Paratoi moddion ar y pryd

URN: SFHPHARM11
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu eich rôl wrth baratoi a chreu moddion ar y pryd at ddefnydd unigolion. Mae hynny'n galw am gyfrifo symiau'r cynwysyddion angenrheidiol yn gywir, creu, pecynnu a labelu'r cynnyrch yn gywir, gan roi sylw i'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
  2. gwirio'r presgripsiwn/archeb i gadarnhau ei fod yn nodi'n glir y cynnyrch sy'n ofynnol
  3. dethol y fformwla gywir ar gyfer y presgripsiwn/yr archeb
  4. cadarnhau bod yr ardal baratoi a'r cyfarpar yn lân ac yn barod i'w defnyddio
  5. dethol a defnyddio'r cyfarpar cywir ar gyfer y broses a'r cynnyrch
  6. cadarnhau bod y dogfennau cywir, y deunyddiau crai, y cyfarpar a'r nwyddau traul ar gael ac yn barod i'w defnyddio, cyn i chi gychwyn ar y gwaith paratoi
  7. cadarnhau bod y cynhwysion a ddewiswch yn cyfateb i'r fformwla ac yn addas at y diben
  8. cymryd y camau priodol lle bo anghysondebau, achosion lle bu camgymeriad bron â digwydd, neu wallau o ran y moddion neu'r cynnyrch
  9. gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
  10. cyfrifo a mesur y cynhwysion yn gywir i fodloni gofynion y fformwla
  11. sicrhau bod y cyfrifiadau a'r mesuriadau'n cael eu gwirio gan berson priodol
  12. paratoi'r cynnyrch drwy ddilyn y fformwla cywir, defnyddio'r cyfarpar cywir a dilyn y broses gywir
  13. pecynnu a labelu'r cynnyrch yn gywir
  14. sicrhau bod y person priodol wedi cyflawni'r gwiriadau perthnasol, ac anfon y moddion ymlaen ar gyfer y prawf cywirdeb terfynol
  15. glanhau a dadhalogi pob ardal waith gan ddefnyddio'r dull a'r cyfarpar priodol, a chlirio pob gwastraff oddi yno
  16. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.    beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2.    pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3.    deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4.    gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5.    y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6.    pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7.    y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8.    y gofynion moesegol a chyfreithiol cyfredol sy'n llywodraethu paratoi moddion ar y pryd
9.    egwyddorion ymarfer gweithgynhyrchu da, gan gynnwys systemau ansawdd fferyllol a'ch rôl chithau yn hynny
10.    nodweddion cemegol a ffisegol cynhwysion sy'n berthnasol i'r ffurfio a'r cymysgu
11.    ffactorau sy'n peri i'r stoc ddirywio, gan gynnwys:
11.1    amodau amgylcheddol
11.2    amodau storio
11.3    halogi microbaidd
12.    ffynonellau halogi a dulliau atal priodol
13.    pwysigrwydd cadw'r amgylchedd gweithio yn lân
14.    sut mae glanhau'r ardal baratoi a'r cyfarpar, cyn ac ar ôl eu defnyddio
15.    pwysigrwydd hylendid personol a defnydd cywir o ddillad amddiffynnol personol
16.    pwysigrwydd dewis y cyfarpar cywir i'w ddefnyddio
17.    pwysigrwydd defnyddio'r cyfarpar a'i gynnal a'i gadw'n gywir
18.    nodweddion gwahanol fathau o gynwysyddion a phryd mae defnyddio pob un ohonynt
19.    dulliau diogel o drin a storio deunydd peryglus a gweithdrefnau i leiafu'r risg
20.    egwyddorion cyfrifiadau fformwlâu, pwysau a mesurau a phwysigrwydd cynnal gwiriadau yn ystod y broses
21.    gofynion a chonfensiynau labelu
22.    canllawiau ar gyfer gwaredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel
23.    pryd a pham mae cofnodion meddyginiaeth cleifion yn cael eu defnyddio
24.    sut mae adrodd, cofnodi a gweithredu mewn ymateb i wallau posibl a gwirioneddol, gan ddefnyddio'r dogfennau priodol
25.    achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau gweinyddu
26.    gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
27.    pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

moddion; gweinyddu; fferyllol; cynnyrch; fferylliaeth; paratoi