Darparu gwasanaeth casglu a dosbarthu effeithiol i fferyllfa

URN: SFHPHARM24
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu eich rôl yn darparu gwasanaethau casglu a dosbarthu effeithiol i fferyllfa. Mae hyn yn golygu gweithio y tu allan i'r fferyllfa yng nghartref yr unigolyn, mewn cartref preswyl neu nyrsio, ym meddygfa Meddyg Teulu neu mewn lleoliadau gofal iechyd eraill.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    cyfathrebu â'r derbynnydd a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
2.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
3.    cyflawni'r holl baratoadau angenrheidiol cyn yr ymweliad
4.    casglu eitemau a weinyddwyd i fynd â nhw at y derbynnydd ar gais
5.    trefnu amser cyfleus i'w casglu/dosbarthu
6.    casglu/dosbarthu'r eitemau yn unol ag anghenion y derbynnydd ac oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a'r canllawiau cenedlaethol  
7.    sicrhau eich bod yn cynnal yr amodau storio cywir ac yn diogelu eitemau wrth eu cludo
8.    cadarnhau pwy yw'r derbynnydd neu'r derbynnydd awdurdodedig
9.    darparu gwybodaeth yn glir ac mewn modd y gall y derbynnydd ei ddeall, oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
10.    cadarnhau bod y derbynnydd yn deall yr wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi iddyn nhw a chasglu unrhyw lofnodion angenrheidiol gan dderbynyddion
11.    sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i'r person priodol am unrhyw faterion sy'n codi neu gwestiynau gan y derbynnydd
12.    parchu preifatrwydd, urddas, dymuniadau a chredoau unigolion
13.    cynnal eich diogelwch eich hun wrth weithio'n ynysig, drwy roi gwybod i berson priodol yn y gwaith:
13.1    ble rydych chi'n mynd
13.2    pryd rydych chi'n disgwyl bod nôl
14.    sicrhau bod gennych chi ryw fodd i alw am help
15.    gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
16.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1.    beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2.    pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3.    deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4.    gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5.    y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6.    pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7.    y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i'ch cydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8.    dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
9.    trafod presgripsiynau a moddion yn ddiogel ac yn saff, yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau sefydliadol cyfredol
10.    eich diogelwch eich hun a'r nwyddau fferyllol wrth ddarparu gwasanaeth casglu/dosbarthu y tu allan i'r fferyllfa
11.    polisïau a gweithdrefnau sefydliadol pan fethir â dosbarthu a phan ddychwelir moddion diangen
12.    pwysigrwydd dweud wrth bobl yn y gwaith:
12.1    ble rydych chi'n mynd
12.2    pryd rydych chi'n disgwyl bod nôl
13.    sut mae darparu gwybodaeth glir a chywir a gwirio dealltwriaeth yr unigolyn o'r wybodaeth a ddarparwyd
14.    pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: EF3
Trafnidiaeth a Logisteg


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM24

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Fferylliaeth; gwasanaeth; dosbarthu; cartref; moddion