Derbyn a thrafod sbesimenau clinigol yn y maes di-haint

URN: SFHPCS17
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn sbesimenau clinigol a gesglir yn ystod gweithdrefnau llawdriniaethol.

Gall fod angen y sbesimen at ddiben ymchwiliad, diagnosis, rhodd awtologaidd neu drawsblaniad.

Byddwch yn gweithio mewn rôl 'mewn sgrybs' pan fyddwch chi'n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau gofynion y clinigwr ar gyfer y math o sbesimen clinigol sydd i'w chasglu a bod cydsyniad perthnasol wedi'i gael
  6. sicrhau bod y cynhwysydd a'r cyfrwng cludo cywir ar gael ar gyfer y math o sbesimen sy'n cael ei gasglu
  7. cael a thrafod y sbesimen yn gywir ac yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
  8. labelu'r sbesimen yn gywir ac yn glir gyda'r holl wybodaeth berthnasol, yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr perthnasol
  9. cadarnhau'n ddi-oed unrhyw ansicrwydd ynghylch y gofynion ar gyfer trafod ac anfon gydag ymarferwr perthnasol
  10. anfon y sbesimen ar yr amser priodol ac yn y modd priodol i'r cyrchfan cywir i'w archwilio
  11. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl wrth wella gofal
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  11. y mathau o bathogenau sy'n benodol i'r unigolyn a'u gweithred, haint clwyfau a halogiad posibl sbesimenau clinigol
  12. canlyniadau posibl halogiad y sbesimen clinigol
  13. y gwahanol fathau o gynhwysydd a chyfryngau cludo sbesimenau ar gyfer:

    • histoleg
    • haematoleg
    • microbioleg
    • sytoleg
    • biocemeg
    • rhodd awtologaidd
    • trawsblaniad 
  14. y gofynion penodol ar gyfer trafod a chludo mathau gwahanol o sbesimenau er mwyn iddynt gyrraedd mewn cyflwr addas ar gyfer ymchwiliad

  15. y peryglon a'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig â labelu neu anfon sbesimenau yn anghywir
  16. y gofynion arbennig yn gysylltiedig â thrafod trychiadau rhewedig, a rôl yr ymarferwr ar gyfer delio â sbesimenau o'r fath
  17. rôl yr ymarferwr o ran monitro, adrodd a chofnodi gwybodaeth sy'n gysylltiedig â sbesimenau clinigol a sut mae hyn yn cysylltu ag aelodau eraill y tîm gofal
  18. rôl gwasanaethau cymorth diagnostig yn gysylltiedig â sbesimenau clinigol
  19. pwysigrwydd cofnodi gwybodaeth yn gysylltiedig â sbesimenau clinigol
  20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPCS17

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gofal, amdriniaethol, cael, trafod, sbesimenau, clinigol, di-haint