Derbyn presgripsiynau

URN: SFHPHARM07
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn presgripsiynau. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    lle bo hynny'n briodol, cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
2.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
3.    cynnal cyfrinachedd ar hyd y broses o dderbyn y presgripsiwn 

4.    gwirio'r presgripsiwn er mwyn cadarnhau:
4.1    bod y manylion ar y presgripsiwn yn glir, yn gywir ac yn gyflawn
4.2    bod y presgripsiwn yn bodloni'r gofynion cyfreithiol
4.3    bod yr unigolyn wedi cwblhau'r datganiad ar y presgripsiwn os yw hynny'n ofynnol
4.4    tystiolaeth o esemptiad lle bo hynny'n briodol
5.    lle bo hynny'n briodol, darparu gwybodaeth berthnasol ynghylch:
5.1    taliadau presgripsiwn
5.2    esemptiadau
5.3    amserau aros a chasglu
5.4    gwasanaethau darparu amgen posibl
5.5    argaeledd y moddion/cynnyrch
5.6    derbynneb ar gyfer casglu'r presgripsiwn
6.    cyflawni'r holl weithdrefnau trafodion perthnasol yn brydlon ac yn gywir
7.    anfon y presgripsiwn ymlaen i'r cam nesaf yn y broses weinyddu, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
8.    gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
9.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol fel sy'n briodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ynghylch derbyn ac adalw presgripsiynau a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth gyfredol ynghylch taliadau presgripsiwn ac esemptiadau a'r gwahaniaethau ymarfer ar draws y Deyrnas Unedig
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. y rheoliadau a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o bresgripsiynau a moddion
  9. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
  10. y gwahanol fathau o ragnodwyr
  11. y gwahanol fathau o bresgripsiynau a phryd maen nhw'n cael eu defnyddio
  12. y gwahanol ffyrdd o dderbyn presgripsiynau
  13. y manylion sy'n ofynnol ar bresgripsiwn a pham mae eu hangen
  14. esemptiadau a sut gall unigolion hawlio ad-daliadau, gan gynnwys defnyddio ffurflenni swyddogol a thystysgrifau rhagdalu
  15. y gweithdrefnau trafodion a gweinyddu sy'n ofynnol o dan reoliadau'r llywodraeth a'r rhai sy'n berthnasol i'ch gweithle
  16. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 1
Cyfathrebu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM07

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fferylliaeth; rhagnodedig; moddion; ffurfiau; presgripsiwn electronig