Darparu cyngor ynghylch moddion a chynnyrch sydd heb eu rhagnodi

URN: SFHPHARM04
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cyngor i unigolion ynghylch moddion a chynnyrch sydd heb eu rhagnodi. Mae'r safon yn ymwneud â chanfod gofynion amrywiaeth o unigolion trwy ddefnyddio technegau holi priodol a, lle bo hynny'n briodol oddi mewn i gwmpas eich ymarfer, argymell moddion addas o'r Rhestr Gwerthiant Cyffredinol neu gynnyrch Fferyllol fydd yn diwallu eu hanghenion.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
2.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
3.    defnyddio technegau holi priodol i ganfod gofynion ac anghenion yr unigolyn
4.    cynnig moddion/cynnyrch i'r unigolyn a fydd yn diwallu eu hanghenion, lle bo hynny'n briodol
5.    darparu gwybodaeth a chyngor perthnasol i'r unigolyn ynghylch y moddion neu'r cynnyrch
6.    cadarnhau gyda'r unigolyn:
6.1    eu bod wedi deall yr wybodaeth a roddwyd gennych
6.2    bod yr wybodaeth a roesoch iddyn nhw yn bodloni eu gofynion
7.    os bydd angen, cyfeirio at y person priodol, gan drosglwyddo'r holl wybodaeth berthnasol
8.    gosod y moddion/cynnyrch yn y pecyn priodol cyn ei roi i'r unigolyn
9.    prosesu'r taliad yn unol â'ch polisïau sefydliadol
10.    lle mae'r Weithdrefn Weithredu Safonol, deddfwriaeth a/neu eich profiad yn gofyn eich bod yn cyfeirio ymlaen at berson priodol, egluro wrth yr unigolyn y cam sy'n cael ei gymryd a pham
11.    hysbysu'r person priodol pan wneir cais am symiau gormodol neu reolaidd o foddion y gellir eu cam-drin neu eu camddefnyddio, cyn cwblhau'r cais
12.    hysbysu'r unigolyn yn gwrtais pan na ellir cyflawni'r cais am foddion/gynnyrch a chymryd camau priodol
13.    trin pob gwybodaeth yn gyfrinachol
14.    darparu cyngor ar ffordd o fyw a chyngor arall perthnasol yng nghyswllt symptomau
15.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol, lle bo hynny’n briodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
  9. pryd a sut mae defnyddio'r protocolau perthnasol ar gyfer gwerthu moddion yn ddiogel
  10. prif weithredoedd a sgîl-effeithiau cynhwysion gweithredol y mathau mwyaf cyffredin o foddion a ddefnyddir nad ydynt yn cael eu rhagnodi
  11. y gwahanol ddosbarthiadau o foddion
  12. rhyngweithiadau, rhybuddion a gwrth-ddangosyddion mathau cyffredin o foddion a ddefnyddir nad ydynt yn cael eu rhagnodi 
  13. pa foddion neu gynnyrch sy'n gallu cael eu camddefnyddio neu eu cam-drin gan unigolion
  14. sut mae rhoi cyngor ar ddefnydd priodol o foddion a chynnyrch nad ydynt yn cael eu rhagnodi
  15. sut mae cynnal preifatrwydd yr unigolyn wrth ofyn cwestiynau sy'n gysylltiedig â'u hanghenion
  16. defnyddio technegau holi priodol i gasglu gwybodaeth berthnasol
  17. anghenion amrywiol unigolion
  18. ffynonellau gwybodaeth y gellir eu cyrchu a'r wybodaeth y gallwch chi a chydweithwyr eraill ei rhoi i unigolion
  19. pryd ac at bwy y dylech chi gyfeirio i gael gwybodaeth/cyngor
  20. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 1
Cyfathrebu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM04 & SFHPHARM05

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

symptomau; gweithredoedd; moddion; defnydd; cyngor; rheoli; gwerthiant; moddion; gwerthu; cynnyrch; moddion dros y cownter