Archebu stoc fferyllol

URN: SFHPHARM12
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu archebu stoc fferyllol sy'n angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth fferyllfa.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2.    nodi gofynion yn gywir o ran stoc fferyllol
3.    cadarnhau bod yr archeb yn gywir o ran y canlynol:
3.1    yr eitem
3.2    y ffurflen
3.3    y cryfder
3.4    y swm sy'n ofynnol
4.    caniatáu ar gyfer amrywiadau tymhorol yn y defnydd o stoc wrth gyflwyno'r archeb
5.    gwirio'r archeb gyda pherson priodol, pan fo angen
6.    prosesu'r archeb gyda'r cyflenwr/lleoliad cywir gan ddefnyddio'r dogfennau/dull gofynnol, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
7.    os nad oes stoc ar gael o'r cyflenwr/lleoliad, cymryd camau priodol i sicrhau nad yw hynny'n effeithio ar ofal unigolion
8.    sicrhau y rhoddir sylw arbennig i unrhyw archebion arbennig a chynnydd unrhyw archebion sydd heb eu cyflawni
9.    gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
10.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. y gwahanol brosesau a deddfwriaeth caffael sy'n berthnasol wrth archebu stoc fferyllol
  9. eich cyfrifoldebau a'r canllawiau cyfredol sy'n berthnasol wrth archebu stoc fferyllol
  10. y gwahaniaeth rhwng moddion patent a moddion cyffredinol
  11. y gwahanol ffurfiau ar foddion a pham mae'n bwysig archebu niferoedd priodol o'r ffurf a'r cryfder cywir
  12. sut mae cyflwyno archeb gyda'r cyflenwr priodol
  13. pwysigrwydd sicrhau bod stoc ar gael ar sail anghenion unigolion
  14. effaith bosibl argaeledd stoc ar ofal unigolion
  15. pwysigrwydd rhoi sylw i amrywiadau tymhorol wrth archebu stoc fferyllol
  16. y camau i'w cymryd os na fydd stoc ar gael
  17. mewnbynnu ac adalw data stoc er mwyn sicrhau bod y lefelau'n briodol i reoli'r stoc
  18. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: G3 Caffael a
Chomisiynu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPHARM12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

stoc; archeb; cynnyrch Fferyllol; archebu; rheolaeth