Cyflenwi rhwymiadau a chyfarpar

URN: SFHPHARM25
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu cyflenwi rhwymiadau a chyfarpar i unigolion. Gall hyn gynnwys gweithio yn y fferyllfa, tu allan i'r fferyllfa yng nghartref yr unigolyn, mewn cartref preswyl neu nyrsio neu ym meddygfa Meddyg Teulu neu leoliad gofal iechyd arall.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i
Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n
cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar,
tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i
ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r
polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2.    cadarnhau bod y cyfarpar/ddyfais/cynnyrch a ragnodwyd ar ffurflen y presgripsiwn yn cyfateb i feini prawf y Tariff Cyffuriau
3.    sicrhau eglurhad ynghylch unrhyw wybodaeth sydd ar goll gyda'r person priodol
4.    cyflawni'r holl baratoadau angenrheidiol, yn ôl y gofyn, gan gynnwys trefnu amser cyfleus ar gyfer yr apwyntiad os bydd gofyn
5.    cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
6.    sicrhau bod y cyfarpar/ddyfais/cynnyrch yn cyfateb i ofynion yr unigolyn a/neu'r rhagnodydd
7.    sicrhau caniatâd dilys gan yr unigolyn neu gan drydydd parti yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
8.    lle bo hynny'n briodol, casglu mesuriadau'r unigolyn i sicrhau bod y cyfarpar/ddyfais/cynnyrch yn addas at eu hanghenion
9.    darparu'r holl wybodaeth berthnasol ynghylch defnyddio, cynnal a chadw a gofalu am y cyfarpar/ddyfais/cynnyrch mewn modd sy'n glir ac ar lefel briodol ar gyfer yr unigolyn
10.    esbonio sut dylid defnyddio'r cyfarpar/ddyfais/cynnyrch, a gwirio dealltwriaeth yr unigolyn o unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd
11.    parchu preifatrwydd, urddas, dymuniadau a chredoau unigolion, gan gyfyngu cymaint â phosibl ar unrhyw anghysur diangen
12.    cyflawni'r holl weithdrefnau sy'n galw am gyswllt corfforol â'r unigolyn mewn modd sy'n broffesiynol ac yn peri i'r unigolyn ymlacio
13.    gwirio bod modd defnyddio'r cyfarpar/ddyfais/cynnyrch newydd yn briodol, a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i sicrhau:
13.1    cysur yr unigolyn
13.2    defnydd cywir o'r cyfarpar
14.    cadarnhad bod yr unigolyn yn gallu gosod a defnyddio'r cyfarpar/ddyfais/cynnyrch yn gywir
15.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1.    beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2.    pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3.    deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4.    gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5.    y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6.    pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7.    y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8.    deddfwriaeth a phrosesau sefydliadol sy'n ymwneud â sicrhau cydsyniad dilys
9.    y camau i'w cymryd os na sicrheir cydsyniad dilys
10.    dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
11.    yr agweddau a'r goblygiadau seicolegol, galwedigaethol a chymdeithasol ar gyfer unigolion sy'n byw gyda chyflyrau
12.    hawl yr unigolyn i gael preifatrwydd a pharch
13.    pwrpas y Tariff Cyffuriau, gan gynnwys:
13.1    pa eitemau sy'n cael eu caniatáu ar bresgripsiynau
13.2    y dosbarthiadau a'r meini prawf ar gyfer y taliad
14.    pwysigrwydd y dulliau cywir wrth fesur unigolion ar gyfer cyfarpar
15.    yr ystod o gynnyrch, cyfarpar, dyfeisiau a'u defnyddiau a sut maent yn cael eu cynnal a'u cadw oddi mewn i gwmpas eich ymarfer
16.    polisïau rheoli clwyfau a stoma
17.    pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB4 Galluogi
i Ymdrin ag Anghenion Iechyd a Llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM25

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyflenwad; cyfarpar; cartref; dosbarthu; fferylliaeth; gwasanaethau