Dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig ffwythiannol

URN: SFHOH28
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio dylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, cyferpynnau orthodontig ffwythiannol. Mae angen i chi ddylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau deintyddol a wnaed yn bwrpasol sy'n cael eu defnyddio i gywiro anghysondebau esgyrnol a dant-orfannol yn y plentyn neu'r oedolyn ifanc sy'n datblygu.

Yn y safon hon, defnyddir y term 'cleient' i olygu'r clinigwr sydd wedi rhagnodi a manylu'r cyferpyn orthodontig ffwythiannol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y cyferpyn ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
  7. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  8. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  9. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  10. gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig ffwythiannol gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
  11. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu, fel y bo angen
  12. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
  13. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  14. gwirio bod y cyferpynnau orthodontig ffwythiannol gorffenedig yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt 
  10. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
  11. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg a morffoleg dannedd sy'n ofynnol ar gyfer adeiladu cyferpyn orthodontig ffwythiannol
  12. swyddogaeth a symudiad cyhyrau'r geg a'r cymal arlais-fandiblol
  13. egwyddorion argysylltiad cytbwys a'i effaith ar swyddogaeth cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
  14. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  15. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  16. patrymau twf a brigo dannedd cynradd a pharhaol
  17. y newidiadau ffisiolegol sy'n gysylltiedig â symudiad dannedd
  18. twf a datblygiad macsila a mandibl
  19. cyfyngiadau cyfaddasiadau twf; cyfyngiadau a gwrtharwyddion i gyfaddasiad twf
  20. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg 
  21. nodau ac amcanion triniaeth orthodontig
  22. y ffactorau allweddol yn llwyddiant triniaeth orthodontig, problemau cyffredin ac achosion cyffredin methiant y driniaeth
  23. y camau mewn triniaeth orthodontig a'r mathau o driniaeth orthodontig, a sut maent yn perthyn i'w gilydd
  24. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
  25. cwmpas triniaeth orthodontig gan ddefnyddio cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
  26. egwyddorion dylunio ac adeiladwaith plât sylfaen a phlân cyfeirio cefn sy'n cyd-gloi
  27. natur a diben castiau archwilio
  28. defnydd a maint y grymoedd a ddefnyddir wrth symud dannedd a datblygiad twf mandiblol
  29. y gwahanol fathau o gyferpynnau orthodontig ffwythiannol a'r cydrannau sy'n ofynnol
  30. y defnydd o gastiau wrth ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod safle cydrannau ar gyfer cyferpynnau
  31. dulliau o actifadu ac ail-actifadu cydrannau a chyferpynnau ffwythiannol
  32. sut caiff cyferpynnau eu ffitio, eu haddasu a'u hactifadu
  33. dulliau o addasu, atgyweirio a chynnal a chadw cyferpynnau ffwythiannol
  34. egwyddorion technoleg cyferpynnau cyhyrffwythiannol a'i chymhwyso
  35. dulliau o fesur a dadansoddi ceffalometreg, gan gynnwys nodweddion, patrymau esgyrnol, uchder yr wyneb a pherthynas minddannedd
  36. sut mae'r broses galedu yn effeithio ar y dewis o ddeunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu
  37. sut i nodi maint y cydrannau a'r math o gydrannau y bydd eu hangen
  38. yr amrywiaeth o gydrannau rhagffurfiedig sydd ar gael a dulliau o asesu eu haddasrwydd i'w defnyddio wrth adeiladu cyferpyn
  39. gwahanol drwch weiars a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o gyferpynnau
  40. dulliau o nodi pa weiar sy'n ofynnol ac sy'n addas
  41. dulliau o sythu a phlygu weiar a'r offer a ddefnyddir
  42. goddefedd trafod y weiars, effeithiau eu trafod yn ormodol a sut i adnabod pan fydd hyn wedi digwydd
  43. dulliau o asesu addasrwydd cydrannau gwneuthuredig
  44. diben y gwahanol fathau o lwyfannau brathu a'r defnydd ohonynt, a sut caiff y rhain eu hadeiladu
  45. dulliau o ychwanegu'r polymerig; pam caiff gwahanol dechnegau eu defnyddio
  46. y defnydd o sbotweldio a sodro
  47. sut mae hyd a lefel y cerrynt yn effeithio ar gryfder a hyfywedd yr uniad a gynhyrchwyd
  48. dulliau o raddnodi cyfarpar, sut i benderfynu ar y gosodiadau cywir ar gyfer y maint a'r math o ddeunyddiau sy'n cael eu weldio
  49. sut i farnu pryd bydd y metelau wedi cael eu cynhesu'n ddigonol i doddi sodr, ond nid i ymyrryd â strwythur mecanyddol y metel
  50. achosion ac effeithiau namau mewn sodro
  51. sut i nodi'r rhesymau dros fethiant uniad wedi'i sodro
  52. y dulliau caledu gwahanol, sut mae pob un ohonynt yn gweithio, eu heffaith ac ym mha sefyllfa y caiff pob un ohonynt eu defnyddio orau  
  53. nodweddion ffisegol y deunyddiau a ddefnyddir mewn cyferpynnau a sut mae'r prosesau caledu yn effeithio arnynt
  54. y cyfryngau gwahanu gwahanol, pryd cânt eu defnyddio a pham
  55. dulliau tynnu'r fflasgiau
  56. ffyrdd o lanhau cyferpynnau i baratoi ar gyfer gorffen a llathru
  57. technegau ar gyfer gorffen a llathru cyferpynnau
  58. y gwahanol fathau o sgriffio a llathrydd a'u diben  
  59. dulliau o lanhau cyferpynnau yn ddiogel ac yn effeithiol
  60. dulliau o asesu a gwirio diogelwch a derbynioldeb esthetig, swyddogaethol a chlinigol cyferpynnau gorffenedig
  61. dewis argysylltydd addas ar gyfer y math o gyferpyn sy'n cael ei ddylunio a'i weithgynhyrchu
  62. cofnodion achludol canolog
  63. cofnodion symudiadau ochrol ac allwthiol a'u defnydd
  64. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  65. dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny 
  66. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  67. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  68. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
  69. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  70. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill 
  71. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  72. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  73. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  74. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH28

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Cyferpynnau, orthodontig, ffwythiannol, digidol