Paratoi dogfennau a deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynnyrch aseptig

URN: SFHPHARM21
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu cynhyrchu dogfennau a pharatoi'r deunyddiau cychwynol, y cydrannau a'r nwyddau traul eraill sy'n angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu cynnyrch aseptig. Mae'n cwmpasu paratoi dogfennau ar gyfer gweinyddu a gweithgynhyrchu.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
  2. gwisgo'r dillad priodol sy'n berthnasol i'r maes gwaith, gan ddilyn y weithdrefn gywir
  3. sicrhau bod yr ardaloedd amgylcheddol wedi cael eu glanhau gan ddefnyddio'r cyfarpar a'r deunyddiau cywir
  4. sicrhau bod yr ardal waith bob amser yn lân ac yn daclus
  5. sicrhau eich bod yn gweithio gan ddefnyddio'r presgripsiwn cywir/archeb gywir
  6. cadarnhau bod gennych chi'r dogfennau cywir ar gyfer y cynnyrch, gan gwblhau unrhyw gyfrifiadau fel sy'n briodol
  7. cynhyrchu'r dogfennau perthnasol yn unol â chanllawiau a phrotocolau lleol
  8. cynhyrchu'r labeli a sicrhau bod hanes yr holl labeli a gynhyrchir yn hysbys a'u bod yn gyflawn, yn gywir ac yn ddarllenadwy
  9. dyrannu rhif swp a dyddiad dod i ben ar gyfer y cynnyrch
  10. sicrhau bod y paramedrau amgylcheddol perthnasol o fewn y terfynau a bennwyd
  11. dethol y deunyddiau cychwynnol a'r cyfarpar cywir ar gyfer y cynnyrch, gan gofnodi'r wybodaeth berthnasol ar y dogfennau cywir
  12. cadarnhau bod y deunyddiau cychwynnol a'r cyfarpar yn addas at y diben 
  13. sicrhau bod y gwiriadau priodol fel rhan o'r broses wedi cael eu cyflawni gan y person perthnasol
  14. cofnodi ac adrodd am unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  15. rhoi adborth i gydweithwyr ynghylch unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau er mwyn lleiafu'r gwallau posibl yn y dyfodol
  16. nodi manylion cywir a chlir ar yr holl ddogfennau perthnasol
  17. diheintio'r deunyddiau cychwynnol a'r cyfarpar er mwyn eu trosglwyddo i'r ystafell lân
  18. gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
  19. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. egwyddorion ymarfer gweithgynhyrchu da, gan gynnwys systemau ansawdd fferyllol a'ch rôl chithau yn hynny
  9. y gwahaniaeth rhwng paratoi ar gyfer cleifion unigol a pharatoi ar gyfer stoc a sut mae hynny'n cael ei roi ar waith yn gyffredinol yn y gweithle
  10. y canllawiau cydnabyddedig sy'n ymwneud â pharatoi aseptig
  11. pwysigrwydd cadw'r amgylchedd gweithio yn lân
  12. pwysigrwydd hylendid personol a defnydd cywir o ddillad amddiffynnol / ystafell lân
  13. y gwahanol fathau o ardaloedd amgylcheddol a reolir a phryd dylid eu defnyddio
  14. ffynonellau posibl halogi a'r dulliau atal priodol
  15. y deunyddiau a'r cyfarpar sy'n angenrheidiol ar gyfer paratoi cynnyrch aseptig
  16. egwyddorion cyfrifiadau fformwlâu, pwysau a mesurau
  17. pwysigrwydd paramedrau amgylcheddol, sut mae cyflawni eu gweithdrefnau monitro ac atgyfeirio os ydynt y tu allan i'r terfynau a bennwyd
  18. y gwahanol fathau o gynnyrch
  19. nodweddion cemegol a ffisegol cynhwysion sy'n berthnasol i'r ffurfio a'r cymysgu, gan gynnwys unrhyw ryngweithio sy'n digwydd o ran y deunyddiau crai a'r cydrannau
  20. gofynion a chonfensiynau labelu a phecynnu
  21. technegau aseptig a phryd mae defnyddio'r gwahanol brosesau i leiafu unrhyw risgiau cysylltiedig
  22. y gweithdrefnau ar gyfer glanhau, dadhalogi, a pharatoi'r amgylchedd a'r cydrannau
  23. pwysigrwydd cyflawni gwiriadau cywirdeb ac ansawdd
  24. pwysigrwydd defnyddio dogfennau cymeradwy
  25. sut mae canfod camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
  26. achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
  27. gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
  28. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM21

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Aseptig; gweinyddu; gweithgynhyrchu; paratoi; fferylliaeth; cynhyrchu