Paratoi amgylcheddau, cafnau a wnaed yn bwrpasol, castiau a deis ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu adferiadau

URN: SFHOH20
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu adferiadau – adferiadau metelig sengl a chopaon ar gyfer gosod deunyddiau lliw dant, adferiadau lliw dant sengl, is-strwythurau metelig a chydrannau pont metelig, adferiadau lliw dant sengl seiliedig ar is-strwythurau metelig ac adferiadau pont lliw dant seiliedig ar is-strwythurau anfetelig. Bydd angen i chi baratoi a chynnal a chadw amgylcheddau, deunyddiau a chyfarpar ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu'r adferiad a chynhyrchu cafnau a wnaed yn bwrpasol, castiau gwaith a deis. 

Yn y safon hon, defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r adferiad a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir yr adferiad ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  6. adolygu'r presgripsiwn a'r contract a nodi'r deunyddiau a'r cyfarpar y bydd eu hangen yn gywir
  7. cadarnhau bod cyflwr yr amgylchedd lle gwneir y gwaith yn barod i'w ddefnyddio ac, os nad ydyw, cymryd unrhyw gamau adferol angenrheidiol
  8. dewis y math cywir a faint o ddeunyddiau y bydd eu hangen
  9. cadarnhau bod y cyfarpar gofynnol yn lân, yn gweithio'n gywir ac wedi'i osod yn gywir
  10. symud a thrafod cyfarpar a deunyddiau yn briodol ac yn ddiogel, yn gyson â gofynion cyfreithiol a sefydliadol presennol
  11. gwerthuso'r castiau neu'r gynrychiolaeth ddigidol a'r presgripsiwn i benderfynu beth y mae angen ei gynnwys yn nyluniad y cafnau a wnaed yn bwrpasol ar gyfer:

    • deintiad yr unigolyn
    • y deunydd neu'r dechneg fwriadedig ar gyfer defnyddio'r cyferpyn 
  12. cymhwyso deunyddiau cynnal bwlch priodol i'r cast neu greu cynrychiolaethau digidol i:

    • ddileu tandoriadau

    • darparu'r bwlch cywir ar gyfer y deunydd argraff a ddewisodd y cleient 

  13. cymhwyso cyfrwng gwahanu i'r cast sy'n briodol i ddeunydd y cast a'r dull prosesu a ddefnyddir

  14. dewis deunyddiau sy'n briodol i natur a gofynion adeiladu'r cafn a wneir yn bwrpasol a'u paratoi yn y modd a'r swm cywir
  15. ffurfio'r deunydd a ddewiswyd dros y cast yn unol â'r amlinelliad amgantol a nodwyd ymlaen llaw a, lle bo angen, gosod dolenni ac ategion y bysedd
  16. prosesu deunyddiau gan ddefnyddi'r dull cywir ar gyfer y deunydd dan sylw
  17. tynnu'r cyferpyn o'r cast mewn ffordd sy'n atal difrod a thynnu unrhyw ddeunydd cynnal bwlch sy'n weddill
  18. llyfnhau amgant, dolen ac arwynebau eraill y cyferpyn a rhydyllu arwyneb y cafn, fel y bo'r gofyn
  19. cadarnhau bod y cafn gorffenedig yn lân, nad oes iddo ddiffygion a'i fod yn cydymffurfio â'r presgripsiwn
  20. glanhau'r ddyfais a wnaed yn bwrpasol yn effeithiol, nodi cyfeirnod unigryw'r unigolyn a'r dyddiad cynhyrchu arni yn gywir a'i dychwelyd i'r cleient ar yr amser cywir
  21. llunio cofnodion cyflawn, cywir a chyfredol ynghylch manylion adnabod, cydrannau a gweithgynhyrchu'r ddyfais gwneud
  22. pan dderbyniwch gafn pwrpasol yr argraff neu'r wybodaeth ddigidol briodol, pennu gofynion y presgripsiwn yn gywir o'r wybodaeth sydd ar gael
  23. glanhau'r argraff sy'n dod i law yn effeithiol, cadarnhau nad oes ganddi unrhyw wagleoedd neu ddiffygion sy'n peri ei bod yn annerbyniol a'i pharatoi'n briodol i dderbyn deunydd y cast
  24. rhoi gwybod i'r cleient yn briodol os nad yw ansawdd yr argraff yn ddigonol a chael argraff newydd
  25. paratoi deunydd castio a dei sy'n briodol ar gyfer:

    • y broses a ddefnyddir i weithgynhyrchu'r adferiad terfynol
    • natur deunydd yr argraffiad 
  26. arllwys y deunydd cast a dei i'r argraff, i gynhyrchu castiau a deis sydd:

    • yn darparu delwedd gadarnhaol gywir o'r argraff

    • yn cynnwys y manylion a'r arwyneb y mae eu hangen i greu'r adferiad

    • yn drwchus
    • yn rhydd rhag gwagleoedd neu namau gweladwy eraill 
  27. adeiladu ardaloedd gorchfannol meddal yn briodol yn unol â'r swm gofynnol, ar gyfer y deis sydd angen y rhain

  28. cynhyrchu ymylon ar ddeis trwy eu torri a'u tocio'n gywir hyd at yr ymylon clinigol sy'n cael eu hatgynhyrchu ar yr argraffiad
  29. gorffen castiau a deis fel eu bod yn bodloni gofynion archwilio a chofnodi
  30. gwerthuso castiau a deis yn unol â gofynion adfer a dileu unrhyw dandoriadau diangen
  31. nodi cyfeirnod unigryw'r unigolyn yn gywir ar gastiau a deis
  32. mowntio castiau ar argysylltydd priodol, eu hargysylltu'n gywir ac yn gyson â chofrestriad achludol yr unigolyn a chofnodi'r wybodaeth angenrheidiol yn gywir
  33. ychwanegu caledydd arwyneb dei a deunyddiau cynnal bwlch os bydd angen y rhain
  34. storio castiau a deis nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn modd ac mewn lle diogel, priodol
  35. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  36. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
  10. strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
  11. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  12. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  13. argysylltiad
  14. egwyddorion dylunio adferiadau
  15. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
  16. gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
  17. deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
  18. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  19. dulliau o atal rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny
  20. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  21. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  22. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
  23. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol; dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill; dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel; dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar a'ch rôl yn hyn
  24. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 
  25. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH20

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Cafnau, gwnaed yn bwrpasol, castiau, deis, adferiadau