Adalw a chysoni gwybodaeth am foddion unigolyn

URN: SFHPHARM29
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r broses a ddilynir i sefydlu, cysoni a dogfennu rhestr gywir o bob moddion rhagnodedig a heb ei ragnodi y mae unigolyn yn eu cymryd. Bydd hyn yn golygu adalw gwybodaeth a chadarnhau bod yr wybodaeth yn gywir. Gellir cymhwyso'r safon mewn amrywiaeth o leoliadau. 

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2.    sicrhau bod yr amgylchedd a'r amseru yn addas ar gyfer trafodaeth agored a chyfrinachol gyda'r unigolyn neu drydydd parti ynghylch eu moddion
3.    cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
4.    esbonio eich rôl a'ch cyfrifoldebau, eich cyflwyno eich hun a gwirio hunaniaeth yr unigolyn, yn unol â chanllawiau lleol cyn adalw hanes meddyginiaeth unigolyn sy'n berthnasol i'ch maes gwaith
5.    sicrhau caniatâd dilys gan yr unigolyn neu gan drydydd parti yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
6.    gwirio dealltwriaeth yr unigolyn neu'r trydydd parti o ddiben adalw hanes perthnasol unigolyn
7.    gwirio a chofnodi statws alergedd yr unigolyn
8.    defnyddio cwestiynau priodol i archwilio, egluro a chadarnhau unrhyw wybodaeth anghyffredin neu amwys, a chofnodi'r wybodaeth yn glir ac yn gywir mewn modd systematig
9.    nodi a dogfennu'r moddion a sylweddau eraill, a chanfod o ffynonellau priodol pryd a sut mae'r unigolyn yn eu cymryd
10.    defnyddio ffynonellau priodol i nodi manylion sy'n berthnasol i hanes meddyginiaeth yr unigolyn, gan gynnwys:
10.1    moddion sydd wedi cael ei gychwyn yn ddiweddar
10.2    moddion sydd wedi dod i ben
10.3    moddion sydd wedi newid
10.4    moddion sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd
10.5    moddion sy'n cael ei ddefnyddio'n achlysurol
10.6    moddion sy'n cael ei gyfnewid neu ei rannu rhwng unigolion neu eu teulu a'u ffrindiau
10.7    moddion sy'n cael ei brynu o ffynonellau eraill
10.8    ydy'r unigolyn yn yfed alcohol, yn smygu neu'n defnyddio sylweddau eraill
10.9    ydy'r unigolyn wedi profi unrhyw broblemau neu anawsterau gyda'u moddion
11.    adrodd am unrhyw broblemau, anghysondebau neu adwaith anffafriol y gall yr unigolyn fod wedi'u profi yn sgîl eu moddion, yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
12.    cysoni a chymharu'r hanes meddyginiaeth â rhestr moddion gyfredol yr unigolyn
13.    nodi a dogfennu unrhyw anghysondebau, newidiadau, elfennau a ddilewyd neu ychwanegiadau
14.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1.    beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2.    pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3.    deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4.    gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5.    y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6.    pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7.    y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8.    sut mae cadarnhau a chofnodi statws alergedd yr unigolyn
9.    y defnydd o foddion gan gynnwys:
9.1    dognau
9.2    effeithiau niweidiol
9.3    rhyngweithio cyffredin cyffuriau a'i gilydd
9.4    rhyngweithio cyffredin cyffuriau a bwyd
9.5    rhyngweithio cyffredin cyffuriau ac afiechydon
9.6    rhybuddion a gwrth-ddangosyddion        
10.    y confensiynau, y byrfoddau a'r derminoleg feddygol wrth ragnodi
11.    ffactorau a all effeithio ar sut mae moddion yn cael ei gymryd
12.    yr agweddau a'r goblygiadau seicolegol, galwedigaethol a chymdeithasol ar gyfer unigolion sy'n byw gyda chyflyrau
13.    deddfwriaeth a phrosesau sefydliadol sy'n ymwneud â sicrhau cydsyniad dilys
14.    y camau i'w cymryd os na sicrheir cydsyniad dilys
15.    dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
16.    sut mae creu amgylchedd addas ar gyfer trafodaeth agored a chyfrinachol
17.    yr angen am gadarnhau eich rôl a'ch cyfrifoldebau ac adnabod yr unigolyn cyn adalw hanes meddyginiaeth perthnasol
18.    pryd a sut mae adalw hunaniaeth yr unigolyn a gwybodaeth gan drydydd parti lle na all unigolyn gyfranogi ei hun a/neu lle mae anawsterau cyfathrebu
19.    pa dystiolaeth dylech chi ei cheisio i ddangos gallu ac awdurdod trydydd parti i ddarparu gwybodaeth am unigolyn
20.    y mathau o wybodaeth y mae angen eu hadalw a pham mae angen pob un
21.    y camau y byddech yn eu cymryd i geisio eglurhad a chadarnhad ynghylch unrhyw wybodaeth sy'n amwys neu ar goll o naratif unigolyn neu drydydd parti
22.    sut mae defnyddio cofnodion meddyginiaeth cleifion neu ffynonellau gwybodaeth eraill i adalw a chadarnhau hanes meddyginiaeth
23.    gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
24.    pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB6
Cynllunio triniaeth ac asesu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM29 & SFHPHARM30

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

moddion; cyffuriau; cysoni; caffael; hanes