Prosesu gwybodaeth fferyllfa i sicrhau ad-daliad a chydnabyddiaeth priodol

URN: SFHPHARM26
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â sicrhau ad-daliad a chydnabyddiaeth am bresgripsiynau a gwasanaethau fferyllfa.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
  2. sicrhau eglurhad ynghylch unrhyw wybodaeth sydd ar goll gyda'r person priodol
  3. cadarnhau pa eitemau a ganiateir ar bresgripsiwn gyda'r adran briodol o'r Tariff Cyffuriau neu'r ffurflyfr lleol os yw hynny'n briodol
  4. cyflwyno hawliadau cywir a phriodol ar gyfer ad-daliad/cydnabyddiaeth presgripsiynau neu wasanaeth
  5. gwirio bod unrhyw wybodaeth ar y presgripsiwn yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ac yn gyflawn a darllenadwy
  6. cofnodi nifer y ffurflenni presgripsiwn, yr eitemau a/neu'r taliadau yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  7. cwblhau ffurflenni ad-daliadau/cydnabyddiaeth cywir yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  8. cyflwyno ffurflenni ad-daliadau/cydnabyddiaeth i'r awdurdod perthnasol, gan ddilyn y canllawiau a bennwyd lle bo gofyn
  9. delio'n brydlon gydag unrhyw bresgripsiynau a wrthodwyd gan yr awdurdod perthnasol yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  10. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1.    beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2.    pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3.    deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4.    gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5.    y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6.    pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7.    y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8.    pwrpas y Tariff Cyffuriau, gan gynnwys:
8.1    y rheoliadau sy'n llywodraethu'r cyflenwad o eitemau a ganiateir ar bresgripsiynau
8.2    y dosbarthiadau a'r meini prawf ar gyfer ad-daliadau/cydnabyddiaeth presgripsiynau
9.    enwau masnachol a chyffredinol moddion a'r gwahaniaeth rhyngddynt
10.    adnoddau i gynorthwyo wrth gyflwyno hawliadau am ad-daliadau presgripsiynau a gwasanaeth
11.    y cam i'w gymryd pan gyflwynir presgripsiwn anghyflawn neu aneglur
12.    y systemau a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol i gwblhau'r ffurflenni ad-daliadau
13.    y systemau a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol i gwblhau'r ffurflenni cydnabyddiaeth
14.    y gweithdrefnau cywir i sicrhau ad-daliad am bresgripsiynau a gwasanaethau
15.    y rhesymau pam na all yr awdurdod perthnasol roi ad-daliadau/cydnabyddiaeth  
16.    goblygiadau hawliadau anghywir am ad-dalu taliadau presgripsiwn a gwasanaethau, lle bo hynny'n briodol
17.    pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 1 Cyfathrebu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM26

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cymeradwyo; presgripsiynau; gweinyddu; prosesu; fferylliaeth; taliad