Dylunio a gweithgynhyrchu adferiadau pontydd lliw dannedd wedi’u seilio ar is-strwythurau anfetelig

URN: SFHOH26
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio dylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, adferiadau lliw dannedd trwy ddylunio a gweithgynhyrchu is-strwythurau pont anfetelig. Bydd angen i chi ddylunio a gweithgynhyrchu is-strwythurau pont anfetelig, gosod deunyddiau lliw dant at is-strwythurau pont anfetelig a'u gorffen nhw'n barod i'w ffitio yng ngheg yr unigolyn. 

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r adferiad. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir yr adferiad a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r adferiadau lliw dannedd sydd wedi'u seilio ar is-strwythurau anfetelig
  7. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  8. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  9. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  10. gweithgynhyrchu'r adferiadau lliw dannedd sydd wedi'u seilio ar is-strwythurau anfetelig gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
  11. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
  12. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod 
  13. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  14. danfon yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt 
  10. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol 
  11. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd 
  12. strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
  13. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg 
  14. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  15. y newidiadau ffisiolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
  16. pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol 
  17. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  18. egwyddorion ac ymarfer:

    • argysylltiad
    • estheteg a seineg 
  19. egwyddorion dylunio adferiadau

  20. effaith grymoedd cnoi ar adferiadau deintyddol, priodweddau gofynnol deunydd a dyluniad a gwneuthuriad yr adferiad i wrthsefyll llwythi cnoi a chynnal strwythurau dannedd caled.
  21. dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
  22. deunyddiau anfetelig a ddefnyddir mewn adferiadau
  23. diben pentanau, dargadwyr a phontigau
  24. sut i osod yr is-strwythur anfetelig ar y cast a chadarnhau:

    • ei fod yn ffitio'r cast
    • ei fod yn cydymffurfio â'r presgripsiwn
    • na fydd yn difrodi meinweoedd cyfagos yng ngheg yr unigolyn 
  25. ystyriaethau gweithgynhyrchu, gan gynnwys:

    • ffurf dannedd naturiol yr unigolyn
    • morffoleg y dannedd
    • effeithiau dannedd naturiol cyfagos ac adferiadau
    • ffurf coronol pontig
    • proffil y pontig yn gysylltiedig ag estheteg ac i osgoi trawma i'r gwrym gweddilliol
    • gofynion esthetig
    • gofynion y presgripsiwn 
  26. priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau a chwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu adferiadau

  27. deunyddiau adferol esthetig
  28. y berthynas rhwng asiadau cemegol a phriodweddau deunyddiau solet
  29. deunyddiau dyblygu a glanhau
  30. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  31. dulliau o reoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg
  32. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  33. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  34. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
  35. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  36. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
  37. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  38. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  39. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  40. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH26

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Adferiadau, pont, lliw, dannedd, is-strwythurau, anfetelig, digidol