Dylunio a gweithgynhyrchu argaeadau

URN: SFHOH31
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar ddylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, argaeadau (obturators). Bwriedir i argaeadau ddisodli taflod y genau ac ardaloedd cysylltiedig, hyd at ac yn cynnwys cynnal crau'r llygad. Gall argaeadau gynnwys set o ddannedd gosod cyflawn neu rannol yn eu dyluniad a, hefyd, gallant gael eu defnyddio wrth adsefydlu unigolion y mae angen prosthesisau wynebol arnynt.

Defnyddir argaeadau i gywiro problemau cynhwynol, fel taflodau bylchog, neu ddiffygion caffaeledig, er enghraifft pan fydd meinwe wedi'i chodi oherwydd presenoldeb tiwmorau. Gall argaeadau fod yn barhaol fel y maent ar gyfer y rhan fwyaf o broblemau cynhwynol, yn rhannol barhaol neu dros dro pan fydd angen gwneud argaead yn gyflym yn dilyn llawdriniaeth frys, neu pan fydd dannedd gosod presennol unigolyn yn cael eu defnyddio fel argaead dros dro. Oherwydd cymhlethdod anghenion yr unigolyn a'r gwaith cysylltiedig, mae angen i'r technegydd weithio'n agos gydag aelodau eraill tîm iechyd y geg.

Gall argaeadau gael eu gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau polymerig, o bolymerig gyda rhai cydrannau metelig, er enghraifft mecanweithiau cloi i'w cadw yn y geg, neu gyda fframwaith aloi metelig, megis ar y cyd â mewnblaniadau deintyddol. Mae'n hanfodol bod argaeadau'n ffitio'n union i'r unigolyn, neu bydd bwyd a diod yn dianc trwy drwyn yr unigolyn. Dylai argaeadau adfer golwg naturiol o ran lliw, siâp a maint; dylent ffitio ceg yr unigolyn yn gyfforddus, dylent gael eu cadw yn eu lle yng ngheg yr unigolyn, ni ddylent ganiatáu i weddillion bwyd gronni a dylent hwyluso lleferydd. Er mwyn gweithgynhyrchu prosthesis sy'n bodloni'r gofynion esthetig a swyddogaethol hyn, bydd angen cast cywir arnoch ac, i'r graddau y bo hynny'n bosibl o ystyried natur y broblem, cofnod cywir o'r berthynas rhwng gên uwch ac is yr unigolyn.

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r prosthesis a wneir yn bwrpasol. Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir yr argaead a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer, neu'r rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr lle bo hynny'n briodol. Oherwydd natur problemau iechyd y geg sy'n gofyn am ddatblygu argaeadau, bydd technolegwyr deintyddol yn tueddu i weithio'n agos gyda chleientiaid, unigolion (neu eu rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr fel y bo'n briodol) ac aelodau eraill y tîm gofal i'w datblygu. Mae hyn yn gofyn am sgiliau cyfathrebu da gyda phob un o'r uchod ac aelodau eraill y tîm gofal fel ei gilydd. 

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  7. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol 
  8. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  9. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  10. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r argaead
  11. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  12. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  13. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  14. gweithgynhyrchu'r argaead gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol 
  15. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen 
  16. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
  17. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  18. gwirio bod yr argaead gorffenedig yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  19. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  20. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  8. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  9. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  10. sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  12. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
  13. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
  14. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
  15. strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
  16. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  17. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  18. y newidiadau ffisiolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
  19. pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
  20. heintiau'r genau a'u triniaeth
  21. effeithiau afiechyd y geg ar ddyluniad a swyddogaeth prosthesisau a chyferpynnau
  22. malaenedd y geg a'r rheolaeth lawfeddygol a meddygol ar falaenedd y geg
  23. egwyddorion radiotherapi a chemotherapi a'u heffeithiau ar ddyluniad a swyddogaeth dyfeisiau
  24. dyluniad a gwneuthuriad y ddyfais cyn-lawdriniaethol
  25. effaith triniaethau ar y dewis o ddeunyddiau, dyluniad a swyddogaeth y cyferpyn a'r technegau gweithgynhyrchu; gwneuthuriad cyferpyn triniaeth radiotherapi a'r defnydd ohono
  26. trin deunydd ymbelydrol
  27. egwyddorion trosglwyddo meinwe, strwythur y croen, dulliau clinigol trosglwyddo meinwe, egwyddorion dylunio cyferpynnau a ddefnyddir wrth drosglwyddo meinwe 
  28. adferiad llawdriniaethol
  29. anatomi a ffisioleg ôl-driniaeth
  30. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  31. anghenion corfforol ac ymarferol yr unigolyn o ran colli meinwe feddal yng ngheudod y geg
  32. yr ymateb emosiynol gan yr unigolyn a phobl agos at yr unigolyn o ran colli meinwe feddal a dannedd
  33. rôl argaeadau wrth adfer a chynnal a chadw:

    • meinweoedd
    • ategiad meinweoedd
    • estheteg
    • seineg
    • swyddogaeth achludiad a'r cymal arlais-fandiblol 
  34. pwysigrwydd adfer a chynnal y dimensiwn fertigol achludol

  35. buddion a chyfyngiadau ailosod meinwe yn syth wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
  36. y defnydd o brosthesisau symudadwy dros dro a'r angen amdanynt
  37. y defnydd o leininau hydwyth a chyflyryddion meinwe
  38. cyfyngiadau dylunio tandoriadau blaen mawr a chyflyrau deintyddol sydd eisoes yn bodoli
  39. egwyddorion ac ymarfer:

    • dargadwad a sefydlogrwydd
    • estheteg a seineg
    • argysylltiad
  40. egwyddorion dyluniad argaead

  41. dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
  42. priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
  43. cynnyrch ar gyfer gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
  44. cwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu prosthesisau symudadwy
  45. polymerau deintyddol
  46. nodweddion strwythurol cadwyni polymer
  47. polymerau sylfaen dannedd gosod
  48. aloiau deintyddol
  49. deunyddiau dannedd artiffisial
  50. deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
  51. mewnblanoleg ac oseointegreiddio
  52. deunyddiau gwrthsafol
  53. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  54. dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny 
  55. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  56. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  57. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
  58. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  59. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill 
  60. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  61. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  62. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  63. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH31

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Argaeadau, digidol