Cynorthwyo â pharatoi unigolion ar gyfer gweithdrefnau llawfeddygol a mewnwthiol yn glinigol

URN: SFHPCS15
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo â pharatoi unigolion ar gyfer gweithdrefnau llawfeddygol. Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth i'r ymarferwr cofrestredig yn ystod gorchuddio a pharatoi safleoedd llawdriniaeth.

Byddwch yn gweithio mewn rôl 'mewn sgrybs' pan fyddwch chi'n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  7. nodi safle llawdriniaeth yr unigolyn, a chadarnhau unrhyw ansicrwydd gyda'r ymarferwr cofrestredig cyn cynorthwyo â'r gwaith paratoi
  8. nodi ffynonellau halogi posibl a chymryd camau priodol i leihau unrhyw risgiau
  9. cynorthwyo â pharatoi'r unigolyn mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o'i urddas, ei gysur a'i ddiogelwch
  10. dewis a thrafod offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr ac mewn modd sy'n lleihau risg niwed
  11. dewis safle priodol ar y maes di-haint ar gyfer cydio offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
  12. sicrhau eich bod yn cyfrif am yr holl swabiau ac eitemau a ddefnyddiwyd wrth baratoi safle'r llawdriniaeth a'u cofnodi yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad cyn cael gwared arnynt yn ddiogel
  13. cael gwared ar wastraff yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl wrth wella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. y mathau o offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol a ddefnyddir wrth baratoi unigolyn ar gyfer llawdriniaeth, eu diben a'u swyddogaeth
  14. ffactorau sy'n effeithio ar y dewis o offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol ar gyfer unigolion
  15. ffactorau sy'n effeithio ar y dewis o safleoedd priodol ar gyfer cydio offerynnau
  16. asiantau cyffredin ar gyfer paratoi'r croen a'u cyflwyniad, eu dull enwi a'u mecanwaith/modd gweithredu
  17. camau rhagofalus y mae eu hangen i atal adweithiau alergaidd a llosgiadau diathermedd
  18. y mathau o orchudd llawfeddygol sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin, ac effeithiolrwydd gwahanol fathau o ddeunydd fel rhwystrau rhag croes-heintio
  19. peryglon ailddefnyddio cyfarpar y bwriadwyd iddo gael ei ddefnyddio unwaith yn unig
  20. y berthynas rhwng paratoi maes llawfeddygol yn effeithiol, atal halogi clwyf a mynediad llawfeddygol
  21. adegau penodol pan gaiff dulliau penodol, anarferol eu defnyddio i baratoi'r maes llawfeddygol ar y ward ac yn yr adran lawfeddygol, a'r sail resymegol dros hyn
  22. dulliau diogel ac effeithiol o osod asiantau paratoi'r croen, pa fath o baratoi'r croen y mae ei angen, a'r raddfa
  23. y llinellau atebolrwydd penodol yn y tîm llawfeddygol
  24. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPCS15

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gofal, amdriniaethol, paratoi, gweithdrefnau mewnwthiol