Dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig sefydlog

URN: SFHOH30
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, cyferpynnau orthodontig symudadwy. I ddylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig symudadwy, bydd angen i chi ddeall, a gallu cymhwyso, egwyddorion damcaniaethol y driniaeth orthodontig ofynnol a rôl y cyferpyn o fewn y cynllun triniaeth hwnnw. Mae'r safon yn cynnwys prosesau gweithgynhyrchu cydrannau, cydosod cydrannau, blocio, arolygu a cherfwedd tandoriad; ychwanegu deunydd plât sylfaen priodol, prosesu'r polymerig a phrosesau gorffen terfynol. 

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r clinigwr sydd wedi rhagnodi a manylu'r cyferpyn orthodontig. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y cyferpyn ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig symudadwy
  7. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  8. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  9. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  10. gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig symudadwy gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol 
  11. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen 
  12. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
  13. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  14. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  6. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
  10. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
  11. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg a morffoleg dannedd sy'n ofynnol ar gyfer gweithgynhyrchu cyferpyn orthodontig symudadwy
  12. swyddogaeth a symudiad cyhyrau'r geg a'r cymal arlais-fandiblol 
  13. egwyddorion argysylltiad a'i effaith ar swyddogaeth cyferpynnau orthodontig symudadwy
  14. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  15. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  16. patrymau twf a brigo dannedd cynradd a pharhaol
  17. y newidiadau ffisiolegol sy'n gysylltiedig â symudiad dannedd
  18. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  19. nodau ac amcanion triniaeth orthodontig
  20. ffactorau allweddol yn llwyddiant triniaeth orthodontig, yn benodol, angori, sefydlogi, dargadw, problemau cyffredin a'r rhesymau cyffredin pam mae triniaeth yn methu
  21. y camau mewn triniaeth orthodontig a'r mathau o driniaeth orthodontig, a sut maent yn perthyn i'w gilydd
  22. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig symudadwy
  23. cwmpas triniaeth orthodontig gan ddefnyddio cyferpynnau orthodontig symudadwy
  24. y gwahanol fathau o gyferpynnau orthodontig symudadwy a'r cydrannau sy'n ofynnol
  25. y gwahanol gydrannau a ddefnyddir mewn cyferpynnau orthodontig symudadwy, dibenion pob un ohonynt a'u defnydd
  26. y defnydd o gastiau wrth ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod safle cydrannau ar gyfer cyferpynnau
  27. egwyddorion yr arfer gorau presennol o ran tocio modelau, sut i'w cymhwyso a gwerthuso'r canlyniadau
  28. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu platiau sylfaen a llwyfannau brathu
  29. natur a diben castiau archwilio
  30. defnydd a maint y grymoedd a ddefnyddir wrth symud dannedd
  31. dulliau o actifadu ac ail-actifadu cydrannau a chyferpynnau symudadwy
  32. sut caiff cyferpynnau eu ffitio, eu haddasu a'u hactifadu
  33. dulliau o addasu a chynnal a chadw cyferpynnau symudadwy
  34. y cofnodion (papur a deunydd) sy'n ofynnol
  35. sut mae'r broses galedu yn effeithio ar y dewis o ddeunyddiau a'r prosesau gweithgynhyrchu
  36. sut i nodi maint y cydrannau a'r math o gydrannau y bydd eu hangen
  37. yr amrywiaeth o gydrannau rhagffurfiedig sydd ar gael a dulliau o asesu eu haddasrwydd i'w defnyddio wrth adeiladu cyferpyn
  38. gwahanol drwch weiars a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o gydrannau a dulliau o nodi pa un sy'n ofynnol ac yn addas
  39. dulliau o sythu a phlygu weiar a'r offer a ddefnyddir
  40. goddefedd trafod y weiars, effeithiau eu trafod yn ormodol a sut i adnabod pan fydd hyn wedi digwydd
  41. dulliau o asesu addasrwydd cydrannau gwneuthuredig
  42. diben y gwahanol fathau o lwyfannau brathu a'r defnydd ohonynt, a sut caiff y rhain eu hadeiladu
  43. dulliau o ychwanegu'r polymerig; pam caiff gwahanol dechnegau eu defnyddio
  44. y defnydd o sbotweldio a sodro
  45. sut mae hyd a lefel y cerrynt yn effeithio ar gryfder a hyfywedd yr uniad a gynhyrchwyd
  46. sut i farnu pryd bydd y metelau wedi cael eu cynhesu'n ddigonol i doddi sodr, ond nid i ymyrryd â strwythur mecanyddol y metel
  47. canlyniadau gorgynhesu metelau a sodr yn ystod y sodro, gan gynnwys gwanhau a meddalu metelau yn benodol ac achosi sodr i dasgu yn hytrach na llifo'n llyfn, effaith y rhain ar gryfder a chyfanrwydd yr uniad a'r camau unioni y gellir eu cymryd
  48. sut i nodi'r rhesymau dros fethiant uniad wedi'i sodro
  49. y dulliau caledu gwahanol, sut mae pob un ohonynt yn gweithio, eu heffaith ac ym mha sefyllfa y caiff pob un ohonynt eu defnyddio orau 
  50. sut mae'r broses galedu yn effeithio ar y deunyddiau a'r cydrannau y gellir eu defnyddio
  51. nodweddion ffisegol deunyddiau a ddefnyddir mewn cyferpynnau a sut mae'r prosesau caledu yn effeithio arnynt
  52. y cyfryngau gwahanu gwahanol, pryd cânt eu defnyddio a pham
  53. dulliau tynnu'r fflasgiau
  54. technegau ar gyfer gorffen a llathru cyferpynnau
  55. y gwahanol fathau o sgriffio a llathrydd a'u diben 
  56. dulliau o lanhau cyferpynnau yn ddiogel ac yn effeithiol
  57. dulliau o asesu a gwirio diogelwch a derbynioldeb esthetig, swyddogaethol a chlinigol cyferpynnau gorffenedig
  58. dewis argysylltydd addas ar gyfer y math o gyferpyn sy'n cael ei ddylunio a'i weithgynhyrchu
  59. cofnodion achludol canolog
  60. pwysigrwydd esthetig wrth weithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig a'r angen i gynnwys dannedd artiffisial, os bydd angen
  61. cofnodion symudiadau ochrol ac allwthiol a'u defnydd
  62. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  63. dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny 
  64. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  65. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  66. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael 
  67. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  68. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill 
  69. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  70. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  71. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  72. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH30

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Cyferpynnau, orthodontig, symudadwy, digidol