Crynhoi eitemau a ragnodwyd

URN: SFHPHARM09
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu'r gweithgareddau sydd i'w cyflawni pan fyddwch yn crynhoi eitemau a ragnodwyd ac yn ymgymryd â'r gwiriad cywirdeb sy'n rhan o'r broses honno yn achos presgripsiynau a dderbyniwyd ar gyfer unigolion. Mae hyn yn galw am sicrhau bod yr eitem cywir yn cael ei grynhoi yn erbyn presgripsiwn dilys, a bod nifer y gwallau wrth weinyddu yn cael eu lleihau. Mae'n pwysleisio'r angen am weithio'n gywir ac yn dwt, gan ddefnyddio'r cyfarpar cywir ac oddi mewn i gyfyngiadau eich rôl alwedigaethol.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2.    cadarnhau bod yr ardal baratoi a'r cyfarpar yn lân ac yn cael eu cadw'n barod i'w defnyddio
3.    cwblhau'r dogfennau cywir, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
4.    dethol y moddion neu'r cynnyrch a chadarnhau ei fod yn cyfateb i'r presgripsiwn/cais, gan gynnwys cryfder a ffurf, a'i fod yn addas at y diben
5.    cymryd y camau priodol lle bo anghysondebau o ran y moddion neu'r cynnyrch
6.    paratoi'r moddion neu'r cynnyrch gan ddefnyddio'r cyfarpar a'r prosesau cywir, a chyfrifiadau priodol os bydd angen
7.    crynhoi'r eitemau a ragnodwyd gan ddilyn y cyfarwyddiadau cywir ac adlunio eitemau yn ôl y galw
8.    sicrhau bod y label a gynhyrchir yn gywir a labelu'r eitem, gan ei wirio yn erbyn y presgripsiwn/cais
9.    cyflawni gwiriad crynhoi i sicrhau bod yr holl eitemau a ragnodwyd wedi'u crynhoi yn unol â'r cyfarwyddiadau:
9.1    gwirio bod yr eitem cywir wedi cael ei grynhoi yn y ffurf gywir a'r cryfder cywir
9.2    gwirio bod y nifer cywir wedi cael ei grynhoi neu bod trefniadau wedi'u gwneud i ddarparu cyflenwad pellach yn y dyfodol, fel y nodwyd ar y presgripsiwn/cais
9.3    gwirio bod y label ar yr eitem yn cyfateb i'r cynnyrch a grynhowyd a gofynion y presgripsiwn/cais, gan gynnwys y ffurf a'r cryfder
9.4    gwirio bod yr eitemau a grynhowyd yn addas at y diben
9.5    gwirio bod pecynnu priodol wedi'i ddefnyddio
9.6    gwirio detholiad priodol o ddyfeisiau moddion/eitemau amrywiol a gwybodaeth berthnasol i gyd-fynd â'r moddion neu'r cynnyrch
10.    os nodir unrhyw wallau crynhoi, eu hunioni yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
11.    anodi a chadarnhau'r presgripsiwn/cais yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
12.    anfon y presgripsiwn/cais a'r eitemau a grynhowyd ymlaen i'w gwirio'n derfynol o ran cywirdeb, fel y nodwyd yn y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
13.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. pwysigrwydd hylendid personol a defnydd cywir o ddillad amddiffynnol
  9. pwysigrwydd cadw'r amgylchedd gweithio a'r cyfarpar yn lân
  10. ffactorau sy'n peri i'r stoc ddirywio
  11. ffynonellau halogiad a chamau adferol priodol
  12. y confensiynau, y byrfoddau a'r derminoleg feddygol wrth ragnodi
  13. enwau masnachol a chyffredinol y moddion sydd o fewn cwmpas eich ymarfer
  14. sut mae moddion yn cael eu gweinyddu
  15. gwahanol gryfderau, ffurfiau, dognau a symiau moddion, pam y'u defnyddir, a sut mae eu cyfrifo
  16. gwahanol gamau'r weithdrefn wirio
  17. sut mae canfod camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau gweinyddu
  18. achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau gweinyddu
  19. gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
  20. pwysigrwydd dewis y cyfarpar cywir i'w ddefnyddio
  21. nodweddion gwahanol fathau o gynwysyddion a phryd mae defnyddio pob un ohonynt
  22. dulliau diogel o drin a storio deunydd peryglus a gweithdrefnau i leiafu'r risg
  23. prosesau adlunio
  24. gofynion a chonfensiynau labelu
  25. pryd a pham mae cofnodion meddyginiaeth cleifion yn cael eu defnyddio
  26. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM09 & SFHPHARM27

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gweinyddu; eitemau a weinyddwyd; fferylliaeth; gwirio cywirdeb; ar waith