Ymateb i ymholiadau fferyllol a cheisiadau am wybodaeth

URN: SFHPHARM03
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys ymateb i ymholiadau fferyllol a cheisiadau am wybodaeth. Mae'n cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor fferyllol i unigolion, gan gynnwys sensitifrwydd darparu'r cyfryw wybodaeth a'r angen am roi sylw i fanylion. Mae'n amlygu pwysigrwydd cadw dogfennaeth glir a chywir, a phryd dylid ailgyfeirio ymholiadau at berson priodol.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
2.    sicrhau pwy yw'r unigolyn a natur yr ymholiad
3.    canfod:
3.1    pa wybodaeth sy'n ofynnol
3.2    pam mae angen yr wybodaeth
3.3    beth maen nhw eisoes yn ei wybod, os yw hynny'n briodol
4.    trin yr unigolyn mewn modd cwrtais, sy'n sensitif i'w hanghenion
5.    gwirio'u dealltwriaeth gan ddefnyddio technegau holi priodol, ac ailadrodd gwybodaeth hollbwysig
6.    cytuno ar y canlynol:
6.1    amserlen ar gyfer ymateb
6.2    fformat ar gyfer yr ymateb
7.    nodi ffynhonnell berthnasol yr wybodaeth a'i dogfennu'n eglur, lle bo hynny'n briodol
8.    cyrchu gwybodaeth berthnasol, gan geisio cymeradwyaeth os bydd angen, a'i gwerthuso i gadarnhau ei bod yn diwallu anghenion yr unigolyn
9.    paratoi'r ymateb mewn fformat strwythuredig y cytunwyd arno
10.    cadarnhau bod eich ymateb yn berthnasol i anghenion yr unigolyn gyda pherson priodol, lle bo hynny'n addas
11.    ymateb i'r unigolyn oddi mewn i'r amserlen y cytunwyd arni, neu roi diweddariad iddynt ar y cynnydd a wnaed
12.    sicrhau bod yr wybodaeth a/neu'r cyngor a roddir yn gywir, yn berthnasol ac yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, cyfrinachedd, moesegol a statudol
13.    cadarnhau gyda'r unigolyn bod eich ymateb wedi diwallu eu gofynion
14.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol, lle bo hynny’n addas


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  4. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  5. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  6. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  7. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
  8. y ffyrdd gwahanol o ymateb i geisiadau am wybodaeth a chyngor
  9. sut mae defnyddio technegau holi priodol i gasglu'r holl wybodaeth berthnasol
  10. yr agweddau a'r goblygiadau seicolegol, galwedigaethol a chymdeithasol ar gyfer unigolion sy'n byw gyda chyflyrau
  11. ffynonellau gwybodaeth berthnasol, a sut mae eu cyrchu a'u gwerthuso
  12. y camau i'w cymryd os na fedrwch ddelio gyda'r ymholiad
  13. sut mae paratoi ymateb cryno a chywir, gan gynnwys cyfeirio'r unigolyn ymlaen at wybodaeth bellach
  14. pryd a chan bwy y dylid gwirio eich ymateb
  15. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 1
Cyfathrebu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPHARM03

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fferylliaeth; ymholiadau; cwynion; cyngor; gwybodaeth fferyllol