Dylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau seiliedig ar fewnblaniadau

URN: SFHOH32
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar ddylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, prosthesisau seiliedig ar fewnblaniadau; dyfeisiau deintyddol a wneir yn bwrpasol i ffitio siâp ceg unigryw'r unigolyn ac sy'n disodli un neu fwy o ddannedd coll. Mae'n hanfodol bod y technegydd deintyddol yn gweithio fel rhan o'r tîm yn y camau diagnostig a chynllunio triniaeth, yn ogystal ag wrth ddylunio a gweithgynhyrchu'r prosthesis ei hun. Oherwydd y cyfnod pan y gall fod angen i'r mewnblaniadau integreiddio â cheg yr unigolyn cyn i'r prosthesisau terfynol gael eu gosod yn eu lle, caiff prosthesisau dros dro eu darparu'n aml.

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r prosthesis a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel ymarferwyr deintyddol cyffredinol) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y prosthesis a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r prosthesisau seiliedig ar fewnblaniadau
  7. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  8. cyfathrebu'n effeithiol â phobl eraill berthnasol
  9. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  10. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  11. gweithgynhyrchu'r prosthesisau seiliedig ar fewnblaniadau gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol  
  12. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
  13. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
  14. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
  10. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
  11. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
  12. strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
  13. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  14. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  15. y newidiadau ffisiolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
  16. pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
  17. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  18. yr ymateb emosiynol gan yr unigolyn i golli dannedd
  19. rôl prosthesisau seiliedig ar fewnblaniadau wrth adfer a chynnal a chadw ategiad meinweoedd, estheteg, seineg, swyddogaeth achludiad a'r cymal arlais-fandiblol
  20. pwysigrwydd adfer a chynnal a chadw'r dimensiwn fertigol achludol
  21. buddion a chyfyngiadau prosthesisau seiliedig ar fewnblaniadau
  22. y defnydd o brosthesisau dros dro seiliedig ar fewnblaniadau a'r angen amdanynt
  23. egwyddorion ac ymarfer:

    • dargadwad a sefydlogrwydd
    • estheteg a seineg
    • argysylltiad 
  24. egwyddorion dyluniad prosthesis seiliedig ar fewnblaniad

  25. dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
  26. priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
  27. nwyddau gypswm ar gyfer gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
  28. cwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu prosthesisau seiliedig ar fewnblaniadau
  29. polymerau deintyddol
  30. nodweddion strwythurol cadwyni polymer
  31. polymerau sylfaen dannedd gosod
  32. serameg a deunyddiau tebyg a ddefnyddir mewn technoleg ddeintyddol, gan gynnwys ar gyfer pentanau (abutments)
  33. aloiau deintyddol
  34. deunyddiau dannedd artiffisial
  35. deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
  36. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  37. dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny 
  38. sut i gyfathrebu'n effeithiol â phobl eraill berthnasol
  39. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  40. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  41. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael 
  42. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  43. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill 
  44. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  45. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  46. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  47. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH32

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Prosthesis, seiliedig ar fewnblaniad, digidol