Cynnal gweithgareddau dirprwyedig o ran derbyn, trafod ac anfon sbesimenau clinigol

URN: SFHPCS10
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gweithgareddau'n gysylltiedig â sbesimenau clinigol, sef gweithgareddau y mae ymarferwr cofrestredig mewn sgrybs wedi'u dirprwyo i chi.

Mae hyn yn cynnwys derbyn y sbesimen oddi wrth yr ymarferwr mewn sgrybs a sicrhau ei fod yn cael ei osod yn y math cywir o gynhwysydd/cyfrwng cludo. Hefyd, mae'n cynnwys labelu'r cynhwysydd yn gywir ac anfon y sbesimen i'w brosesu. Bydd angen i chi sicrhau nad yw eich gweithgareddau'n peryglu'r maes di-haint.

Gall fod angen y sbesimen at ddiben ymchwiliad, diagnosis, rhodd awtologaidd neu drawsblaniad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. defnyddio'r cynhwysydd a'r cyfrwng cludo cywir yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr perthnasol
  6. cael a thrafod y sbesimen yn gywir ac yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
  7. labelu'r sbesimen yn gywir ac yn glir gyda'r holl wybodaeth berthnasol, yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr perthnasol
  8. cadarnhau'n ddi-oed unrhyw ansicrwydd ynghylch y gofynion ar gyfer trafod ac anfon gydag ymarferwr perthnasol
  9. anfon y sbesimen ar yr amser priodol ac yn y modd priodol i'r cyrchfan cywir i'w archwilio
  10. sicrhau nad yw eich safle na'ch symudiadau yn peryglu'r maes di-haint
  11. cymryd camau priodol yn ddi-oed os bydd unrhyw ddifrod i'r maes di-haint
  12. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  9. egwyddorion asepsis yn gysylltiedig â chynnal y maes di-haint
  10. y gwahanol fathau o gynhwysydd a dulliau cludo sbesimenau ar gyfer:

    • histoleg
    • haematoleg
    • microbioleg
    • sytoleg
    • biocemeg
    • rhodd awtologaidd
    • trawsblaniad
  11. ffyrdd y gall pobl sy'n gweithio'r tu allan i'r maes di-haint ei beryglu, a sut gellir osgoi hyn

  12. y gofynion penodol ar gyfer trafod a chludo mathau gwahanol o sbesimenau er mwyn iddynt gyrraedd mewn cyflwr addas ar gyfer ymchwiliad
  13. y peryglon posibl a'r canlyniadau eraill sy'n gysylltiedig â labelu neu anfon sbesimenau yn anghywir
  14. y gofynion arbennig yn gysylltiedig â thrafod trychiadau rhewedig, a'r rôl gylchredol ar gyfer delio â sbesimenau o'r fath
  15. ble a sut i gofnodi gwybodaeth ar sbesimenau
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPCS10

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gofal, amdriniaethol, derbyn, trafod, anfon, clinigol, sbesimenau