Cyfrannu at ddefnyddio dyfeisiau meddygol yn ddiogel yn yr amgylchedd amdriniaethol

URN: SFHPCS2
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio dyfeisiau meddygol yn ddiogel yn gysylltiedig â chynnal asepsis, rheoli croes-heintio, a phrosesau dihalogi a sterileiddio yn yr amgylchedd gofal amdriniaethol. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. gwirio, trafod a storio pecynnau sy'n cael eu danfon o wasanaethau sterileiddio neu'r gweithgynhyrchwr yn y man cytunedig a chofnodi'r danfon yn y ddogfennaeth briodol
  6. defnyddio pecynnau yn ôl trefn gaeth a rhoi gwybod am brinderau cyflenwadau i'r person priodol
  7. gwirio cyfarpar, offer ac eitemau pecyn meddal a chadarnhau nad oes difrod iddynt
  8. adnabod pan na fydd pecyn di-haint yn addas i'w ddefnyddio, dychwelyd y pecyn i'r adran briodol neu i'r gweithgynhyrchwr a llenwi'r gwaith papur priodol
  9. gwirio hambyrddau offer cyn ac ar ôl eu defnyddio gyda pherson dynodedig, cadarnhau eu bod yn cynnwys yr eitemau penodedig a chwblhau'r gwaith papur gofynnol
  10. rhoi gwybod i unigolyn priodol am unrhyw gyfarpar coll
  11. casglu, didoli a storio eitemau wedi'u defnyddio i'w dihalogi a'u sterileiddio mewn modd priodol a diogel
  12. gosod cynwysyddion pecyn gwag, hambyrddau a dyfeisiau meddygol wedi'u defnyddio yn y man priodol i'w casglu
  13. rhoi cyfrif am eitemau tafladwy a chael gwared arnynt yn unol â pholisi a gweithdrefnau'r sefydliad
  14. sicrhau bod gofynion y systemau olrhain yn cael eu bodloni
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  9. defnyddio camau rhagofalus safonol ar gyfer rheoli heintiau a materion iechyd a diogelwch perthnasol eraill, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  10. prosesau dihalogi a sterileiddio
  11. sut i adnabod bod hambwrdd theatr neu gyfarpar a phecynnau atodol yn ddi-haint
  12. sut i archwilio cyfanrwydd cyfarpar, offer a phecynnau meddal, a'r mathau o ddifrod a nam y mae angen cadw llygad allan amdanynt
  13. ble a sut i gael gwared ar gyfarpar, offer a phecynnau meddal (rhai amldro ac untro) sydd wedi'u defnyddio, sy'n fudr ac sydd wedi'u difrodi
  14. y gwahanol fathau o wastraff a gollyngiadau, sut i gael gwared ar bob math ohonynt
  15. dulliau ar gyfer didoli a gwaredu neu storio cyfarpar wedi'i halogi a heb ei halogi cyn ei brosesu
  16. pwysigrwydd rhoi gwybod am eitemau sydd wedi'u difrodi neu sydd ar goll, a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hyn
  17. pwysigrwydd systemau olrhain ar gyfer offer theatr
  18. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPCS2

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gofal, amdriniaethol, dyfeisiau