yn unol â chais pobl berthnasol eraill
  7. gweinyddu cyfathrebu cymeradwy
  8. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  9. ymateb yn briodol i Adalwadau Cyffuriau, rhybuddion diogelwch a phrinderau meddyginiaethau trwy gynnal chwiliadau ar systemau cofnodion electronig cleifion am unigolion y byddai hyn yn effeithio arnynt
  10. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  11. sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn unol â gofynion y sefydliad
  12. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
  13. gwaredu pob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau
  5. egwyddorion rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel
  6. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  7. sut i gael at a chwilio systemau cofnodion electronig cleifion
  8. sut i adnabod pan fydd cofnodion meddyginiaeth yn gyfredol
  9. sut i gasglu, coladu a thrin data i'w gyflwyno i'r fferyllfa ac i staff perthnasol eraill mewn amrywiaeth o fformatau adrodd
  10. yr amrywiaeth o ymatebion gofynnol i Adalwadau Cyffuriau, rhybuddion diogelwch a phrinderau meddyginiaethau a rôl systemau cofnodion electronig cleifion
  11. sut i weinyddu'r cyfathrebu cymeradwy
  12. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  13. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  14. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  15. sut i gyfathrebu ar draws gwasanaethau perthnasol
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
  17. sut i sicrhau gofynion y sefydliad ar gyfer cadw cofnodion manylion unigol a chyfrinachedd
  18. sut i gael gwared ar bob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPHARM34

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Fferyllfa

Cod SOC

7114

Geiriau Allweddol

Fferyllfa; anghlinigol; meddyginiaeth; archwiliad; adolygiad